Newyddion a Digwyddiadau

Rhannu straeon heddwch ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd
Mae menter newydd yn defnyddio straeon digidol i ystyried a rhannu profiadau byw’r rheini sydd wedi mudo dan orfod ac sydd bellach yn byw yng Nghymru.
Darllen erthygl
Mynd i'r afael â heriau mwyaf argyfyngus cymdeithas
Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau'n cydweithio i fynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas.
Darllen erthygl
Mae Putin wedi'i orfodi i anfon y rheiny sydd wedi'u hanafu yn ôl i ymladd ac i gynnig cyflogau milwrol enfawr wrth i Rwsia ddioddef miliwn o anafiadau
Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod yr effaith y mae’r rhyfel yn Wcráin yn ei chael ar Rwsia, sy’n wynebu bron i filiwn wedi'u hanafu, gan orfodi tactegau recriwtio enbyd ac ail-lunio ei chymdeithas, ei lluoedd arfog, a’i gwleidyddiaeth.
Darllen erthygl
Keir Starmer yn dweud y dylai mewnfudwyr ddysgu Saesneg er mwyn integreiddio. A yw’n bod yn deg?
Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Huw Lewis o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'i gyd-awduron yn trafod moeseg integreiddio ieithyddol, a sut y gall tegwch olygu bod rhwymedigaeth ar lywodraeth neu gymdeithas, yn ogystal ag ar fewnfudwyr.
Darllen erthygl
Cynhadledd heddwch yn trafod ‘byd di-ryfel’
Mae’r Prif Weinidog wedi agor cynhadledd heddwch arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth a drefnwyd i drafod sut gall Cymru gyfrannu tuag at fyd di-ryfel.
Darllen erthygl
Rwsia yn ceisio fframio rhyfel fel rhan anochel o fywyd ar Ddiwrnod Buddugoliaeth
Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Dr Allyson Edwards o Brifysgol Spa Caerfaddon yn awgrymu bod Moscow, drwy annog pobl ifanc i deimlo cysylltiad personol â hanes rhyfel Rwsia, yn gobeithio sicrhau eu bod yn ystyried rhyfel fel rhan anochel o fywyd.
Darllen erthygl
Pam nad yw Donald Trump yn llwyddo i ddod â heddwch i Wcráin fel yr addawodd?
Wrth ysgrifennu ar gyfer The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ystyried pam mae’r trafodaethau heddwch yn Wcráin yn ei chael hi’n anodd dwyn ffrwyth, er gwaethaf nifer o gyfarfodydd rhwng swyddogion yr Unol Daleithiau a Rwsia.
Darllen erthygl
Herio stori draddodiadol Y Wladfa
Caiff stori ramantus y Cymry a ymgartrefodd ym Mhatagonia dros ganrif yn ôl ei herio mewn llyfr newydd, gan ddatgelu ochr dywyllach i hanes sefydlu’r Wladfa.
Darllen erthygl
30 mlynedd yn ôl cafodd Wcrain wared ar ei harfau niwclear - mae pobl yn difaru'r penderfyniad hwnnw erbyn hyn
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trin a thrafod a fyddai pethau'n wahanol pe bai gan Wcrain arfau niwclear o hyd ac a yw'n bosibl y bydd Kyiv bellach yn teimlo rheidrwydd i ddechrau rhaglen arfau niwclear.
Darllen erthygl
Gogledd Corea: Mae Kim Jon-un yn anfon ail don o filwyr i Wcráin - dyma pam
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn esbonio pam mae Gogledd Corea yn anfon ail don o filwyr i Wcráin, er gwaethaf y miloedd lawer sydd wedi'u lladd yno eisoes.
Darllen erthyglPenawdau Eraill
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth, SY23 3FE Cymru
Ffôn: Yr Adran:+44 (0)1970 622708 Swyddfa Derbyn: +44 (0)1970 622021 Ffacs: 01970 622709 Ebost: gwleidyddiaeth@aber.ac.uk