Proffiliau Israddedig

Dmitrijs Onoprijčuks - Cysylltiadau Rhyngwladol

Pam wnaethoch chi ddewis astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Y peth pwysicaf i mi oedd hanes yr adran a'r ffaith mai hi oedd yr adran cysylltiadau rhyngwladol gyntaf erioed.  Yn ogystal, gan mai astudiaethau diogelwch yw fy niddordeb, rwyf wedi dewis Aberystwyth oherwydd ei bod yn darparu nifer sylweddol o fodiwlau sy'n ymwneud â materion diogelwch.

 

Beth yw uchafbwyntiau astudio eich cwrs hyd yn hyn? 

Rwy'n hoffi fy mod yn derbyn adborth ar yr holl draethodau rydw i wedi'u cyflwyno.  Mae'r adborth fel arfer yn helaeth iawn ac yn fuddiol oherwydd mae'n dangos beth gallaf ei wella a beth rydw i eisoes yn ei wneud yn dda.  Mae'n helpu gyda datblygu sgiliau ysgrifennu papurau, naill ai rhai academaidd neu anacademaidd.

 

Beth yw eich profiad chi o fyw yn Aberystwyth?

Er ei bod yn dref fach, mae Aberystwyth yn cynnig llawer o weithgareddau cymdeithasol gwahanol, o dafarndai a chlybiau i theatrau a chyngherddau cerddorfa symffonig.  Felly, bydd pawb yn dod o hyd i beth maen nhw'n ei hoffi.  Mae tirweddau a byd natur Aberystwyth yn anhygoel, er bod y tywydd yn gallu bod yn arw weithiau.  Ond, yn gyffredinol, fe wnes i fwynhau fy nhair blynedd o fyw yma heb ddifaru fy newis am un eiliad.

 

Beth yw eich cyngor i fyfyrwyr sy'n ystyried astudio yn yr adran?

Fyddwch chi ddim yn difaru astudio yma oherwydd mae'r athrawon yn angerddol iawn am yr hyn maen nhw'n ei wneud ac maen nhw bob amser yn hapus i helpu.  Mae'r rhaglen hefyd yn ansoddol iawn ac yn eich annog i feddwl am y materion na fyddech chi byth yn meddwl amdanyn nhw fel arall.  O ran cydbwysedd gwaith a bywyd, dydw i erioed wedi cael unrhyw broblemau ac roedd gen i ddigon o amser bob amser i ymlacio neu gymdeithasu.  Felly rwy'n argymell yn gryf eich bod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Ellie Sanders - Cysylltiadau Rhyngwladol/ Hanes (Anrhydedd Cyfun)

Pam wnaethoch chi ddewis astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Wrth ymchwilio i'r cynlluniau gradd a gynigir gan yr Adran, roedd eu sgoriau bodlonrwydd myfyrwyr wedi creu argraff fawr arnaf, ac roedd yr ystod o ddewis modiwlau a oedd ar gael wedi creu hyd yn oed mwy o argraff dda.  Nawr fy mod yma, un o'r pethau rwy'n eu gwerthfawrogi fwyaf am astudio yn yr Adran yw'r gefnogaeth rwy'n ei gael gan ddarlithwyr, yn enwedig fy Nhiwtor Personol. 

 

Beth yw uchafbwyntiau astudio eich cwrs hyd yn hyn? 

Mae’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol wedi ehangu fy maes o ddiddordeb!  Yn benodol, rwyf wedi mwynhau cymryd rhan yn y digwyddiadau a’r gweithgareddau a gynhaliwyd gan y Grŵp Ymchwil Tsieina Byd Eang.  Fy ffefrynnau oedd gwylio rhaglen ddogfen gyda chyflwyniad gan arbenigwr yr Adran ar Hong Kong, Dr. John Wood, a’r sgwrs a gynhaliodd y Grŵp yn ddiweddar gyda siaradwr gwadd o Brifysgol Pécs.

 

Beth yw eich profiad chi o fyw yn Aberystwyth? 

Rwy'n ei hoffi'n fawr!  Arhosais mewn llety myfyrwyr dros gyfnod fy ngradd oherwydd rwy'n credu ei fod yn werth da am arian ac yn ddiogel iawn.  O ran Aberystwyth ei hun, mae'n dref brifysgol berffaith – nid yw’n rhy fawr, nid yw’n rhy fach.  Yn gyffredinol, pan fyddwch chi allan o gwmpas y lle rydych chi'n gweld rhywun rydych chi'n ei adnabod ac mae hyn yn atgyfnerthu’r ymdeimlad cymunedol sydd gennym ni yma. 

 

Beth yw eich cyngor i fyfyrwyr sy'n ystyried astudio yn yr adran?

Ewch amdani!  Rwy'n cofio cael fy mrawychu gan enw da’r Adran, gan wybod bod y staff dysgu yn wirioneddol arbenigwyr yn eu meysydd.  Ond mae'r Adran wedi bod yn hynod groesawgar, ac mae'n lle rwy'n teimlo'n gartrefol i ddysgu.  Mae gennym gymuned wych yn yr Adran, ac mae hwn yn rhywle y gallwch, ac y byddwch, yn teimlo eich bod yn perthyn iddo wrth i ni weithio i ehangu ffiniau gwybodaeth yn y maes. 

Jacob Allen - Strategaeth, Cudd-wybodaeth a Diogelwch

Pam wnaethoch chi ddewis astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Roedd Aberystwyth yn ddewis cadarn i fi oherwydd lleoliad y Brifysgol a hefyd oherwydd beth oedd gan yr adran i'w chynnig.  Heblaw am allu astudio yng nghefn gwlad Cymru, mae gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol enw da am ei hanes ac am ansawdd yr athrawon a chyn-fyfyrwyr.

 

Beth yw uchafbwyntiau astudio eich cwrs hyd yn hyn? 

Ar fy nghwrs Strategaeth, Cudd-wybodaeth a Diogelwch rwyf wedi mwynhau'r cyfle i astudio amrywiaeth o bynciau.  Fy uchafbwyntiau personol yw strategaeth niwclear, cudd-wybodaeth Rwsia, a hanes propaganda.  Mae'r modiwlau hyn, yn enwedig, wedi fy ysbrydoli i greu fy ngwaith gorau ar gyfer fy nghwrs israddedig.

 

Beth yw eich profiad chi o fyw yn Aberystwyth? 

Rwy'n falch o ddweud y byddwch chi'n dod o hyd i fwy o ‘uchafbwyntiau’ nag o ‘isafbwyntiau’ yn byw yn Aberystwyth.  Rydw i wedi byw ar y campws ac yn y dref ar waelod y bryn, a gallaf ddweud bod y dref yn ddymunol iawn.  Weithiau does dim llawer ar gael, ond mae ei lleoliad ar hyd bryniau Cymru a glan y môr yn gwneud iawn am hynny.

 

Beth yw eich cyngor i fyfyrwyr sy'n ystyried astudio yn yr adran?

Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr yw manteisiwch ar gyfleoedd a gynigir gan y brifysgol wrth wneud cais ac yn ystod eich cwrs.  Mae yna lawer o gyfleoedd ar gael, a’r peth gwaethaf allai ddigwydd yw eu bod yn cymryd ychydig o’ch amser, ac ar yr ochr orau gallent eich gwobrwyo a rhoi sgiliau i chi i’w hychwanegu at eich CVs.    I fi, yr Arholiad Gwobr Teilyngdod a'r cyrsiau iaith Dysgu Gydol Oes oedd y cyfleoedd hyn a gynigir gan Brifysgol Aberystwyth.

Nel Jones - Hanes Modern a Gwleidyddiaeth

Pam ddewisaist ti astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Oherwydd bod yr adran yn cynnig ystod eang o fodiwlau cyfoes sy’n cael eu dysgu drwy’r Gymraeg. O fewn prifysgolion eraill roedd llawer o fodiwlau Cymraeg yn derbyn darlithoedd  Saesneg a seminarau Cymraeg, a gan fod gwleidyddiaeth yn bwnc gwbl newydd i mi roeddwn yn teimlo ei fod yn bwysig i mi ddysgu’r derminoleg drwy fy mamiaith.

 

Beth yw’r uchafbwyntiau astudio hyd yn hyn?

Fy uchafbwynt astudio hyd yn hyn ydi cael darlith gan Dr Gwenole Cornec yn y modiwl Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol. Rhoddodd Dr Gwenole ddarlith i ni am siarad yr iaith Lydaweg a golwg ar Weriniaeth Ffrengig ‘o’r cyrion’. Roedd y ddarlith yn hynod ddiddorol, a gan fod Dr Gwenole wedi dysgu Cymraeg a bellach yn byw yn Aberystwyth roedd yn gwneud cysylltiadau hynod ddiddorol a’r iaith Gymraeg.

 

Sut brofiad yw byw yn Aberystwyth?

Dw i’n teimlo'n gartrefol iawn yn Aberystwyth. Mi wnes i ddod i adnabod yr ardal yn gyflym iawn drwy gerdded o gwmpas y dref. Fy hoff beth i wneud yn fy amser sbâr yw rhedeg a cherdded ac mae Aber yn lleoliad gwych i wneud hyn. Dwi’n teimlo’n ddiogel yn rhedeg ar ben fy hun ac yn mwynhau’r golygfeydd prydferth ar hyd y prom. Fy hoff beth i wneud yn Aber ydi cymryd rhan y parkrun ar fore dydd Sadwrn. Mae yna deimlad cymunedol i’r parkrun ac yn aml iawn ar ôl gorffen rhedeg dwi a fy ffrindiau yn ffeindio ein hunain yn Medina yn cael paned a theisen!

 

Beth yw dy gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yn yr Adran?

Fy nghyngor i unrhyw fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yn yr Adran ydi edrych ar y modiwlau. Mae’n hawdd iawn dewis ar brifysgol heb roi gwir ystyriaeth i’r modiwlau mae’r adrannau yn cynnig. Hefyd byddwn i’n cysylltu ag un o’r darlithwyr. Cyn dechrau yn Aber roeddwn wedi bod mewn cysylltiad ag un o’r darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac roeddwn yn teimlo gymaint gwell am ddechrau yn yr adran ym mis Medi. Mae diwrnodau agored yn gyfle gwych hefyd i ddod i adnabod rhai o’r darlithwyr a’r myfyrwyr sydd yn y Brifysgol.

Ruby Morse ⁠- Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Pam wnaethoch chi ddewis astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Dewisais astudio yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth oherwydd ei henw da, hirsefydlog fel canolbwynt rhagoriaeth academaidd, lle mae’r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr yn wych, ac mae’n gartref i'r adran cysylltiadau rhyngwladol gyntaf o'i math yn y byd!

 

Beth yw uchafbwyntiau astudio eich cwrs hyd yn hyn? 

Uchafbwyntiau astudio fy nghwrs hyd yma oedd cael y cyfle i fynd i sesiwn banel holi ac ateb, wyneb yn wyneb gyda Mary Jordan a Kevin Sullivan, cyd-olygyddion y Washington Post, a gwneud cais am le ar gynllun lleoliad seneddol yr adran, cynllun sy’n uchel ei barch.   

 

Beth yw eich profiad chi o fyw yn Aberystwyth? 

Rwyf wrth fy modd yn byw yn Aberystwyth!  Mae'n gydbwysedd perffaith o’r bywiog a thawel, a bywyd nos a champws prysur, ac ar yr un pryd mae mewn lleoliad glan môr hardd â phrydferthwch naturiol diddiwedd o fewn cyrraedd rhwydd.   Mae Aber yn gymuned ddiogel a chlos, ag wynebau cyfeillgar a chyfarwydd ym mhob man rydych chi'n mynd!

 

Beth yw eich cyngor i fyfyrwyr sy'n ystyried astudio yn yr adran?

Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried dod i astudio yn yr adran yn Aberystwyth yw ewch amdani!  Gallwch fod yn hyderus y byddwch chi'n cael profiad myfyriwr heb ei ail, gyda chefnogaeth darlithwyr sy'n arbenigwyr yn eu meysydd, â’r cwbl mewn lleoliad diguro.  Fyddwch chi ddim yn difaru!  

Stefan Bridle - Almaeneg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Pam ddewisaist ti astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Roedd y gallu i barhau i astudio trwy’r Gymraeg yn hynod atyniadol i mi, yn enwedig gan fod amrywiaeth mor dda o fodiwlau’n cael eu cynnig trwy’r Gymraeg bob semester. Roedd statws yr adran fel Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y byd hefyd yn bwysig, yn ogystal â safon y gefnogaeth mae’r adran, a’r Brifysgol ehangach, yn cynnig.

 

Beth yw’r uchafbwyntiau astudio hyd yn hyn?

Heb os, yr uchafbwynt mwyaf oedd cael y fraint i fynychu’r trip i Lundain a Brwsel, lle ces i’r cyfle i ymweld â sefydliadau llywodraethol a sgwrsio â staff oedd yn gweithio ar draws amrywiaeth o feysydd. Fel rhywun sydd â diddordeb mawr mewn Gwleidyddiaeth, roedd y trip yn gyfle gwych i ddysgu mwy am wleidyddiaeth Brydeinig ac Ewropeaidd, ond hefyd yn gyfle euraidd i mi weld y gwahanol fathau o yrfaoedd byddai ar gael i mi yn y byd gwleidyddol. Mae’r profiad o weithio fel llysgennad yn ystod diwrnodau agored a chwrdd â darpar fyfyrwyr hefyd wedi bod yn bleser, ac yn gyfle gwych i mi rannu fy mrwdfrydedd am yr Adran ac Aber.

 

Sut brofiad yw byw yn Aberystwyth?

Mae’n dref hynod groesawgar ac yn faint perffaith er mwyn blasu annibyniaeth o’ch rhieni am y tro cyntaf, ond hefyd teimlo’n ddigon diogel. Hawdd yw creu ffrindiau ac mae’n ddigon bach fel byddech wastad yn gweld pobl rydych yn eu hadnabod o gwmpas y brifysgol, y dref ac ar nosweithiau mas.

 

Beth yw dy gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yn yr Adran?

Dewch i ymweld â’r Adran er mwyn siarad â staff a llysgenhadon a dod i adnabod yr Adran yn well. Unwaith yn Aber, byswn i wir yn argymell i fyfyrwyr gymryd pob cyfle maen nhw’n cael er mwyn cymryd rhan mewn bywyd prifysgol, yn academaidd

Jacob Low - Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Pam wnaethoch chi ddewis astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Dewisais astudio yn yr Adran oherwydd ei henw da academaidd a'i hanes cryf, yr adran Wleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf erioed! Fe wnes i hefyd ddarganfod cymysgedd diddorol ac amrywiol iawn o fodiwlau a oedd yn sefyll allan.

 

Beth yw uchafbwyntiau astudio eich cwrs hyd yn hyn? 

Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda myfyrwyr eraill yn y modiwl efelychu ffoaduriaid a'r gemau argyfwng blynyddol! Mae hefyd wedi bod yn ddiddorol dysgu gan arbenigwyr Cysylltiadau Rhyngwladol blaenllaw mewn darlithoedd, a chymryd rhan mewn dadleuon sy'n ysgogi’r meddwl yn y seminarau.

 

Beth yw eich profiad chi o fyw yn Aberystwyth? 

Mae byw yn Aber wedi bod yn anhygoel. Rwyf wrth fy modd â'r hanes a'r golygfeydd, mae mor gerddadwy! Rhai o fy amseroedd cofiadwy y tu allan i’r darlithoedd yw cerdded ar hyd glan y môr a thrwy Goedwig Penglais.

 

Beth yw eich cyngor i fyfyrwyr sy'n ystyried astudio yn yr adran?

Cymerwch ran! Mae'r adran yn cynnig cymaint o gyfleoedd gwych: y cynllun Lleoliadau Seneddol, y cyfnodolyn Interstate, y Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, gemau argyfwng blynyddol, a bod yn gynrychiolydd academaidd. Rwyf wir yn credu bod y brifysgol nid yn unig yn ymwneud â dysgu academaidd, ond hefyd, sut mae datblygu fel unigolyn!

Kosisochukwu Mefor - Cysylltiadau Rhyngwladol

Pam ddewisoch chi astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth? 

Dewisais i astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth am fod y cwrs Cysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig llawer o opsiynau i ddewis o’u plith mewn gwleidyddiaeth. Drwy gydol y cwrs, rwyf i wedi dysgu am agweddau gwleidyddol newid yn yr hinsawdd, hanes, cyfryngau cymdeithasol a llawer o sectorau eraill yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth. Mae hyn yn helpu i ddadansoddi sut mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar bopeth a phawb, hyd yn oed os nad yw’n ymddangos felly.

Beth yw uchafbwyntiau astudio eich cwrs hyd yma?

Uchafbwynt pwysig i fi yw dysgu gwybodaeth newydd a gwerthfawr yn y modiwlau y gallaf ei defnyddio mewn dosbarthiadau eraill neu’r tu allan i fy mywyd fel myfyriwr. Mewn modiwl blaenorol, dysgais am faterion yn ymwneud â Laïcité am y tro cyntaf. Ar ôl ymchwilio ymhellach, roeddwn i’n gallu cymhwyso Laïcité mewn modiwl diweddarach wrth drafod ffeministiaeth a chrefydd.

Sut brofiad yw byw yn Aberystwyth? 

Mae Aberystwyth yn gallu bod yn dref hwyliog, gymdeithasol fywiog i rai ac yn dref gartrefol i eraill. I fi, mae’n bendant yn gartrefol, er ei bod yn gallu bod yn ddiflas teithio yno ac mae’n brin o rai siopau dwi wedi arfer gyda nhw, ond mae ei phrydferthwch yn gwneud yn iawn am hynny. 

Beth yw eich cyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yn yr adran? 

Fy nghyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yn yr adran fyddai cofio neilltuo amser i chi eich hun yn ogystal a’ch astudiaethau. Mae rheoli amser yn hanfodol i fi gan ei fod yn fy helpu i gael amser i mi fy hun ac osgoi cael fy llethu. 

Kividi Ramalya Koralage - Y Gyfraith a Chysylltiadau Rhyngwladol (Cydanrhydedd)

Pam ddewisoch chi astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Dewisais yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth gan mai dyma lle y dechreuodd y pwnc yn wreiddiol, ac a bod yn onest, pa le gwell i ddysgu sut i roi ysgydwad i wleidyddiaeth draddodiadol? Roedd dull radical yr adran a’r darlithwyr rhyfeddol yn cynnig y lle perffaith i mi grwydro drwy fyd Cysylltiadau Rhyngwladol.

Beth yw uchafbwyntiau astudio eich cwrs hyd yma? 

Cefais gyfle i fanteisio ar brofiad gwaith yn Nhŷ’r Cyffredin gyda thîm ymchwil Plaid Cymru. Cyflwynais ac ysgrifennais i lawer o bapurau cynhadledd, a dod yn agos at ennill Cystadleuaeth Global South Hub, ynghyd â threfnu cynhadledd i fyfyrwyr yn Aberystwyth. 

Sut brofiad yw byw yn Aberystwyth?

Dwi wrth fy modd gyda’r gymuned yn Aberystwyth, mae’n lle dwi wir yn teimlo mod i’n perthyn iddo. O’r eiliad y cyrhaeddais i, dwi wedi teimlo’n gartrefol yma, gyda chynhesrwydd ac ysbryd y dref ryfeddol yn fy nghofleidio. Nid lle i fyw ynddo yw Aberystwyth i mi; dyma lle mae fy nghalon.

Beth yw eich cyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yn yr adran?

 Cofleidiwch lawenydd dysgu, cysylltwch â’r bobl o’ch cwmpas, gwnewch y gorau o’r rhyddid i greu a threfnu digwyddiadau. Cyfrannwch yn angerddol ym maes addysg, a pheidiwch byth ag oedi cyn cysylltu â’ch darlithwyr; byddan nhw bob amser yn dod o hyd i ffordd i gefnogi eich twf. Manteisiwch ar bob cyfle, a pharhewch i symud ymlaen yn bwrpasol, yn ddewr ac yn benderfynol at eich breuddwydion a’ch dyheadau.  

Rhys Townsend - Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol

Pam ddewisoch chi astudio yn yr Adran? 

I mi, roeddwn i’n gwybod am y brifysgol ers i mi fod yn blentyn ac yn yr ardal yn aml ar wyliau, felly roedd ar y radar i mi ers tro. Pan oeddwn i’n gwybod mai Hanes a Gwleidyddiaeth roeddwn i am ei astudio yn y Brifysgol penderfynais edrych yma. Roedd Aberystwyth yn rhagori ar y lleill yn rhannol oherwydd y lleoliad a theimlad cyffredinol y campws gan fod rhai prifysgolion yr edrychais i arnyn nhw fel blychau dienaid yng nghanol dinasoedd mawr fel Llundain. Ond yn bennaf y cwrs berswadiodd fi i astudio yma: hyd y gwn i, mae Aberystwyth yn un o ddim ond pump prifysgol yn y DU sydd â Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol yn opsiwn, felly dyna’r penderfyniad wedi’i wneud.

Beth yw uchafbwyntiau astudio eich cwrs hyd yma?

Yr uchafbwynt mwyaf hyd yma yw cael fy marc cyntaf sy’n cyrraedd meini prawf dosbarth cyntaf, pan agorais i’r dudalen ar Blackboard a gweld bod y rhif cyntaf yn dechrau gyda 7, allwn i ddim bod yn hapusach. Wrth ysgrifennu’r aseiniad efallai nad oeddwn i’n hyderus oherwydd cymhlethdod y cwestiwn ond wrth edrych yn ôl, dyma un o’r darnau o ysgrifennu mwyaf heriol yn academaidd i mi ei wneud.

Beth yw eich cyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yn yr adran? 

O ran dewis prifysgol neu adran, meddyliwch sut fyddai gweithio y tu allan i’r oriau darlithio penodol. Mae darlithfeydd yn amrywio o semester i semester ac o flwyddyn i flwyddyn, ond os gallwch chi ddod o hyd i rywle i eistedd a gweithio y tu allan i’ch llety, bydd yn cyflawni gwyrthiau. O ran astudio a’r gwaith fydd pobl yn ei wneud, byddwn i’n argymell camu allan o’ch lle cyfforddus a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Er enghraifft, ar gyfer y modiwl Gwrth Derfysgaeth, roedd rhai i mi ysgrifennu am grŵp cenedlaetholgar oedd yn defnyddio tactegau terfysgol. Wrth gynllunio, meddyliais i ar unwaith am yr un grŵp y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl amdano ar ôl darllen y cwestiwn oedd angen ei ateb. Eto, fe ddaliais i ati i feddwl a gwthio fy hun i ddod o hyd i grwpiau cenedlaetholgar drwy hanes, ac arweiniodd at y cyfnod mwyaf pleserus o ysgrifennu traethawd hyd yma.