Cyfleoedd allgyrsiol
Bydd digon o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
O'r Gemau Argyfwng enwog a'r Cynllun Lleoliadau Seneddol i sgyrsiau ac amrywiaeth o gymdeithasau i fyfyrwyr, bydd digon o bethau i'ch cadw'n brysur yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth. Bydd y pethau hyn yn gyfle i ddatblygu sgiliau ychwanegol a fydd yn edrych yn dda ar eich CV hefyd.
Sgyrsiau
Mae ein hadran yn cynnig amgylchedd fywiog i astudio ac archwilio syniadau newydd. Bob blwyddyn rydym yn cynnal dwsinau o sgyrsiau gan arbenigwyr a ffurfwyr barn sy'n arwain yn y byd. Mae trigolion y gymuned leol yn mynychu rhain yn rheolaidd, yn ogystal â myfyrwyr a staff y brifysgol.
Gemau Argyfwng
Hon oedd yr adran gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnal efelychiadau argyfwng er mwyn cysylltu'r hyn a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth â chymhlethdodau go iawn gwleidyddiaeth ryngwladol. Caiff y Gemau Argyfwng eu cynnal unwaith y flwyddyn, a'r digwyddiad hwn yw'r mwyaf poblogaidd ym mlwyddyn academaidd pob myfyriwr yr adran.
Cynllun Lleoliadau Seneddol
Rydym yn gweithredu Cynllun Lleoliadau Seneddol nodedig sy'n gyfle i chi ennill profiad gwerthfawr yn gweithio ar y cyd ag aelod seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod Senedd (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o 4 i 6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn ysgrifennu adroddiadau ac areithiau, yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn ymwneud â'r etholaeth.
Cymdeithasau Myfyrwyr
Mae myfyrwyr yn cymryd yr awenau yn yr Adran hefyd. Mae'r Adran yn gartref i Interstate - y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf yn y Deyrnas Unedig sydd o dan ofal myfyrwyr - a chyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (sy'n hynod fanteisiol os ydych yn dymuno mynd ymlaen i astudio ar lefel uwchraddedig) neu ennill profiad gwerthfawr yn rhan o'r tîm golygyddol. Yn olaf, ceir ystod o gymdeithasau myfyrwyr sy'n ysgogi ac yn meithrin ymdeimlad cryf â chymuned yr adran, gan gynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ochr yn ochr â nifer o weithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol.