Ymgysylltu ag Ysgolion a Cholegau

Disgyblion ysgol yn cymryd rhan mewn gweithdy

Yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, rydym wedi ymrwymo i gynnig rhaglenni penodol sy'n atgyfnerthu'r cwricwlwm i ysgolion a cholegau ar draws Cymru a’r DU.

 

Gallwn gynnig sgyrsiau ar astudio gwleidyddiaeth a chynnal darlithoedd academaidd neu weithdai mewn gwahanol feysydd pwnc. Gellir cynnal gweithgareddau rhithwir trwy weminarau ar-lein neu weithiau yn yr ysgol neu’r coleg, neu gall ysgolion hyd yn oed ddod i gampws Prifysgol Aberystwyth, yn dibynnu ar argaeledd. 

 

Os hoffech fwy o wybodaeth am weithdai AberWorkshops, gweler ein Llyfryn GweithdaiAber. Gallwch anfon e-bost at Gyfarwyddwr Astudiaethau Cymraeg yr Adran, Dr Catrin Edwards ar cwe6@aber.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau

 

Rydyn ni wrth ein boddau yn gweithio gyda phobl ifanc. Rydym yn ategu'r hyn y mae ysgolion a cholegau yn ei ddysgu ym meysydd gwleidyddiaeth, llywodraeth, a chysylltiadau rhyngwladol, ac yn hapus iawn i gynnig blas ar y cyrsiau rydym yn eu cynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â phennaeth tîm Mynediad a Chysylltu ag Ysgolion ein hadran ni, sef Lucy Taylor (lft@aber.ac.uk) neu Gyfarwyddwr Astudiaethau yr Adran Catrin Edwards (cwe6@aber.ac.uk).