Diwrnod Agored Ar-lein 2019
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ond na fuoch yn gallu ymweld â ni yn ystod Diwrnodau Agored Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddar, mae gennych gyfle o hyd i gael gwybod mwy.
28 Tachwedd 2019
Ddydd Iau 28 Tachwedd bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Diwrnod Agored Ar-lein. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi siarad ag ystod o staff o'r brifysgol, gan gynnwys staff academaidd o'n hadran.
Dyma gyfle gwych i chi gael eich cipolwg cyntaf ar Aberystwyth neu gyfle ychwanegol i chi ofyn cwestiynau os ydych chi eisoes wedi ymweld â ni. Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn.
Date: Gwe, 23 Hyd 2020 10:39:48 BST