Dyddiau Ymweld Ar-lein yr Adran i Ymgeiswyr 2021
Ymunwch â ni ar -lein ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb a sgyrsiau anffurfiol
Mae Prifysgol Aberystwyth a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnal pedwar Diwrnod Ymweld Ar-lein ar gyfer ymgeiswyr y Gwanwyn hwn. Diwrnodau gwybodaeth yw'r rhain ar gyfer ymgeiswyr cyfredol i Brifysgol Aberystwyth a'r Adran. Dyma ffordd wych o gwrdd â'n staff a'n myfyrwyr chael cyfle i siarad â nhw. Bydd sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb, darlithoedd enghreifftiol, a chyfle i sgwrsio ar-lein gyda staff a myfyrwyr unigol. Er y byddai'n well gennym fedru cwrdd â chi yma ar y campws, bydd hon yn ffordd gyfleus, ryngweithiol a diogel i chi 'ymweld' â ni a darganfod llawer mwy am ein hadran. Y dyddiadau ar gyfer ein Diwrnodau Ymweld Ar-lein yw:
- Dydd Sadwrn 6 Mawrth 2021
- Dydd Sadwrn 20 Mawrth 2021
- Dydd Mawrth 13 Ebrill 2021 (digwyddiad gyda'r nos)
- Dydd Sadwrn 17 Ebrill 2021
Mae croeso mawr i chi ymuno â ni er mwyn gofyn cymaint o gwestiynau ag y dymunwch!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Dr Huw Lewis, ein Cyfarwyddwr Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg.
Date: Mer, 03 Maw 2021 12:20:00 GMT