Cyn-fyfyrwyr

Y Farwnes Kay Andrews - Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Arglwyddi

Y Farwnes Kay Andrews
Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Arglwyddi

.... “Deciding to go to Aber to take a degree in International Politics in 1961 confounded most people I knew, including my Headteacher and my parents. I had seemed destined to read English somewhere else. But in fact it was a stroke of genius on my part, inspired by chance - a lecture given at Coleg Harlech by Professor Philip Reynolds on the nation state: ‘No Man is an Island’. And that was that.

We were incredibly lucky to be at Aber at that time: EH Carr was still a powerful influence - and as now, the department was a byword for pioneering research and teaching in International Politics. Looking back, I realise it was a remarkable time to be studying this subject: only 25 years from the end of WW2; the brave new world of the Common Market; the maturing of the United Nations; the loss of Empire – the disgrace of Suez, the tragedy of Hungary, and the menace of the Cold War. We learned, I suspect, alongside our brilliant young teachers - Roger Morgan (still writing brilliant reviews), Ieuan John, Roy Jones – to name but three - about the reconfiguration of global power and politics, the challenges to International Law and the interpretation of contemporary history and its influence. This was first hand research and knowledge.

Moreover, it wasn’t just theoretical. We were passionate about the major international events of the time, particularly the Cuban Missile Crisis, when the world stood on the brink of nuclear war. One very wet afternoon towards the end of the crisis, we left the rather scruffy house next to the Old College where the Department was then housed, and trooped up to Penrhyndeudraeth to thank Bertrand Russell (born there in 1872!) for his dramatic intervention calling for the withdrawal of Soviet missiles from Cuba.

My career has been influenced by my conviction that evidence and logic as well as ethics and values must inform political and public life. I have been enormously privileged all my life in the education I had, and by what I have had the chance to do, both inside and outside Parliament and Government. The excitement I felt at the ideas I was exposed to as an undergraduate at Aber has never left me – and neither has the profound gratitude I still feel to those who taught me to understand more about the world and our power and responsibility to influence it. “

Arwyn Jones
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

It was by pure accident that I came to be studying Politics at Aberystwyth. When I first visited Aberystwyth University, I had decided to study Law. However, when I saw the diversity of courses available in the International Politics Department and the friendly nature of the department and its staff, I changed my mind and followed a degree course in Politics. That was certainly one of the most important decisions I have ever made!

After spending four years in Aberystwyth, I worked for a charity before starting as a researcher with the BBC. The knowledge I had gained during my time in Aberystwyth was essential in getting me that job, and that information on Welsh, British and International Politics has been essential ever since.

On a practical level, I had learnt so much about the National Assembly and that was very important when I worked for S4C2, which was responsible for broadcasting so many of the Assembly’s committees and discussions.

When I became a political correspondent for the BBC, the ability to put events within their historical context was an important tool. Because of the degree programme in Aberystwyth I have the confidence and ability to do so. I am now the Educational Correspondent for BBC Wales during a general election campaign, and my politics degree is more useful than ever!!  I am grateful on a daily basis for that decision I took on my first visit to Aberystwyth University!

Megan Depper - Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Deallusrwydd (2019) Uwch-ddadansoddwr Deallusrwydd a Rheolwr Llinell

Pam wnest ti ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Ar ôl dod i ddiwrnod agored yn yr haf, cwympais i mewn cariad â’r ardal, ac roeddwn i’n dwlu ar yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Roeddwn i wedi ymweld ag adrannau gwleidyddiaeth eraill o amgylch y DU, ond doedd dim i guro’r dewis o gyrsiau yma a hanes Aberystwyth. Fe ges i gynnig diamod drwy’r wobr teilyngdod ar ôl sefyll yr arholiadau ysgoloriaeth, ac roeddwn i’n teimlo mai dyma’r unig ddewis i mi.

 

Beth oedd uchafbwyntiau dy radd?

 Y ffaith bod fy ngradd wedi’i phersonoli i raddau helaeth a ’mod i’n gallu addasu’r cyrsiau/modiwlau roeddwn i’n eu cymryd i weddu i fy niddordebau i. Roeddwn i wedi llwyddo i ganolbwyntio dipyn ar sector ‘deallusrwydd’ fy ngradd ac wedi cwblhau traethawd estynedig mewn pwnc oedd o wir ddiddordeb i fi! 

 

Beth wnest ti ar ôl cwblhau dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Roeddwn i wedi rhoi fy mryd ar swydd yn NetWatch, fy nghwmni presennol, ac fe wnes i weithio am gyfnod byr fel Newyddiadurwr Data Traffig er mwyn cael profiad gwaith. Roeddwn i wrth fy modd â’r swydd hon, a rhoddodd set berffaith o sgiliau i mi ar gyfer symud ymlaen, o ran profiad gwaith yn y byd go iawn a gradd. 

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau am dy swydd bresennol?

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ym maes ymchwiliadau ffynhonnell agored ac rwy’n dwlu ar y teimlad o ‘ymchwilio’ i achos a dod o hyd i’r darn allweddol o wybodaeth a oedd ar goll o bosibl. 

 

Sut wnaeth dy gwrs dy baratoi ar gyfer dy lwybr gyrfa?

Tua diwedd fy ngradd, fe wnes i ganolbwyntio tipyn ar ble roeddwn i am fynd gyda fy ngradd, ac roeddwn i’n sicr yn teimlo bod gen i gefnogaeth yr adran a’r staff a oedd bob amser ar gael i drafod gyrfaoedd pellach. Drwy ddysgu am ddeallusrwydd yn academaidd, fe ges i fy swyno gan y sector, ac fe roddodd y cwrs fi ar ben ffordd.

 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol?

Gofalwch eich bod chi’n cael yr holl gyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael gan yr adran ac ewch ati o ddifrif gyda’ch astudiaethau a’r gweithgareddau yn y brifysgol. Roedd fy nhair blynedd yn Aberystwyth ymhlith blynyddoedd gorau fy mywyd ac roedd bod yn rhan o gynifer o glybiau a chymdeithasau, yn ogystal â chymryd diddordeb yn fy modiwlau, yn ffactor enfawr yn hyn o beth. 

Jacob Ellis - Graddiodd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth Rhyngwladol (2014), Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol a Diwylliant, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Roedd astudio yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth yn brofiad arbennig i mi. Cefais fy nenu at yr adran oherwydd ei henw da fel un o’r goreuon yn y byd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, ond hefyd oherwydd y cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cyfuniad o sylfaen academaidd gref a’r gwerthoedd sydd wedi’u gwreiddio yn niwylliant Aber—cymuned, undod, a chyfiawnder cymdeithasol—wedi llywio fy newisiadau gyrfa a’r ffordd rydw i’n ymdrin â’m gwaith heddiw.

Rhoddodd fy amser yn Aberystwyth sylfaen gadarn i mi mewn datganoli, materion cyhoeddus, eiriolaeth polisi, strategaeth, diplomyddiaeth, a chyfathrebu—sgiliau sydd wedi bod yn ganolog i bob rôl rwyf wedi’i chyflawni. Ar ôl dechrau fy ngyrfa fel newyddiadurwr gyda BBC Newyddion, symudais i faes polisi, eiriolaeth ac ymgysylltu rhyngwladol.

Rwyf bellach yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol a Diwylliant yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, gan arwain ar bartneriaethau gyda’r Cenhedloedd Unedig, polisi diwylliannol, ac eiriolaeth gwleidyddol.

Mae’r persbectif rhyngwladol a ddatblygais yn Aber, ynghyd â’m hymrwymiad i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, wedi fy ngalluogi i weithio ar draws sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol. Fel Cymrawd Cenhedlaeth Nesaf Sefydliad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol a Chymrawd Rhagolwg Ieuenctid UNICEF, rwyf wedi cynghori uwch swyddogion y Cenhedloedd Unedig, diplomyddion, ac aelod-wladwriaethau, gan gyfrannu’n fwyaf diweddar at fabwysiadu Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Genedlaethau’r Dyfodol yn llwyddiannus. Rwyf hefyd yn cyd-arwain clymblaid fyd-eang aml-randdeiliaid ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan ymgyrchu dros feddwl hirdymor wrth wneud penderfyniadau. Yn nes adref, rwyf wedi gweithio mewn rolau arwain ar draws sefydliadau diwylliannol Cymreig, gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru, a Scouts Cymru.

Drwy gydol hyn oll, mae dylanwad Aberystwyth wedi aros gyda mi—nid yn unig o ran y sylfaen academaidd a ddarparodd, ond yn y gwerthoedd a feithrinwyd ganddi: ymagwedd sy’n canolbwyntio ar bobl, gwerthfawrogiad dwfn o ddiwylliant ac iaith, a chred yng ngrym cymuned. Rwy'n parhau i fod yn hynod ddiolchgar am fy amser yno.

Fflur Arwel - Graddiodd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth Rhyngwladol (2014), MA Gwleidyddiaeth a Cymdeithas Cymreig (2015) Pennaeth Cyfathrebu Plaid Cymru

Roedd dewis yr adran Wleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Abersytwyth yn no-brainer. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth ers dechrau fy arddegau, o wleidyddiaeth byd-eang i’n gwleidyddiaeth ni yma yng Nghymru. Wnes i erioed ystyried astudio gwleidyddiaeth fel gradd nes cael fy annog i edrych mewn i’r adran Wleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth – a dyna oedd hi wedyn. Mae gan yr adran enw da drwy’r byd am fod gyda’r gorau a does dim syndod pan mae rhywun yn edrych ar safon y dysgu, yr academyddion, a’r adnoddau sydd ar gael – heb son am yr adeilad eiconig! Roedd ‘na hefyd gymaint o ddewis o safbwynt y modiwlau oedd ar gael i’w hastudio – gwleidyddiaeth Cymru, America Ladin, y Dwyrain Canol, rhyfela modern, athroniaeth, astudiaethau rhywedd, ac ystod eang o’r rhain hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg gyda diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dwi mor falch mod i wedi dewis yr adran. Fyswn i ddim lle ydw i rwan heb i mi wneud y dewis hwnnw.

Roedd fy mhrofiad o astudio yn yr adran mor gadarnhaol. I ddechrau, roedd gymaint o ddewis o safbwynt y modiwlau oedd ar gael i’w hastudio a digon o ryddid i mi ddilyn trywydd fy hun a theilwra’r cwrs a’r gradd yn ol fy niddordebau i. Roedd y ffaith fod cynifer o fodiwlau ar gael yn Gymraeg hefyd – a’r adran yn gwneud ymdrech i sicrhau darpariaeth Gymraeg, hefyd yn gadarnhaol. Mae gymaint o brofiadau all-gyrsiol ar gael drwy’r adran, gan gynnwys tripiau, rhaglennau cyfnewid, a gemau argyfwng. Roeddwn i wastad yn mwynhau mynychu’r darlithoedd (a wastad yn mynychu hefyd…hyd ‘noed os oeddwn i’n teimlo’n delicet ambell fore…) ond y seminarau oedd y gorau heb os. Mae’r tiwtoriaid yn yr adran mor gyfeillgar, mor gefnogol, a mor awyddus i roi llais i fyfyrwyr ddatblygu eu dadansoddiadau eu hunain a’u hannibyniaeth academaidd. Fe wnaethon ni hefyd ffurfio, yn gwbl naturiol, cymuned o fyfyrwyr Cymraeg oedd yn astudio yn yr adran gan sefydlu cymdeithas ‘CWGA’ – Cymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Aberystwyth. Mi fynychais am y gwleidyddiaeth ond gadael efo ffrindiau arbennig.

Ddywedes i y byddwn i ddim lle ydw i rwan heb yr adran ac mae hyn mor wir.
Fe wnaeth y profiadau a’r cyfleon ges i drwy astudio yn yr adran arwain yn uniongyrchol at fy swydd gyntaf, sef Pennaeth Marchnata gyda gwasg Y Lolfa yn Nhal-y-bont.
Rhoddodd y cwrs a’r adran fynediad i mi at gysylltiadau ar draws bywyd cyhoeddus Cymru, ac fe ges i gyfle i feithrin perthnasau yn y byd gwleidyddol, arweiniodd wedyn at swydd fel Uwch Swyddog Cyfathrebu yn grwp Plaid Cymru yn y Senedd.
Fe ddatblygodd fy sgiliau dadansoddi – sgil sydd bellach yn gwbl angenrheidiol yn fy swydd bresennol – sef Pennaeth Cyfathrebu Plaid Cymru, un o bleidiau gwleidyddol mwyaf Cymru, ac yn paratoi at etholiad 2026. Mae hi’n swydd heriol ond eithriadol o wobrwyol. Fyddwn i ddim wedi gallu dilyn llwybr gyrfa mor liwgar a bywiog heb fy amser a’m mhrofiadau yn adran wleidyddiaeth rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Joseph Garibaldi - Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Deallusrwydd (2021), Uwch-swyddog Gweithredol Marchnata

Pam wnest ti ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Fe ddewisais i Aberystwyth am ddau brif reswm. Y rheswm cyntaf oedd hyblygrwydd ac arbenigedd y cwrs. Roedd y modiwlau i gyd yn swnio mor ddiddorol ac yn cael eu dysgu gan arbenigwyr yn y maes. Roedd cymaint o ddewis, doeddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau! Yr ail reswm oedd lleoliad godidog Aberystwyth, rhwng Mynyddoedd y Canolbarth a’r môr. Mae’n brydferth drwy’r flwyddyn.

 

Beth oedd uchafbwyntiau dy radd?

Yn bersonol, roeddwn i wrth fy modd gyda’r seminarau. Roedd yn gyffrous siarad gydag arbenigwyr mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a chael fforwm agored a diogel i drafod syniadau. Roedd yn wych cael argymhellion am lyfrau neu ddealltwriaeth ychwanegol gan aelodau o staff. Roedd Aberystwyth yn arbennig  o dda am sicrhau bod hyd yn oed yr aelodau staff mwyaf profiadol yn cymryd seminarau, ac roedd hi’n hawdd troi atyn nhw bob amser, hyd yn oed fel myfyriwr israddedig.

 

Beth wnest ti ar ôl cwblhau dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Roeddwn i’n caru Aberystwyth gymaint fel mod i wedi aros am flwyddyn arall a gweithio’n lleol! Yna, daeth yr amser i symud ymlaen, a nawr rwy’n gweithio dramor ym maes marchnata.

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau am dy swydd bresennol?

Y cyfle i brofi diwylliannau ac ieithoedd gwahanol. Rwy’n credu y dylai pawb geisio symud dramor os gallan nhw wneud hynny. Mae yna fyd mor fawr allan yna yn barod i’w ddarganfod.

 

Sut mae dy gwrs wedi dy baratoi ar gyfer dy lwybr gyrfa?

Rhoddodd fy nghwrs lawer o sgiliau traddodiadol i mi o ran fy ngallu i ysgrifennu ac ymchwilio. Ond y peth pwysicaf a ddysgais yn Aber yw’r sgiliau meddal sy’n dod drwy gwrdd â phobl newydd, a’r hyder ges i i fynd allan i fyd busnes a chysylltu â phobl eraill â syniadau a chefndiroedd gwahanol i mi.

 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol?

Edrychwch y tu hwnt i’r prif ddinasoedd prifysgol y mae pawb yn y DU wedi clywed amdanyn nhw. Ystyriwch yr amgylchedd lle’r ydych chi am fyw a’r cwrs delfrydol i chi. Byddwch yn barod i gymryd naid i’r tywyllwch. Dwi’n difaru dim!

Jessica Gerken - Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Strategol (2013), Rheolwr Rhaglen, Global Initiative against Transnational Organized Crime

Pam wnest ti ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Prifysgol Aberystwyth oedd fy newis cyntaf oherwydd enw da Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn ogystal â’r rhagoriaeth o ran addysgu a bodlonrwydd myfyrwyr. Roedd y lluniau o’r machlud mwyn yn goron ar y cyfan.

 

Beth oedd uchafbwyntiau dy radd?

Y gymuned myfyrwyr, yn ogystal â’r gefnogaeth agos a hynod gyfeillgar gan y staff addysgu, er mai ‘dim ond’ myfyriwr israddedig oeddwn i.

 

Beth wnest ti ar ôl cwblhau dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Fe wnes i fynd ymlaen i wneud cwrs gradd Meistr yn yr Institut de hautes études internationales et du développement (IHEID) yn Genefa, y Swistir. Rhwng fy ngradd Baglor a’m gradd Meistr, fe wnes i interniaeth.

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau am dy swydd bresennol?

Fel Rheolwr Rhaglen, rwy’n cefnogi ac yn goruchwylio pum prosiect ar gyfer llywodraethau gwladol a sefydliadau uwchwladol amrywiol. Mae gen i lawer o gyfrifoldebau tîm a rheoli prosiectau ac mae hefyd angen arbenigedd yn fy maes ymchwil (mudo afreolaidd yng Nghanol Môr y Canoldir oddi ar Libya). Mae’n teimlo fel bod pob blwyddyn yn wahanol, gan fod y llif mudo a rhwydweithiau smyglo pobl yn newid yn barhaus, ac rydyn ni hefyd yn cael prosiectau neu weithdrefnau mewnol newydd.

 

Sut mae dy gwrs wedi dy baratoi ar gyfer dy lwybr gyrfa?

Yn bennaf, gwnaeth Aberystwyth fy nysgu i feddwl yn annibynnol a chadw meddwl beirniadol, gan ofyn ‘pam’ bob amser, sy’n hanfodol i unrhyw fath o swydd ddadansoddi. Fe ddechreuais i’n bennaf mewn swyddi ymchwilio a dadansoddi cyn symud ymlaen i faes rheoli. Fodd bynnag, fyddai rheoli pur byth yn gweithio yn y maes hwn, gan fod arbenigedd penodol a dealltwriaeth ddyfnach o faterion a chyd-destunau bob amser yn hollbwysig.

 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol?

Peidiwch ag ofni rhoi cynnig ar bethau newydd hyd nes y byddwch chi’n dod o hyd i’ch llwybr. Gall hyn ddigwydd ar hap – fel pan wnes i lanio yn y frwydr yn erbyn troseddu cyfundrefnol trawswladol. Mae yna lond trol o swyddi gwahanol nad ydw i’n gwybod amdanyn nhw o hyd ac y gallwn i eu gwneud ryw ddiwrnod. Mwynhewch eich amser yn Aber a manteisiwch ar yr holl gefnogaeth a’r holl hwyl ychwanegol (fel y Gemau Argyfwng) a gynigir i chi.

Rebecca Grinstead - Graddiodd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol (2021) a MA Cysylltiadau Rhyngwladol (2022), Swyddog Cyfathrebu yng Nghyngor Sir Gâr

Pam wnest ti ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yn bennaf, fe wnes i gwympo mewn cariad â lleoliad hyfryd y Brifysgol a’r bywyd bob dydd y gallai ei gynnig. Yn ail, y staff addysgu arbenigol yn yr adran a oedd yn cynnig cyrsiau at fy nant.  

 

Beth oedd uchafbwyntiau dy radd?

Yn gyntaf, graddio, ond mae hynny’n amlwg. Byddwn i’n dweud bod yr uchafbwyntiau eraill yn cynnwys bod yn rhan o Glwb Pêl-rwyd Aberystwyth. Y teimlad gorau oedd gweld fy nhraethawd estynedig wedi’i argraffu – am deimlad braf! 

 

Beth wnest ti ar ôl cwblhau dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Fe es i ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol. Yna, symudais i Sir Gaerfyrddin o Dde Swydd Efrog ac fe ddechreuais i weithio fel Swyddog Cyfathrebu gyda Chyngor Sir Gâr. 

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau am dy swydd bresennol?

Rwy’n cael gweithio ar brosiectau diddorol iawn a gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn y maes, yn ogystal â gwleidyddion, ac rydw i wrth fy modd gyda hynny! 

 

Sut mae dy gwrs wedi dy baratoi ar gyfer dy lwybr gyrfa?

Diolch i’r cwrs, fe wnes i dyfu’n bersonol gan fagu hyder a sgiliau siarad cyhoeddus. Ond rwy’n defnyddio fy ngwybodaeth am yr amgylchedd gwleidyddol bob dydd yn fy swydd. Mae’r radd yn werthfawr iawn yn hynny o beth. 

 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol?

Fy nghyngor fyddai, does dim ots pa mor hir gymerith hi i chi symud ymlaen i’r yrfa o’ch dewis, a waeth pa mor ddigalon y gallwch chi deimlo ar ôl gadael y brifysgol, yn y pen draw fe fyddwch chi’n cyrraedd y man lle mae angen i chi fod. Rhaid i chi ymddiried yn y broses! 

Steffen Rhys Hansen - Graddiodd mewn BA Daearyddiaeth Ddynol a Gwleidyddiaeth Ryngwladol (2017), Rheolwr Rhaglen i Edelman ym Mrwsel

Pam wnest ti ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Ces fy nenu gan y gydnabyddiaeth ryngwladol i’r adran a’r ffaith bod gan Aberystwyth gymuned Gymraeg gref. Gan fy mod i’n siarad Cymraeg ac wedi cael fy magu ym Mrwsel, roeddwn i’n gweld Aberystwyth fel cyfle gwych i ddefnyddio fy Nghymraeg a bod yn rhan o adran Cysylltiadau Rhyngwladol ag iddi fri rhyngwladol.

 

Sut mae dy yrfa wedi datblygu ers graddio o Aberystwyth?

Ar ôl cwblhau fy ngradd BA, symudais ymlaen i wneud gradd Meistr mewn Datblygu Byd-eang ym Mhrifysgol Copenhagen. Ysgrifennais fy nhraethawd ymchwil ar gyfer fy ngradd Meistr ar y Gronfa Hinsawdd Werdd, gan ddadansoddi’r heriau a’r cyfleoedd i’r Gronfa o ran cyllido’r gwledydd sydd yn y perygl mwyaf yn sgil newid hinsawdd, ac amlygu’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â diffinio perygl o ran yr hinsawdd.

Yn ystod haf 2019, ymunais â Swyddfa yr UE Llywodraeth Cymru ym Mrwsel fel intern gweinyddol. Rôl y swyddfa hon ym Mrwsel yw cynrychioli Cymru ar lefel yr UE.  Yn y swydd, roeddwn i’n rhan o’r gwaith o drefnu digwyddiadau diplomyddol i hyrwyddo diwylliant Cymru, a chefais gipolwg ar gyfranogiad Cymru mewn rhwydweithiau Ewropeaidd allweddol, fel Menter Vanguard.

Yn 2020, symudais i’r sector preifat, gan ymuno â Landmark Public Affairs, sef cwmni ymgynghorol yn canolbwyntio ar faterion yr UE sy’n gweithio gyda chwmnïau rhyngwladol o’r radd flaenaf. Yn Landmark, datblygais ddealltwriaeth uwch o bolisïau’r UE ar yr hinsawdd, ynni, trafnidiaeth a’r economi gylchol, gan symud i fyny i rôl Uwch-swyddog Gweithredol Cyfrif ym mis Ebrill 2023. Ym mis Mai 2023, cafodd Landmark ei gaffael gan Edelman. Ar hyn o bryd, rwy’n Rheolwr Rhaglen yn Edelman (ym Mrwsel). Yn y swydd hon, rwy’n rhoi cyngor strategol i gleientiaid Edelman ar bolisïau’r UE, gyda ffocws pendant ar bolisïau’r UE ar yr hinsawdd, ynni, trafnidiaeth a’r economi gylchol. Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys drafftio nodiadau briffio wedi’u teilwra ar ddatblygiadau polisi’r UE a’u heffaith ar gleientiaid Edelman, gan gysylltu â llunwyr polisi yr UE (megis yr Aelodau o Senedd Ewrop a swyddogion y Comisiwn) ar ran y cleient, a chynrychioli rhai cleientiaid mewn cymdeithasau masnach ym Mrwsel.

 

Sut mae dy gwrs wedi dy baratoi ar gyfer dy lwybr gyrfa?

Roedd fy ngradd BA o Aberystwyth o gymorth mawr i mi ar y daith hon. Fe wnes i gwblhau modiwl ar Wleidyddiaeth yr UE yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wnaeth fy helpu i gael dealltwriaeth drylwyr o broses ddeddfwriaethol yr UE. Ar yr un pryd, roedd fy astudiaethau yn yr Adran Daearyddiaeth yn canolbwyntio ar newid hinsawdd a materion amgylcheddol, gan roi sylfaen gadarn i mi ddatblygu arbenigedd ym mholisi’r UE ar ynni a’r hinsawdd.

 

Cyngor i fyfyrwyr sydd am ddilyn llwybr gyrfa tebyg?

Mae’n bwysig manteisio’n llawn ar wasanaethau gyrfaoedd a’r cyfleoedd eraill sydd ar gael i chi.  Fe wnaeth gwirfoddoli yn ystod fy ngradd Meistr fy helpu i ddatblygu fy CV wrth astudio. Mae ieithoedd yn gaffaeliad gwerthfawr ar gyfer gyrfa ym materion yr UE ym Mrwsel. Mae’n bosib y bydd y syniad o ddysgu iaith newydd yn codi braw arnoch, ond mae’n debyg o dalu ar ei ganfed yn y tymor hir os ydych chi’n bwriadu gweithio’n rhyngwladol. Bydd dysgu Ffrangeg neu Almaeneg yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer unrhyw waith sy’n ymwneud â’r UE.

Mae hyfforddeiaeth Llyfr Glas y Comisiwn Ewropeaidd yn gam ardderchog i lansio gyrfa ym materion yr UE, felly hefyd Hyfforddeiaeth Schuman Senedd Ewrop (ond mae’n rhaid i chi fod yn ddinesydd yr UE i ymgeisio am y rhain). Mae Cenhadaeth y DU i’r UE yn aml yn cynnig cyfleoedd interniaeth i raddedigion, felly hefyd nifer o gyrff anllywodraethol ym Mrwsel, fel y Biwro Amgylcheddol Ewropeaidd, WWF Brwsel, BirdLife, Fern, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, a’r Sefydliad Hinsawdd Ewropeaidd. Mae melinau trafod ym Mrwsel, fel Friends of Europe a Bruegel, hefyd yn cynnig interniaethau yn rheolaidd lle nad oes angen llawer o brofiad.

Am restrau swyddi ac interniaethau, mae gwefannau defnyddiol yn cynnwys EuroBrussels a Euractiv JobSite. Yn fwy cyffredinol, gall CV un dudalen cryno eich helpu i serennu mewn marchnad swyddi gystadleuol.

Owen Hathaway - Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ac Astudiaethau Strategol (2004), Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus, Chwaraeon Cymru

Mae enw da adran gwleidyddiaeth ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn ennyn parch yn rhyngwladol. Roeddwn i'n awyddus iawn i gael y cyfle i astudio o dan ddarlithwyr o’r radd flaenaf a oedd yn feddylwyr blaenllaw yn eu meysydd. Y tu hwnt i hyn, roedd y brifysgol a'r dref ei hun yn apelio'n fawr. Er bod gan yr adran gymaint o rinweddau a oedd yn fy nenu i astudio yno, roedd gen i deimlad y byddai’r profiad cyfan o fod yn Aberystwyth yn un arbennig, ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o hynny.

Roeddwn wrth fy modd yn astudio yn Aberystwyth a bod yn rhan o'r adran gwleidyddiaeth ryngwladol. Yr unig beth dwi’n ei ddifaru wrth edrych yn ôl nawr yw na wnes i fanteisio'n llawn ar yr holl gyfleoedd, ac na wnes i fynd amdani hyd yn oed yn fwy nag y gwnes i! Serch hynny, wrth adael Aberystwyth roedd gen i ymdeimlad o gyflawniad, byd-olwg wahanol a sgiliau ymarferol a fyddai’n gymorth mawr i fi yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Mi wnes i ffrindiau oes yno, gan hefyd ddod ar draws sawl safbwynt heriol a brofodd pwy oeddwn i a phwy fyddwn i yn y dyfodol. Mi wnaeth fy help i sefydlu’r rhwydweithiau dwi’n ymgysylltu â nhw hyd heddiw ym myd gwleidyddiaeth a pholisi ledled Cymru. Hefyd, mi wnaeth y profiad gadarnhau fy nghariad at yr iaith Gymraeg, a daeth yr elfen hon yn rhan annatod o'm bywyd bob dydd. Do, mi lwyddais i gael gradd, ond mi ges i lawer mwy na hynny mewn gwirionedd, wrth i mi ddod i adnabod fy hun a phwy roeddwn i eisiau bod.

Mi wnes i adael Aberystwyth gydag ymdeimlad o fod eisiau defnyddio fy ngradd, a dechreuais weithio ym myd gwleidyddiaeth Cymru. Treuliais 7 mlynedd yn y byd gwleidyddiaeth, gyda’r gwaith yn cynnwys cefnogi Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod clymblaid. Fodd bynnag, dros amser dwi wedi darganfod a phenderfynu bod y sgiliau meddwl yn feirniadol a ddysgais yn Aberystwyth yn gweddu mwy i feithrin cysylltiadau ar draws rhaniadau gwleidyddol. Dwi wedi treulio amser yn y sector addysg, ac erbyn hyn dwi’n  gweithio i Chwaraeon Cymru fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus. Dwi wrth fy modd gyda’m dewisiadau gyrfa, ac mae'n dda cael defnyddio'r strategaethau datblygu polisi a datrys problemau a ddysgais fel rhan o'm cwrs gradd er mwyn helpu i siapio cyfraniad chwaraeon at greu Cymru iachach a mwy ffyniannus.

Aled Morgan Hughes - Graddiodd mewn Hanes a Gwleidyddiaeth Rhyngwladol (2014), MA Gwleidyddiaeth a Cymdeithas Cymreig (2015), Pennaeth Cyfathrebu, Undeb Amaethwyr Cymru

Does dim dwywaith i’r sgiliau a’r profiadau enillais drwy astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth fod o fudd sylweddol wrth ddatblygu fy nghymeriad a chyfleoedd gyrfa. Roedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hwb enfawr - gan fy ngalluogi i fagu perthynas agos a chyfeillgar gyda’r staff a chyd-fyfyrwyr.

Yn ogystal â’r addysg academaidd heb ei ail, llwyddais hefyd i elwa ar nifer o brofiadau buddiol, gan gynnwys Gemau Argyfwng enwog yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, yn ogystal â chyfnodau o brofiad gwaith gyda busnesau lleol a gwleidyddion amrywiol - a helpodd fireinio sgiliau sydd bellach yn ddefnyddiol yn fy ngwaith bob dydd. Elwais yn fawr hefyd o’r gymdeithas Gymraeg agos a bywiog yn y brifysgol a’r dref, a’r cyfleoedd niferus sy’n deillio o UMCA a chymdeithasau tebyg.

Gwyn Loader - Graddiodd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth (2007), Prif Ohebydd Newyddion S4C

Ar ôl ymweld ar ddiwrnod agored, doedd dim amheuaeth gen i mai yn Aber oeddwn i am dreulio tair blynedd o fy mywyd a cheisio ennill gradd. Croeso, Cymreictod a chymdeithasu brwd oedd yr addewid a’r abwyd-a chefais i ddim fy siomi yn fy nghyfnod yn y Coleg ger y lli. Fel yr adran hynaf o’i math yn y byd oedd yn cynnig addysg o’r safon uchaf a’r cyfle i astudio’n helaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, mwynheais ddilyn amrywiaeth o fodiwlau yn ystod fy nghwrs gradd. Does dim dwywaith gen i fod y darlithoedd a’r trafodaethau mewn amrywiol seminarau wedi rhoi sylfaen bwysig i fi wrth fynd ati i ddatblygu gyrfa mewn newyddiaduraeth. Rwy’n ffodus o fod wedi gallu gohebu yn helaeth ar newyddion a materion cyfoes ar draws y byd-o etholiadau yng Nghymru, Ffrainc a’r Unol Daleithiau i anrhefn sifil yn Hong Kong a’r Aifft a rhyfeloedd yn Irac, Afghanistan ac Wcrain, mae astudio yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gymorth mawr i fi allu deall a dehongli materion rhyngwladol dyrys yn fy ngwaith gydag ITV Cymru a’r BBC dros y blynyddoedd diwethaf. 

Mateusz Mazzini - Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Sbaeneg (2013), Gohebydd y Ddesg Dramor yn Gazeta Wyborcza a Chysylltwr Teledu yn TVP World

Pam wnest ti ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Does byth dim ond un rheswm dros wneud y mathau yma o ddewisiadau ac roedd e’n gyfuniad o nifer o resymau gwahanol. Yn gyntaf, enw da’r adran, ond roedd y wobr teilyngdod a’r ysgoloriaethau a oedd yn cynnig cymorth ariannol yn ail agos. Hefyd, fe ges i gyngor gan ffrind hŷn a ddywedodd yn ei ddoethineb fod yr awyrgylch mewn trefi prifysgol bach fel Aberystwyth yn fwy addas ar gyfer astudio a’u bod yn llefydd da iawn i ddechrau ar eich taith ddeallusol.

 

Beth oedd uchafbwyntiau dy radd? 

Yn bendant rhai o’r cyrsiau a gynigiwyd gan yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, gan gynnwys y rhai a oedd yn canolbwyntio ar rannau penodol o’r byd ac astudiaethau achos. Mae gen i atgofion melys iawn o’r modiwl America Ladin Gyfoes gyda Dr Lucy Taylor ac Argyfwng Taflegrau Ciwba gyda’r Athro Len Scott, i enwi dim ond dau. Ond mae hefyd angen i mi grybwyll fy mlwyddyn dramor yn Córdoba a Gwlad y Basg - profiad anhygoel. 

 

Beth wnest ti ar ôl cwblhau dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Fe symudais ymlaen i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau America Ladin yng Ngholeg Sant Antony, Prifysgol Rhydychen. Roeddwn i’n sicr fy mod i am aros yn y byd academaidd ar ôl hynny, felly fe wnes i gais a chael fy nerbyn i raglen ddoethuriaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Ond, oherwydd diffyg cyllid, roedd yn rhaid i mi ohirio am flwyddyn a dod yn ôl i Wlad Pwyl. Yn y pen draw, daeth y Coleg o hyd i ysgoloriaeth i mi ond, yn y cyfamser, fe ddechreuais i gynnig straeon ac ysgrifennu ar gyfer nifer o’r cyfryngau gartref a thramor. Roedd gen i fantais gystadleuol oherwydd fy mhrofiad, y rhwydweithiau roeddwn i wedi’u datblygu yn Aberystwyth a Rhydychen, yn ogystal â’m sgiliau ieithyddol, a daeth newyddiaduraeth yn gartref newydd i mi.

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau am dy swydd bresennol? 

Ar hyn o bryd, yn ystod cyfnod o gynnwrf mawr a newidiadau geowleidyddol, mae bod yn ohebydd tramor yn rhoi cipolwg hollol unigryw i mi ar y prosesau a fydd yn llunio cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n cael gweld ac weithiau ysgrifennu drafft cyntaf hanes, a bod ar flaen y gad wrth geisio deall beth sydd nesaf.

 

Sut mae dy gwrs wedi dy baratoi ar gyfer dy lwybr gyrfa? 

Fe ddysgais i edrych ar y byd o wahanol safbwyntiau, deall ei gymhlethdodau a diffinio’n glir popeth rwy’n delio ag ef. Mae diffiniadau yn allweddol – gall cysyniadau fel democratiaeth, unbennaeth a rhyddid olygu amryw o bethau i lawer o wahanol bobl.

 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol? 

Byddwch yn agored i beth bynnag y mae bywyd yn ei daflu atoch chi. Doeddwn i byth yn disgwyl bod yn newyddiadurwr. A hefyd – parhewch i fod yn chwilfrydig am y byd a phobl eraill. Chwilfrydedd yw’r gwir wrthwyneb i ddinistr.

Russell Shanks - Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes (2014) a MA Deallusrwydd ac Astudiaethau Strategol (2016), Ymchwilydd Doethuriaeth, Prifysgol Durham

Pam wnest ti ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Fe ddewisais i Aberystwyth oherwydd enw da yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac mae Aberystwyth yn lle mor hardd.

 

Beth oedd uchafbwyntiau dy radd?

Cael fy nysgu gan ddarlithwyr o safon fyd-eang ac arbenigwyr yn eu maes. Y cyfle i astudio pynciau nad oeddwn i wedi dysgu amdanyn nhw yn yr ysgol na’r coleg – (roedd astudio Rhyfel Fietnam drwy ffilm yn arbennig o gofiadwy!)

 

Beth wnest ti ar ôl cwblhau dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Ar ôl graddio, fe ges i yrfa ym maes amgueddfeydd a threftadaeth, gan gynnwys gweithio i English Heritage ac Amgueddfa’r Llu Awyr Brenhinol. Roeddwn i bob amser am astudio ar gyfer Doethuriaeth ac rydw i wedi bod yn lwcus i ddechrau gwneud hynny ym Mhrifysgol Durham yn 2024.

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau am dy swydd bresennol?

Mae fy Noethuriaeth am yr Ail Ryfel Byd mewn Gemau Fideo, felly rwy’n mwynhau gallu defnyddio a gloywi fy sgiliau meddwl yn feirniadol ac ysgrifennu academaidd a ddysgais yn ystod fy amser yn Aber. Mae hefyd wedi bod yn wych ailystyried nifer o themâu a phynciau ymchwil fy ngradd gyntaf a’m gradd Meistr wrth wneud fy Noethuriaeth.

 

Sut mae dy gwrs wedi dy baratoi ar gyfer dy lwybr gyrfa?

Drwy wneud gradd gydanrhydedd, fe ges i werthfawrogiad o wahanol safbwyntiau, sgiliau a dulliau o ddeall pynciau. Mewn amgylchedd gwaith, mae hyn wedi trosi i werthfawrogi a gweithio ochr yn ochr ag adrannau amrywiol sy’n wahanol i fy adran i. Drwy geisio deall eu safbwyntiau, eu heriau a’u nodau, rydw i wedi sicrhau cydweithrediadau effeithiol ar brosiectau.

 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol?

Mae Aberystwyth yn lle hyfryd i ddod i’r brifysgol. Ymunwch â chlybiau a chymdeithasau a chymerwch eich amser i ddod i adnabod gorllewin Cymru. Mae’n bwysig iawn cael  cydbwysedd da rhwng bywyd ac astudio er mwyn gwir fwynhau’ch gradd.

Joscha Sisnowski - Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Datblygu Byd-eang (2020), Cynghorydd yn GIZ

Pam wnest ti ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Fe ddewisais i Brifysgol Aberystwyth oherwydd enw da yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r rhaglenni a oedd yn cyd-fynd â’m diddordebau personol a’m nodau proffesiynol. Roedd y lleoliad prydferth yn ddeniadol hefyd.

 

Beth oedd uchafbwyntiau dy radd?

Yr amgylchedd dysgu diogel ond heriol, y staff addysgu oedd yn gyson gyfrifol, a’r cyfleoedd cyfnewid cyffrous.

 

Beth wnest ti ar ôl cwblhau dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Ar ôl cwblhau fy ngradd ym Mhrifysgol Aberystwyth, fe wnes i radd ôl-raddedig yn yr Iseldiroedd, fe wnes i interniaethau yn y sectorau preifat a chyhoeddus, ac fe wnes i ddechrau fy ngyrfa fel Cynghorydd ym maes datblygu cydweithredol.

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau am dy swydd bresennol?
Rwy’n mwynhau fy swydd bresennol oherwydd ei bod yn wleidyddol berthnasol ac mae yna heriau newydd bob dydd. Mae hefyd yn caniatáu i mi weithio mewn cyd-destunau lleol amrywiol, gan ddefnyddio fy astudiaethau blaenorol a chreu cylch llawn.

 

Sut mae dy gwrs wedi dy baratoi ar gyfer dy lwybr gyrfa?
Rhoddodd fy nghwrs sylfaen ddamcaniaethol gref i mi ac roedd y dulliau addysgu yn baratoad gwych ar gyfer heriau proffesiynol amrywiol. Roedd hi’n wych gallu trin a thrafod gyda llu o wahanol safbwyntiau a chefndiroedd diwylliannol, ac fe wnaeth hyn fy mharatoi ar gyfer gwaith mewn sefydliadau mewnol. 

 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol?
Byddwn i’n cynghori myfyrwyr y dyfodol i fanteisio ar y gymuned glos yn Aberystwyth  ac i fynd ati’n ddiwyd i rwydweithio. Rydw i bob amser yn synnu faint o gynfyfyrwyr Aberystwyth rydw i wedi dod ar eu traws ar fy llwybr proffesiynol hyd yn hyn. 

Siân Stephen - Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Rhyngwladol (2002), Astudiaethau Diogelwch (2005), Rheolwr Materion Allanol, Disasters Emergency Committee yng Nghymru (DEC Cymru)

Dewisais i'r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth oherwydd ei henw da. Roedd gwybod y byddai modd i mi wneud modiwlau a seminarau drwy gyfrwng yn Gymraeg yn ffactor bwysig hefyd... heb sôn am gael byw mewn tref mor brydferth ag Aberystwyth. Fe gefais i brofiad arbennig yn yr adran. Roedd ystod mor eang o fodiwlau ar gael - yr her fwyaf bob mis Medi oedd dethol pa rai i’w dilyn - roedd awydd gen i astudio popeth! Ro’n i’n mwynhau’r seminarau hefyd - y rhai Saesneg am fod yna gyfle i gymysgu gydag ystod eang o bobl o wahanol gefndiroedd, a’r rhai Cymraeg oherwydd ein bod ni mewn grwpiau llai, yn cael trafodaethau dwys a’n herio. Y gorau o’r ddau fyd, debyg.
O ran fy ngyrfa.. rhyw lwybr digon troellog fu hynny hyd yma, os dwi’n onest! Dilyn fy niddordebau wnes i a dethol beth bynnag (a ble bynnag) oedd yn teimlo yn bwysig imi ar y pryd. Cefais gyfleoedd cychwynnol arbennig diolch i’r adran - profiad gwaith dros un haf gyda Aelod Seneddol yn San Steffan, a blwyddyn yn y Senedd Ewropeaidd fel “stagiaire” i Eluned Morgan oedd yn ASE. Sbardunodd y profiad mewn sefydliad amlieithog fi i ddysgu Sbaeneg, a trodd cwrs iaith deufis yn Guatemala i mewn i 8 mlynedd yn America Ladin cyn dychwelyd i Gymru.Mae gweithio mewn sefydliadau llai yn aml yn galw am barodrwydd i dorchi llewys a chynorthwyo lle bo angen - dros y blynyddoedd dwi wedi ffocysu ar gyfathrebu, codi arian, cydlynu prosiectau a chyllido. Wrth edrych yn ôl dwi’n credu imi hefyd gael budd mawr o waith ymgyrchu ....er na wnaeth hynny groesi fy meddwl ar y pryd! Yn ffodus, mae fy swydd gyfredol yn gofyn am ‘bach o bopeth’ yn hytrach nag arbenigedd benodol... a dwi wrth fy modd yn cael ffocysu unwaith eto ar faterion rhyngwladol - mae’r sgiliau i gyd yn cydblethu yn y diwedd!

Heulwen Vaughan - Graddiadd mewn Hanes a Gwleidyddiaeth Rhyngwladol (2005), MA Gwleidyddiaeth a Cymdeithas Cymreig (2006), Pennaeth Polisi Diwygio CyfansoddiadolPennaeth Polisi Diwygio Cyfansoddiadol

Fe ddewisais Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth oherwydd roedd gan yr adran enw hynod o dda, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. Lle gwell i astudio na chartref y gadair Gwleidyddiaeth Rhyngwladol cyntaf o’i bath yn y byd! Roedd y gallu i wneud modiwlau drwy’r Gymraeg a parhau i fyw drwy’r Gymraeg yn apelio’n fawr.

Mae gennyf atgofion hapus iawn o astudio yn yr adran. Roedd fy nghwrs isradd yn llawn modiwlau diddorol ac amrywiol gyda darlithwyr o’r safon uchaf. O ddysgu am athroniaeth Habermas a Gramsci, i ddysgu am hanes datganoli a gwleidyddiaeth Cymru, roedd rhywbeth at ddant pawb! Fe fues i’n ddigon ffodus i fod un o’r rhai cyntaf i astudio cwrs Meistr newydd sbon yn yr adran hefyd, Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Fel rhan o’r cwrs hwnnw, fe gefais gyfle i fynd ar gyfnod o brofiad gwaith i’r BBC a chael cyfweld rhai o wleidyddion mwyaf blaenllaw Cymru ar y pryd ar gyfer prosiect ymchwil.

Does dim amheuaeth, fe gafodd yr adran ddylanwad mawr ar fy ngyrfa.  Ar ôl cwblhau fy nghwrs meistr fe gefais swydd yn adran addysg Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. Ychydig wedi hynny, fe gefais gyfle i gyfuno fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth Cymru a gwleidyddiaeth rhyngwladol a chael swydd yn swyddfa y Llywodraeth yn Mrwsel. Wedi hynny symudais yn nôl i Gymru i weithio yng nghalon gwleidyddiaeth Cymru yn swyddfa’r Prif Weinidog. Fe fues i hefyd yn ffodus i dreulio cyfnod ar secondiad yn Swyddfa Cabinet, Llywodraeth Prydain yn gweithio ar drefnu cynhadledd NATO gyda thîm digwyddiadau Rhif 10, a oedd yn brofiad bythgofiadwy. Ar ôl cyfnod arall o weithio dramor i Lywodraeth Cymru (yn Washington DC) fe ddychwelais i weithio yn adran cyfansoddiadol y Llywodraeth. Uchafbwynt hynny oedd cael gweithio ar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru – oedd yn teimlo bron fel moment cylch llawn i mi!

Mae’r sgiliau wnes i feithrin a’r hyn a ddysgais tra yn Aber wedi bod o fudd mawr i mi trwy gydol fy ngyrfa, a mewn gwirionedd, rydw i’n parhau i’w defnyddio heddiw, dros ugain mlynedd yn ddiweddarach! Felly, mae pob cam o fy ngyrfa i hyd yma, wedi ei llywio gan fy amser yn Aber. Rydw i’n falch iawn fy mod wedi dewis yr adran ar ôl darllen y prosbectws melyn llachar hwnnw sawl blwyddyn yn nol.

Trayana Vladimirova - Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Gyfraith (2015) a MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Rhyngrwyd (2016), Peiriannydd Cyswllt - Sicrhau Ansawdd yn LucidLink, Bwlgaria

Pam wnest ti ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Fe ddewisais i Brifysgol Aberystwyth oherwydd ei hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol adnabyddus a’r hyblygrwydd i gyfuno fy mhrif bwnc, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ag amrywiaeth o is-bynciau. Roedd modd gwireddu’r cyfle, diolch i gymorth ariannol a gynigiwyd drwy’r Ysgoloriaeth Fynediad a Bwrsariaeth Aberystwyth.

 

Beth oedd uchafbwyntiau dy radd?

Y Lleoliad Seneddol chwe wythnos gyda Dan Jarvis AS oedd uchafbwynt fy ngradd – cyfle i gael profiad ymarferol amhrisiadwy yn San Steffan yn ystod y digwyddiadau i nodi canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn cyd-fynd yn berffaith â fy is-bwnc, y Gyfraith, ac fe ges i gyfle i wneud tasgau seneddol amrywiol a hyd yn oed rheoli’r swyddfa yn annibynnol am ddiwrnod.

 

Beth wnest ti ar ôl cwblhau dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Ar ôl graddio yn Aberystwyth, fe wnes i barhau â’m hastudiaethau gyda gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Rhyngrwyd a arweiniodd at yrfa fel ymchwilydd am saith mlynedd yn Llundain, ym maes Cyfraith y Rhyngrwyd, y Cyfryngau a Thechnoleg, gyda chyfleoedd i deithio’n helaeth. Rydw i bellach wedi symud i fod yn beiriannydd sicrhau ansawdd yn LucidLink, Bwlgaria, ac rwy’n defnyddio fy angerdd am dechnoleg i gyfrannu at gynnyrch sy’n gwella cydweithio creadigol o bell.

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau am dy swydd bresennol?

Mae fy swydd bresennol yn hynod o ddynamig ac mae’n cynnig cyfleoedd dysgu parhaus a heriau newydd bob dydd. Rydw i hefyd yn falch iawn mod i’n rhan o’r cwmni yn ystod cyfnod o ehangu a datblygu sylweddol.

 

Sut mae dy gwrs wedi dy baratoi ar gyfer dy lwybr gyrfa?

Mae fy astudiaethau yn Aberystwyth wedi fy helpu i feithrin cred mewn dysgu gydol oes a’r gallu i ddeall cysyniadau newydd yn gyflym, gan roi sylfaen gref ar gyfer fy llwybr gyrfa amrywiol. Hefyd, fe wnes i ddatblygu’r gallu i roi sylw manwl i fanylion yn fy ngwaith academaidd, sy’n amhrisiadwy yn fy swydd bresennol lle mae cywirdeb o’r pwys mwyaf. 

 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol?

Manteisiwch ar amgylchedd cefnogol Prifysgol Aberystwyth i ddarganfod llwybrau gyrfa amrywiol a dod o hyd i’ch gwir alwedigaeth. Hyd yn oed os bydd eich gyrfa yn mynd â chi i gyfeiriad gwahanol i’ch astudiaethau yn y pen draw, bydd y sgiliau trosglwyddadwy y byddwch chi’n eu cael yn Aber yn eich grymuso i lwyddo.