Academydd o Aberystwyth yn ennill gwobr ryngwladol am lyfr ar gudd-wybodaeth y Rhyfel Oer

Dr Aviva Guttmann
03 Awst 2026
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr ryngwladol fawreddog am ei llyfr ar hanes cydweithrediad cudd-wybodaeth yn ystod y Rhyfel Oer.
Dyfarnwyd Gwobr Goffa Llyfr Kjetil Hatlebrekke 2025 i Dr Aviva Guttmann, Darlithydd mewn Strategaeth a Chudd-wybodaeth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, am ei llyfr Operation Wrath of God: The Secret History of European Intelligence and Mossad’s Assassination Campaign.
Mae'r llyfr yn edrych ar rôl asiantaethau cudd-wybodaeth Gorllewin Ewrop yn un o ymgyrchoedd llofruddio targedig mwyaf arwyddocaol Mossad. Lansiodd Mossad, asiantaeth cudd-wybodaeth dramor Israel, yr ymgyrch gudd a elwir yn Operation Wrath of God mewn ymateb i gyflafan Gemau Olympaidd Munich 1972. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys deg cenhadaeth yn targedu Palestiniaid a oedd â chysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol â therfysgaeth. Yr hyn nad oedd yn hysbys o'r blaen, ac y mae llyfr Dr Guttmann yn ei ddatgelu, yw bod cudd-wybodaeth Ewropeaidd wedi chwarae rhan hanfodol yn nhrefniadaeth a gweithrediad Operation Wrath of God.
Gan dynnu ar ddogfennau archifol nad oeddent ar gael o'r blaen, mae Dr Guttmann yn dangos sut y bu gwasanaethau cudd-wybodaeth Ewropeaidd yn rhannu gwybodaeth â Mossad yn ystod ei ymgyrch. Mae'r ymchwil hefyd yn amlygu sut y bu asiantaethau cudd-wybodaeth yn gweithio y tu ôl i'r llenni i atal ymosodiadau pellach, gyda rhai ohonynt yn cael eu datgelu am y tro cyntaf yn y llyfr.
Dyfernir Gwobr Goffa Llyfr Kjetil Hatlebrekke bob dwy flynedd i gydnabod ymchwil rhagorol ym maes astudiaethau cudd-wybodaeth fyd-eang. Noddir y wobr gan The King’s Centre for the Study of Intelligence ac mae'n anrhydeddu bywyd a gwaith Dr Kjetil Anders Ely Hatlebrekke, ymarferydd ac ysgolhaig cudd-wybodaeth o Norwy.
Dywedodd Dr Guttmann:
"Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr fawreddog hon. Mae'n anrhydedd cael fy ngwaith wedi'i gydnabod yn y modd hwn – gwobr sy'n dathlu ysgolheictod sy'n ehangu llinellau ymholi traddodiadol mewn astudiaethau cudd-wybodaeth.
"Mae ymchwilio i'r llyfr hwn wedi bod yn brofiad gwych iawn. Fi oedd yr ysgolhaig cyntaf i gyhoeddi gwaith ar gofnodion o’r Club de Berne (grŵp cudd-wybodaeth amlochrog), darganfyddiad archifol cyffrous. Daeth cwestiynau ymchwil hynod ddiddorol i'r amlwg o'r cofnodion hyn. Sut mae cysylltiadau rhyngwladol asiantaethau cudd-wybodaeth yn gweithio? A yw’r cysylltiadau cyfrinachol rhwng asiantaethau cenedlaethol yn gweithredu'n wahanol i gysylltiadau diplomyddol cyhoeddus? Pan ellir cadw popeth yn gyfrinachol, ac felly nad oes angen ei gyfiawnhau'n gyhoeddus, a oes rhesymeg wleidyddol dramor wahanol ar waith? Cipiodd y cwestiynau hyn fy nychymyg ac yn y pen draw arweiniodd fi at bwnc y llyfr hwn."
Mae ymchwil Dr Guttmann yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys hanes cudd-wybodaeth, terfysgaeth a gwrthderfysgaeth, gweithredoedd cudd, a rôl menywod yng ngwaith asiantaethau cudd-wybodaeth.