Ymchwil

Grŵp Ffocws gwaith maes Berit

'Mynd i'r afael â heriau byd-eang, cynnig syniadau i sicrhau newid'

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ganolfan ymchwil arloesol sy'n arwain yn fyd-eang ym maes cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth. Mae InterpolAber, fel y'i gelwir, yn adnabyddus o gwmpas y byd fel lle sy'n datblygu ffyrdd newydd o edrych ar yr heriau cenedlaethol, rhyngwladol a byd-eang sy'n ein hwynebu.

Mae ein staff a'n myfyrwyr uwchraddedig yn cynnal gwaith ymchwil i rai o'r heriau byd-eang anoddaf a phwysicach y mae cymunedau o bobl yn eu hwynebu heddiw - o gwestiynau ynglŷn â gwrthdaro, rhyfel, arfau niwclear a diogelwch i faterion sy'n ymwneud â mudo, datblygu, democratiaeth, iechyd byd-eang a'r amgylchedd. Rydym hefyd yn astudio prosesau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig a'i his-wladwriaethau, ac mae gennym arbenigedd rhanbarthol yng ngwleidyddiaeth y Dwyrain Canol, Rwsia, America Ladin ac America.

Ein nod drwy ein gwaith ymchwil yw datblygu safbwyntiau beiddgar newydd ynglŷn â'r modd y gellir dirnad a chyd-drafod y rhyng-gysylltiadau byd-eang o'n cwmpas, sy'n gallu bod yn drafferthus weithiau. Wrth wneud hyn, rydym hefyd yn cydweithio â llunwyr polisi i ddatblygu syniadau newydd a chadarn a all arwain at newid. O weithio â chyfranogwyr y gymdeithas sifil i ddarparu gwybodaeth i weithredwyr cenedlaethol a byd-eang, ceisiwn sicrhau bod cyflwyno ein hymchwil i randdeiliaid perthnasol ac i'r cyhoedd wrth wraidd ein gwaith ymchwil.

Rydym yn gwthio ffiniau ymchwil yn ein gwaith a farnwyd dro ar ôl tro yn asesiadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn waith o safon ragorol sy'n arwain yn fyd-eang. Yn yr asesiad diweddaraf yn 2014, aseswyd bod 44% o'n hymchwil 'yn arwain yn fyd-eang' a bod 32% ohono 'o safon ragorol yn rhyngwladol'. Barnwyd mai'r Adran hon yw'r 5ed orau yn y Deyrnas Unedig am waith ymchwil sy'n arwain yn fyd-eang a'i bod yn y 7fed safle yn gyffredinol.

Mae'r arbenigedd ymchwil hwn sydd ar flaen y gad yn dylanwadau ar addysgu'r adran. Annogir y staff i ddysgu ar sail eu canlyniadau ymchwil diweddaraf yn eu hamrywiol feysydd ac oherwydd hynny, mae'r myfyrwyr yn elwa'n uniongyrchol o'r datblygiadau ymchwil diweddaraf.

Mae'r ystod eang o safbwyntiau a diddordebau wedi'u hadlewyrchu yn yr amrywiaeth gyfoethog o grwpiau ymchwil sydd yn yr Adran. Mae'r rhain yn gwasanaethu myfyrwyr uwchraddedig a staff. Eu nod yw hwyluso arbenigedd o fewn cymunedau o arbenigwyr mewn meysydd penodol, a hynny yng nghyd-destun y gymuned ymchwil gyfeillgar yn Aberystwyth.

Caiff ymchwil newydd ei chynhyrchu gan ein myfyrwyr yn ogystal â'n staff. Er enghraifft, mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'n rhaglen PhD wedi ennill nifer o wobrau am eu traethodau ymchwil, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ein myfyrwyr israddedig a'r rhai sy'n astudio am radd Meistr hefyd yn cyfrannu at ddwysedd y weithgaredd ymchwil yn Aberystwyth, a hynny drwy eu gwaith ymchwil eu hunain tra'n paratoi eu traethawd hir ac wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau a seminarau ymchwil.

Rhagor o wybodaeth

REF2014 Research Excellence Framework

Canolfannau a Sefydliadau Ymchwil

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gartref i sawl sefydliad a chanolfan ymchwil. Mae pob un o'r sefydliadau hyn yn canolbwyntio ar un neu ragor o feysydd ymchwil arbenigol. Yn rhan o'u gweithgareddau, maent yn cynnal cynadleddau a gweithdai, yn croesawu siaradwyr gwadd ac maent yn hwyluso rhyngweithio a throsglwyddo gwybodaeth rhwng academyddion a llunwyr polisi.

Gall myfyrwyr sy'n astudio yn yr Adran fod yn gysylltiedig â llawer o'r digwyddiadau a drefnir gan sefydliadau a chanolfannau, ac mae rhwydd hynt iddynt gymryd rhan ynddynt hefyd. I gael rhagor o wybodaeth am astudio yn yr Adran, darllenwch ein gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr neu cysylltwch â'r Gweinyddwyr Derbyn Myfyrwyr ar gyfer Astudiaethau Israddedig ac Uwchraddedig.

Seminarau Ymchwil Gwleidyddiaeth Ryngwladol (IPRS)

Y Seminar Ymchwil yw un o ganolbwyntiau allweddol diwylliant ymchwil yr Adran. Mae'r seminar ymchwil wythnosol hwn yn fforwm i drafod ymchwil cyfredol yr Adran. Mae pob seminar yn canolbwyntio ar un mater, ac fe geir cyflwyniadau gan staff yr Adran neu gan ymwelwyr uchel eu parch o brifysgolion eraill yng nghryn nifer o'r sesiynau hyn. Mae gofyn i bob myfyriwr PhD y drydedd flwyddyn hefyd roi cyflwyniad yn ystod y gyfres o seminarau ymchwil.  Mae hyn yn gyfle heb ei ail iddynt ddangos y cynnydd a wnânt ac i gael adborth oddi wrth gyd-fyfyrwyr a staff.

2020/21

IPRS Schedule Semester 1 2020-21

2018/19

IPRS Schedule Semester 1 2018-19

IPRS Schedule Semester 2 2018-19

2017/18

IPRS Schedule Semester 1 2017-18

IPRS Schedule Semester 2 2017-18

2016/17

IPRS Schedule Semester 2 2016-17

IPRS Schedule Semester 1 2016-17

2015/16‌

IPRS Schedule Semester 2 2015-16

IPRS Schedule Semester 1 2011-2012

Rhaglenni seminarau'r blynyddoedd blaenorol

IPRS Schedule Semester 1 2011-2012

IPRS Schedule Semester 2 2011-2012

IPRS Schedule Semester 1 2010-2011

IPRS Schedule Semester 2 2010-2011

2009/10 programme

2008/09 Programme

 

Grwpiau Ymchwil

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gartref i gymuned o grwpiau ymchwil ffyniannus. Mae pob aelod o staff, ynghyd â'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr PhD, yn perthyn i o leiaf un Grŵp Ymchwil. Mae pob Grŵp Ymchwil yn trefnu'i raglen seminarau ei hun. Mae'r rhaglen hon yn gyfle i'r staff a'r myfyrwyr ymchwil gyflwyno'u gwaith ymchwil cyfredol ac i gael adborth arno. Mae'r Grwpiau Ymchwil hefyd yn croesawu siaradwyr gwadd ac maent yn trefnu cynadleddau a gweithdai yn achlysurol.

Critical and Cultural Politics and Racialisation Research Group (CCPR)

Mae'r Grŵp Critical and Cultural Politics and Racialisation Research (CPPR) yn grŵp ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr ac sy'n dod â phobl sy'n gwneud gwaith a ysbrydolir gan amrywiaeth of safbwyntiau beirniadol ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol ynghyd. Nod y CPPR yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o wahanol adrannau i gyflwyno'u gwaith a derbyn adborth arno. Mae'r grŵp hefyd yn trefnu sawl digwyddiad arall yn ystod y flwyddyn lle mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn cael y cyfle i glywed ac ymateb i ddadleuon cyfoes ar wahanol bynciau mewn modd beirniadol. Ymhlith y pynciau y bu ffocws arnynt mae neodrefedigaethedd, hil, hunaniaeth, a chysylltiadau diwylliannol. Ein bwriad yw parhau i dynnu sylw at safbwyntiau addysgeg amrywiol a beirniadol er mwyn creu gofod amgen ac agored i roi'r cyfle i safbwyntiau sydd ar yr ymylon ddod yn fwy amlwg. Rydyn ni hefyd yn ymgysylltu â'r celfyddydau, diwylliant a pherfformio er mwyn ehangu'r cyfrwng yr ydym yn ei ddefnyddio i ymgysylltu â gwleidyddiaeth ryngwladol.

Os oes gennych chi syniadau neu gwestiynau am y CCPR, neu os hoffech chi gyflwyno'ch gwaith, cysylltwch â'r cynullwyr:

Marcello de Souza Freitas : mad68@aber.ac.uk

Amal Abu-Bakare  : ama20@aber.ac.uk

Talwyn Baudu : tkb@aber.ac.uk

Security Research Group (SRG)

Wedi'i leoli yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, mae'r Security Research Group (SRG) yn cael ei redeg gan fyfyrwyr sy'n ceisio cynnig platfform lle gall gwahanol ddiddordebau a disgyblaethau acadmaidd ym maes astudio diogelwch ddod ynghyd mewn modd cynhyrchiol. Ymhlith y meysydd o ddiddordeb mae diogelwch iechyd, diogelwch amgylcheddol, diogelwch dynol, diogelwch cenedlaethol, astudiaethau cudd-wybodaeth, atebolrwydd, astudiaethau strategol, astudiaethau diogelwch beirniadol, geowleidyddiaeth a geostrategaeth, terfysgaeth ac astudiaethau terfysgaeth beirniadol.

Blog yr SRG: https://abersrg.wordpress.com/

Tudalen Facebook: https://www.facebook.com/Aber.SRG

Cyfrif Trydar: @aberSRG

International History Research Group (IHRG)

Sefydlwyd yr International History Research Group (IHRG) ym mis Hydref 2004 a bu'n gwneud cyfraniad gweithgar ym maes diwylliant ymchwil yr Adran am y pymtheg mlynedd diwethaf. Mae'r IHRG yn ymwneud â'r holl agweddau ar hanes cenedlaethol, trawsgenedlaethol a byd-eang. Mae'n trefnu seminarau, fforymau trafod a symposia yn rheolaidd, ac yn dod â staff Gwleidyddiaeth Ryngwladol a myfyrwyr ôl-raddedig ynghyd, yn ogystal â chydweithwyr o ar draws y Brifysgol, yn enwedig o'r Adran Hanes a Hanes Cymru.

Ymhlith y siaradwyr gwadd nodedig sydd wedi annerch yr IHRG mae'r Athro John R. Ferris (Prifysgol Calgary), Dr. Cees Wiebes (Prifysgol Rydd Amsterdam), Yr Athro Keith Neilson (Y Coleg Milwrol Brenhinol, Canada), Yr Athro Greg Kennedy (Coleg Kings Llundain), Dr. G. Bruce Strang (Prifysgol Lake Head, Ontario), a'r Athro David French (Coleg Prifysgol Llundain). Nid yn unig haneswyr acadmaidd a wahoddwyd i annerch yr IHRG. Yn wir, un o ddigwyddiadau mwyaf llwyddiannus y Grŵp oedd 'seminar tyst' gydag un o ryfelfodogion RAF Brwydr Prydain. 

Cynullwyr: Patrick Finney (pbf@aber.ac.uk) a Quincy Cloet (quc@aber.ac.uk).

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sydd ar y gweill, dilynwch @patrickfinney1 a @quincycloet ar Trydar.‌

Interdisciplinary Gender Studies Research Group (IGSRG)

Mae'r Interdisciplinary Gender Studies Research Group (IGSRG) ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n cynnwys yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yr Adran Seicoleg, Adran y Gyfraith a Throseddeg, a'r Ysgol Gelf, yn canolbwyntio'n benodol ar gwestiynau'n ymwneud â ffeministiaeth, theori arnwyth, a rhywedd. Nod y grŵp yw dod â myfyrwyr ac aelodau staff o wahanol adrannau Prifysgol Aberystwyth sydd â diddordebau cyffredin ynghyd. Rydym yn cynnig fforwm rhyngddisgyblaethol ar gyfer trafod, rhwydweithio, datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol, a chyfnewid syniadau yn gyffredinol. Y tu hwnt i Brifysgol Aberystwyth, ein nod hefyd yw sefydlu rhwydweithiau pellach gyda phobl mewn prifysgolion a sefydliadau eraill sy'n rhannu'r un diddordebau, gan gynnwys artistiaid ac actifyddion. Mae trafodaethau o'r fath yn codi ymwybyddiaeth a chwestiynau am y themâu sy'n cael eu cynnwys yn ein hymchwil. Er mwyn adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd diweddar, rydym yn ceisio casglu ynghyd a datblygu rhwydweithiau ag unigolion a grwpiau sy'n gweithio ar faterion yn ymwneud â rhywedd.

Blog: www.abergender.wordpress.com

E-bost: gender@aber.ac.uk

Facebook: @abergender

Trydar: @abergender 

Posthumanities Research Group

Grŵp a arweinir gan fyfyrwyr yw'r Posthumanities Research Group (PHRG). Mae'n cynnig amgylchedd agored a chroesawgar ar gyfer ymchwilio i syniadau newydd a phroblemau cyfoes o safbwynt ôl-ddynol. Sefydlwyd y grŵp yn haf 2020. Ers hynny, mae wedi trefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau gan gynnwys digwyddiad a oedd yn canolbwyntio ar gerdded ac yn ymchwilio i effaith gofod a symudiad ar ffyrdd o wybod, a digwyddiad ar-lein yn Gathertown a oedd yn archwilio corffiadau rhithwir a diwylliannau afatar. Mae sawl digwyddiad wedi'i drefnu ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, ac mae'r PHRG wedi llwyddo i ennill cyllideb y gymuned ôl-raddedig er mwyn trefnu gweithdy amlddisgyblaethol a fydd yn digwydd yn yr hydref ac  fydd yn canolbwyntio ar feddwl llifyddol a newid hinsawdd.   

Manylion cyswllt i ddod

Llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar

2020

International Relations in a Relational Universe

Milja Kurki

Oxford University Press

Civilian Specialists at War: Britain's Transport Experts and the First World War

Christopher Phillips

University of London Press

Refugees in Britain: Practices of Hospitality and Labelling

Gillian McFadyen

University of Edinburgh Press

Fieldwork as Failure: Living and Knowing in the Field of International Relations

Katarina Kušić and Jakub Záhora (eds)

E-IR

Doing Fieldwork in Areas of International Intervention: A Guide to Research in Violent and Closed Contexts

Berit Bliesemann de Guevara and Morten Bøås (eds.)

Bristol University Press, 2020

2019

New Geographies of Language - Language, Culture and Politics in Wales

Rhys Jones and Huw Lewis

Palgrave Macmillan, 2019

2018

Heroism and Global Politics

Edited by Veronica Kitchen and Jennifer Mathers

Routledge.com, 2018

2017

Islam and International Relations Fractured Worlds

Mustapha Kamal Pasha (ed)

Routledge

2016

Myth and Narrative in International Politics: Interpretive Approaches to the Study of IR.

Berit Bliesemann De Guevara, ed.

Palgrave Macmillan

International Relations Theory Today. 2nd edition.

Booth, Ken and Toni Erskine, eds.

Polity Press

Violence and Civilization in the Western States-Systems.

Andrew Linklater

Cambridge University Press

(in press) The Routledge Handbook of Soft Power.

Rawnsley, G., Chitty, N., Ji, L., Hayden, C.  (eds)

Taylor & Francis

2015

The Cuban Missile Crisis: A Critical Reappraisal 

Len Scott and R. Gerald Hughes (eds)
Routledge, 2015

Middle Powers in World Trade Diplomacy

Charalampos Efstathopoulos
Palgrave

Face Politics

Jenny Edkins
Routledge

The British Nuclear Experience: The Roles of Beliefs, Culture and Identity

Kris Stoddart and John Baylis
Oxford University Press

2014

The Postwar Legacy of Appeasement: British Foreign Policy since 1945

R. Gerald Hughes (eds),
Bloomsbury, 2014

Armed Drones and the Ethics of War: Military Virtue in a Post-Heroic Age

Christian Enemark
Routledge

Framing Global Health Governance

Colin McInnes and Kelly Lee
Routledge

The Transformation of Global Health Governance

Colin McInnes, Adam Kamradt-Scott, Kelley Lee, Anne Roemer-Mahler, Simon Rushton and Owain David Williams
Palgrave

Le Guerre Della Jugoslavia 1991-1999

Alastair Finlan
Liberia Editric Goriziana

The Test of Terrorism:  Responding to Political Violence in the Twenty-First Century

Alastair Finlan
Routledge

Contemporary Military Strategy and the Global War on Terror

Alastair Finlan
Bloomsbury Publishing

The Kenya papers of General Sir George Erskine 1953-1955

Huw Bennett and David French
The History Press

Critical International Relations

Jenny Edkins
Routledge

Global Politics:  A New Introduction

Jenny Edkins and Maja Zehfuss
Routledge

International Politics and Performance:  Critical Aesthetics and Creative Practice

Jenny Edkins and Adrian Kear
Routledge

The Sword and the Shield:  Britain, America, NATO and Nuclear Weapons, 1970-1976

Kris Stoddart
Palgrave

Routledge Companion to Intelligence Studies

Robert dover, Mkchael S Goodman, Claudia Hillebrand
Routledge

Democracy Promotion: A Critical Introduction

Bridoux, Jeff and Milja Kurki
Routledge

Transcending Postmodernism

Morton A. Kaplan with Inanna Hamati-Ataya
Palgrave

International Relations:  All that Matters

Ken Booth
London: Hodder and Stroughton

An International History of the Cuban Missile Crisis:  A 50-year retrospective

Len Scott (David Gioe and Christopher Andrew)
Routledge

Facing Down the Soviet Union: Britain, the USA, NATO and Nuclear Weapons, 1976-1983

Kristan Stoddart
Palgrave

2013

International Relations Theories: Discipline and Diversity

Dunne, Kurki and Smith, eds (2013) 3rd edition (previous editions 2007, 2010)
OUP

Democratic Futures: Revisioning Democracy Promotion

Milja Kurki

Routledge

Contemporary Military Culture and Strategic Studies

Alastair Finlan
Routledge

The Vulnerable in International Society

Ian Clark
Oxford University Press

Fighting the Mau Mau

Huw Bennett
Cambridge University Press

 

2012

Statebuilding and State-Formation: The Political Sociology of Intervention 

Berit Bliesemann de Guevara
Routledge

A Micro-Sociology of Violence: Deciphering Patterns and Dynamics of Collective Violence 

Jutta Bakonyi and Berit Bliesemann de Guevara
Routledge

Ethics and Security Aspects of Infectious Disease Control: Interdisciplinary Perspectives

Christian Enemark and Michael J. Selgelid
Ashgate

Conceptual Politics of Democracy Promotion

Hobson, Christopher and Milja Kurki
Routledge

Global Health and International Relations

Colin Mcinnes and Kelley Lee
Polity

Counter-Terrorism Networks in the European Union

Claudia Hillebrand
Oxford University Press

Special Responsibilities

Ian Clark
Cambridge University Press

American Foreign Policy and Postwar Reconstruction

Jeff Bridoux
Routlefdge

Losing an Empire and Finding a Role

Kristan Stoddart
Palgrave

The European Union and its Eastern Neighbours
Towards a more ambitious partnership?

Elena Korosteleva
Routledge

Tragedy and International Relations

  
Toni Erskine and Richard Ned Lebow
Palgrave

2011

Charisma und Herrschaft: Führung und Verführung in der Politik 

Berit Bliesemann de Guevara and Tatjana Reiber
Frankfurt am Main, New York: Campus. 

(Translated into Hungarian: Karizma és hatalom, Budapest: Napvilág Kiadó, 2012)

Cosmopolitanism and International Relations Theory

Richard Beardsworth
Polity Press

Eastern Partnership:  A New Opportunity for the Neighbours

Elena Korosteleva
Routledge

Terrorism:  A Critical Introduction

Richard Jackson, Lee Jarvis, Jeroen Gunning, Marie Breen Smyth
Palgrave

The Problem of Harm in World Politics

Andrew Linklater
Cambridge University Press

Hegemony in International Society

Ian Clark
Oxford University Press

Terror in our Time

Ken Booth and Tim Dunne
Routledge

Partnerships and Foundations in Global Health Governance

Simon Rushton and Owain David Williams eds
Palgrave

On Rawls, Development and Global Justice

Huw Lloyd Williams
Palgrave 
 

Missing, Persons and Politics

Jenny Edkins
Cornell University Press
 

2010

Illusion Statebuilding. Warum der westliche Staat so schwer zu exportieren ist 

Berit Bliesemann de Guevara and Florian P. Kühn
Hamburg: edition Körber-Stiftung

Realism in World Politics

Ken Booth eds
Routledge

Remembering the Road to World War Two

Patrick Finney
Routledge

Intelligence and International Security

Len Scott, R Gerlad Hughes, martin Alexander eds
Routledge

Governing Sustainable Development

Carl Death
Routledge

American Foreign Policy and Postwar Reconstruction

Jeff Bridoux
Routledge

2009

Staatlichkeit in Zeiten des Statebuilding

Berit Bliesemann de Guevara
Peter Lang

Conflict Resolution in the Twenty-first Century: Principles, Methods, and Approaches

Jacob Bercovitch and Richard Jackson
Michigan University Press

Theories of International Relations, 4th edition

Scott Burchill and Andrew Linklater, eds.
Palgrave MacMillan

America’s Cold War: the Politics of Insecurity

Campbell Craig and Fredrik Logevall
Harvard University Press

Critical Theorists and International Relations

Jenny Edkins and Nick Vaughan Williams, eds.
Routledge

Minority Nationalist Parties and European Integration

Annwen Elias
Routledge

Contemporary State Terrorism: Theory and Cases

Richard Jackson, Eamon Murphy and Scott Poynting, eds.
Routledge

Critical Terrorism Studies: A New Research Agenda

Critical Terrorism Studies: A New Research Agenda
Routledge

2008

The Security Dilemma: Fear, Cooperation and Trust in World Politics

Ken Booth and Nicholas Wheeler
Palgrave

Serbia in the Shadow of Milosevic: The Legacy of the Conflict in the Balkans

Janine Clark
I.B. Tauris

Minority Nationalist Parties and European Integration

Anwen Elias
Routlege

The Atomic Bomb and the Origins of the Cold War

Campbell Craig and Sergey Radchenko
Yale University Press

Embedded Cosmopolitanism

Toni Erskine
Oxford University Press

Special Forces, Strategy and the War on Terror

Alastair Finlan
Routledge

Exploring Intelligence Archives: Enquiries into the Secret State

R. Gerald Hughes, Peter Jackson, and Len Scott, eds.
Routledge

Causation in International Relations: Reclaiming Causal Analysis

Milja Kurki
Cambridge University Press

Intelligence, Crises and Security: Prospects and Retrospects

Len Scott and R. Gerald Hughes, eds.
Routledge

2007

Disease and Security: Natural Plagues and Biological Weapons in East Asia

Christian Enemark
Routledge

Theory of World Security

Ken Booth
Cambridge University Press

The Security Dimensions of EU Enlargement

David Brown and Alastair Shepherd, eds.
Manchester University Press

International Legitimacy and World Security

Ian Clark
Oxford University Press

American Credo: A Field Guide to the Place of Ideas in US Politics

Mike Foley
Oxford University Press

Britain, Germany and the Cold War: The Search for a European Detente, 1949-1967

R. Gerald Hughes

Critical Theory and World Politics: Sovereignty, Citizenship and Humanity

Andrew Linklater
Routledge

Revitalising Democracy? Devolution and Civil Society in Wales

Elin Royles
University of Wales Press

The Cuban Missile Crisis and the Threat of Nuclear War: Lessons from History

Len Scott
Continuum

Here is Hell: Canada's Engagement in Somalia

Grant Dawson
University of British Columbia Press

Representing Europe's Citizens? Electoral Institutions and the Failure of Parliamentary

Roger Scully
Oxford University Press

Truth Recovery and Justice after Conflict: Managing Violent Pasts

Marie Breen Smyth
Routledge

Cyfnodolion

Dangosir cadernid y diwylliant ymchwil hefyd gan y nifer o gyfnodolion a olygir yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Golygir cyfnodolion gan aelodau o'r Adran, ac mae hynny'n cynnig cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol ac i gael dylanwad ar y dadleuon sy'n diffinio amrywiol feysydd astudio. Mae ein myfyrwyr uwchraddedig yn rhan o'r gweithgareddau hyn - yn gynorthwywyr golygiadol neu'n gyfranogwyr mewn digwyddiadau a noddir gan gyfnodolion penodol.

Rhaglen Cymrodyr Gwadd

Rydym yn awyddus i annog ymchwil ar y cyd, ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ysgolheigion sefydledig a gefnogir yn ariannol gan eu sefydliadau eu hunain neu gan wobrau ymchwil sy'n dymuno treulio cyfnod o amser (o 3 i 12 mis) yn gweithio ar brosiect sy'n berthnasol i arbenigedd a diddordebau ein meysydd ymchwil ni.

Cyfleusterau a gynigir

Cynigir lle i ymwelwyr mewn swyddfa a rennir (yn dibynnu ar beth sydd ar gael), mynediad i'r llyfrgell, cyfleusterau TG lleol, a chyfrif e-bost. Mae gan Lyfrgell Huw Owen y Brifysgol ddeunydd ymchwil rhagorol ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, a lleolir yr adran ger Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ogystal - un o lyfrgelloedd hawlfraint y DU. Mae croeso i ymwelwyr gymryd rhan yn llawn ym mywyd ymchwil yr Adran drwy fynychu'r Seminarau Ymchwil wythnosol yn ogystal â'r cyfarfodydd a'r gweithgareddau dirifedi a gynhelir gan y Grwpiau a'r Canolfannau Ymchwil.

Yr hyn a ddisgwylir gan Gymrawd gwadd

Nod y cynllun yw dod ag ysgolheigion talentog i'r Adran a all gyfrannu at a chyfoethogi ei gweithgareddau deallusol a'i hymchwil. Yn ogystal â gwneud eu hymchwil eu hunain, bydd disgwyl i gymrodyr gwadd gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Adran fel a ganlyn:

  • cydweithio â staff yr Adran ar waith ymchwil
  • cyflwyno un neu'n rhagor o bapurau gwaith ar waith, yn rhan o gyfres Seminarau Ymchwil yr Adran, neu i Grwpiau Ymchwil perthnasol
  • cyflwyno darlith ffurfiol i'r Gyfadran, neu i'r gymuned ehangach.

Categorïau o Gymrodyr Gwadd

Mae'n bwysig i lwyddiant y cynllun bod ymwelwyr yn dod yn rhan annatod o fywyd deallusol yr Adran. Er mwyn sicrhau hyn, bydd yr Adran yn penodi Cymrodyr Gwadd ar sail blaenoriaethol ac yn ôl yr ystyriaethau canlynol:

i) Rhoddir blaenoriaeth i ymwelydd a enwebir gan aelod staff cyfredol, ac sy'n rhan o grant ymchwil byw neu brosiect ar y cyd ag aelod o staff. Rhoddir blaenoriaeth i gyfnewidfeydd o'r math hwn (a ariennir drwy gynlluniau megis y Newton International Trust, neu drefniadau ariannu eraill ar y cyd) yn y lle cyntaf.

ii) Fel arall, dylai ymgeisydd fod yn rhywun a noddir gan aelod staff unigol, neu gan Ganolfan Ymchwil, a bydd y 'noddwr' yn ymgymryd â rôl mentor i'r ymwelydd, i fod yn rhan o brosiect ymchwil yr ymwelydd, ac i hwyluso cyfranogiad yr ymwelydd mewn cyfres seminarau berthnasol. Mae'n bosibl y bydd y rôl hon hefyd yn golygu monitro cydymffurfiaeth ag amodau visa, lle bo hynny'n briodol. Yn ogystal ag unrhyw waith ysgrifennu a chyhoeddi ar y cyd rhwng y ddau, byddem hefyd yn annog yr aelod staff a'r Cymrawd Gwadd i weithio tuag at wneud cais ar y cyd am grant ymchwil ar gyfer y dyfodol.

iii) Os nad oes gan ddarpar ymgeisydd gysylltiad ymchwil sydd wedi'i sefydlu yn barod ag aelod o staff, dylai ysgrifennu at ein Cyfarwyddwr Ymchwil yn y lle cyntaf i ofyn a oes rhywbeth ar gael a fyddai'n gweddu i'r ddwy ochr. I gynorthwyo â hyn, gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno datganiad o'u prosiect ymchwil (uachfswm o 1000 o eiriau), dau eirda academaidd, a thystiolaeth o allu yn yr iaith Saesneg, lle bo hynny'n briodol. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais yn y modd hwn wneud ymholiad cyffredinol yn gyntaf er mwyn canfod a oes lle ar gael o gwbl cyn cyflwyno cais ffurfiol. 

Y broses ymgeisio

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried ddwywaith y flwyddyn, a cheir dau amser cau i'w cyflwyno: diwedd mis Chwefror (ar gyfer ymweliadau yn ystod y semester cyntaf, neu ddau semester y flwyddyn academaidd nesaf); diwedd mis Awst (ar gyfer ymweliadau yn ystod yr ail semester, neu'r flwyddyn galendr lawn nesaf).

Rhaid i ymgeiswyr yn nghategorïau i) a ii) uchod ddarparu'r manylion canlynol drwy law eu henwebydd neu noddwr:

  • maes eu harbenigedd a'r pwnc ymchwil sydd o ddiddordeb
  • eu cydweithiwr neu noddwr yn yr Adran
  • y gwaith ar y cyd a gynigir ganddynt ac amcanion yr ymweliad
  • cadarnhad bod gan yr ymgeisydd gyfnod sabothol i ffwrdd o'u gwaith neu gefnogaeth ariannol tebyg ar gyfer eu hymweliad 
  • curriculum vitae a manylion cyswllt
  • dyddiad cychwyn a gorffen ar gyfer yr ymweliad, a'r lefel o gymorth grant sydd ar gael
  • manylion eu statws visa (os yn berthnasol).

Rhaid i ymgeiswyr yng nghategori iii) ddarparu'r gwaith papur a restrir uchod. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan bwyllgor Tîm Rheoli priodol. Dylid cyfeirio ceisiadau ac unrhyw gwestiynau at Gyfarwyddwr Ymchwil yr Adran (gweler y Rhestr Staff).