Cyfleoedd Byd-eang
Bachwch ar y cyfle i ganfod diwylliannau eraill, herio eich hun a chasglu profiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, a hynny am flwyddyn academaidd, un semester neu ychydig wythnosau yn ystod eich gwyliau.
Gall astudio yn un o'n prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc a chyfle i ddyfnhau ac ategu eich astudiaethau yn Aberystwyth. Gall y profiad o ymgyfarwyddo â diwylliant newydd hogi eich sgiliau rhyngbersonol a’ch sgiliau cyfathrebu, gwella eich gallu ieithyddol, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol.
Yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, rydym yn annog myfyrwyr yn gryf i ystyried gwneud cais i astudio dramor mewn prifysgol a ddewiswyd yn ofalus am naill ai un semester neu flwyddyn academaidd lawn.
Blwyddyn integredig yn astudio dramor
Mewn gwirionedd, rydym yn credu bod hyn mor ddefnyddiol i fyfyrwyr sy'n astudio gwleidyddiaeth ryngwladol fel y cewch wneud blwyddyn o astudio dramor yn rhan o unrhyw cynllun gradd anrhydedd sengl. Bydd eich blwyddyn dramor yn digwydd yn ystod eich trydedd flwyddyn, yn astudio mewn un o'n prifysgolion partneriaethol yn Ewrop, Gogledd America, Asia neu Awstralia. Byddwch yn dychwelyd i Aberystwyth i gwblhau’ch gradd yn y bedwaredd flwyddyn, blwyddyn olaf eich astudiaethau. Bydd y credydau a enillir yn y modiwlau rydych yn eu hastudio yn eich sefydliad cyfnewid yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol.
Astudio semester dramor ym mlwyddyn 2
Mae myfyrwyr ar bob un o'n cynlluniau gradd anrhydedd sengl hefyd yn cael y cyfle i astudio dramor am un semester. Mae hyn yn digwydd ym Mlwyddyn 2 mewn un o'n Prifysgolion partneriaethol yn Ewrop, Gogledd America, Asia neu Awstralia. Bydd y credydau a enillir yn y modiwlau rydych yn eu hastudio yn eich sefydliad cyfnewid yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol.
Dysgwch fwy am ble gallwch chi fynd fel myfyriwr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
