Cyflogadwyedd

Bydd Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn apelio i'r rheiny sy'n byw bywyd rhyngwladol, a bydd gradd o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn ddechrau rhagorol i yrfa lwyddiannus.

Tra fyddwch yn astudio gyda ni, fe gewch bob cyfle i ddatblygu ac i ystyried ystod eang o brofiadau yn y gweithle ynghyd ag opsiynau gyrfaol. Bydd ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn gallu eich helpu i adnabod eich cryfderau ac ar ba drywydd yr hoffech chi fynd, ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi brofi gwaith a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Yn rhan o'ch gradd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, cewch hefyd gyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Lleoliadau Seneddol sy'n cynnig cyfle gwych i chi ddod i adnabod byd go iawn gwleidyddiaeth yn ogystal ag ennill profiad gwaith amhrisiadwy a fydd yn sefyll allan ar eich CV.

Mae cynlluniau gradd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig cyfleoedd i astudio gradd sy’n berthnasol yn y byd go iawn ac sydd â sgiliau trosglwyddadwy sy'n gysylltiedig ag amrywiaeth o lwybrau gyrfa deinamig.

Caiff eich gradd ei hategu gan ystod o weithgareddau allgyrsiol sy’n gysylltiedig â’ch pwnc i wella eich cyflogadwyedd, eich gallu i addasu a'ch sgiliau rhyngbersonol.

Mae ein graddedigion yn gweithio mewn gyrfaoedd amrywiol a chyffrous gan gynnwys:

  • Y Gwasanaeth Sifil, diplomyddiaeth, a gweinyddiaeth gyhoeddus
  • Dadansoddi Polisi neu Gudd-wybodaeth
  • Trydydd sector, sefydliadau anllywodraethol, melinau trafod neu'r sector dyngarol
  • Newyddiaduraeth
  • Amddiffyn a Diogelwch
  • Rhaglenni i raddedigion gyda’r cwmnïau gorau
  • Addysg a’r Byd Academaidd
  • Ac mewn gwleidyddiaeth!

Mae mentrau adrannol sy'n hyrwyddo cyflogadwyedd yn cynnwys:

  • Cynlluniau pedair blynedd gyda blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant
  • Sgiliau cyflogadwyedd wedi’u hymgorffori mewn modiwlau
  • Digwyddiadau Gyrfa adrannol
  • Efelychu Argyfyngau Rhyngwladol
  • Cynllun Cyfnewid Rhyngwladol
  • Cynllun Lleoliadau Seneddol
  • Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr
  • Cylchgrawn Interstate a chymdeithasau myfyrwyr

Tra byddwch chi'n astudio gyda ni, gall ein Gwasanaeth Gyrfaoedd eich helpu drwy eu darpariaeth gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, gan gynnwys gweithdai cyflogadwyedd a menter.