Amdanom ni
Croeso i'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y gyntaf o'i bath yn y byd!
Mae astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig i ddeall y byd cyfnewidiol sydd ohoni. Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd, pandemig byd-eang, ansicrwydd a chynnwrf gwleidyddol ac ideolegol, trawsnewidiadau cymdeithasol ac economaidd a mathau newydd o wrthdaro a thrais, mae lles pawb ynghlwm â datrys yr heriau byd-eang hyn. Nod addysg ac ymchwil yr Adran yw ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr i gwestiynu, herio, trawsnewid a meithrin hyder yn y ffordd y maent yn meddwl am wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Pam Aberystwyth?
Mae Aberystwyth yn dref ddwyieithog, eangfrydig a bywiog rhwng bryniau tirion y Canolbarth a glannau prydferth Bae Ceredigion. Byddwch yn rhan o brifysgol gampws sydd â'i chanolfan chwaraeon ei hun a Chanolfan Gelfyddydau brysur; ac fe fyddwch ddrws nesaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU.
Yn ddiweddar, cafodd Prifysgol Aberystwyth ei chydnabod fel y Brifysgol Orau yn y DU am Ansawdd y Dysgu a Bodlonrwydd Myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da The Times and Sunday Times 2021). Aberystwyth yw'r brifysgol orau yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr ers pum mlynedd yn olynol, ac mae bellach ar y brig ymysg prifysgolion y DU.
Pam yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol?
- Rydym yn rhoi'r myfyriwr wrth galon eu profiad dysgu drwy sicrhau dewis a hyblygrwydd yn ein cwricwlwm. Mae hyn yn caniatáu i chi deilwra eich gradd i gyd-fynd â'ch diddordebau.
- Rydym ymhlith y deg uchaf yn y DU ym maes gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol am fodlonrwydd cyffredinol - 95% yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF 2021) ac mae ein rhagoriaeth ymchwil yn ein rhoi yn y deg adran ymchwil uchaf yn y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
- Rydym yn ail yn y DU am fodlonrwydd ag ansawdd y dysgu ar y cwrs ym maes Gwleidyddiaeth (The Guardian, Canllaw Prifysgolion Da 2022).
- Rydym ymhlith y 5 uchaf yn y DU am fodlonrwydd ag ansawdd y cwrs ac ansawdd yr adborth ym maes Gwleidyddiaeth (The Guardian, Canllaw Prifysgolion Da 2022)
- Rydym yn y 5 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu (2il) a Phrofiad Myfyrwyr (3ydd) ym maes Gwleidyddiaeth, ac ymhlith y 10 uchaf am ansawdd ein hymchwil (The Times and Sunday Times, Canllaw Prifysgolion Da 2021).
- Rydym yn ail yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr ac yn 7fed am answadd ein hymchwil ym maes Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (The Complete University Guide 2022).
- Rydym ar y brig yng Nghymru ac yn 7fed yn y DU am ragoriaeth ymchwil (REF 2014).
- Byddwch yn archwilio ac yn mynd i'r afael â heriau byd-eang, o lefel leol i lefel y blaned gyfan, ac fe'ch cyflwynir i ffyrdd dynamig ac amrywiol o edrych ar y byd.
- Byddwch yn elwa o'n rhwydweithiau dros bedwar ban byd ac yn cysylltu ag ymarferwyr, yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
- Cewch fwynhau amrywiaeth o weithgareddau cyffrous megis ein Gemau Argyfwng enwog i fyfyrwyr (ffug argyfyngau), rhaglenni Cyfnewid Rhyngwladol a Lleoliadau Seneddol.
- Rydym yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd ac yn cynnig amgylchedd bywiog ac eangfrydig ar gyfer trafod a dysgu.
- Yn olaf, rydym ni'n gymuned fywiog, agos, ddeallusol mewn tref glan-môr ddiogel, fforddiadwy a chyfeillgar.