Evan Wall
Postgraduate
Manylion Cyswllt
- Ebost: evw11@aber.ac.uk
- Swyddfa:
- Proffil Porth Ymchwil (https://research.aber.ac.uk/en/persons/b3c46021-7b98-465b-b58c-f7d83f2b8221)
Teitl yr ymchwil: Y Ddraig Goch yn clywed y delyn Wyddelig: dylanwad cenedlaetholdeb Iwerddon ar Blaid Genedlaethol Cymru, 1925–1939
Mwy o fanylion: Roedd ffurfiad Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925 yn chwyldroadol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae fy mhrosiect yn edrych ar beth a sbardunodd sefydlu’r Blaid, beth siapiodd ei gweledigaeth am Gymru, a'i huchelgeisiau gwleidyddol rhwng y rhyfeloedd.
Ar draws y Môr Gwyddelig, roedd Gwrthryfel y Pasg 1916 yn sbardun diwylliannol a arweiniodd yn y pen draw at ffurfio Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1921. Roedd y gwrthryfel hefyd yn ddigwyddiad enghreifftiol i fudiadau cenedlaetholgar gwrth-imperialaidd yn fyd-eang, gan gynnwys Cymru. Bydd fy ymchwil yn edrych ar ei effaith yng Nghymru drwy ganolbwyntio ar sut ysbrydolwyd prif benseiri Plaid Genedlaethol Cymru gan ymdrechion cenedlaetholdeb Gwyddelig.
Trwy ymchwil empirig o archifau yng Nghymru ac Iwerddon, byddaf yn archwilio sut yr ysbrydolwyd delfrydau gwleidyddol, gweledigaeth economaidd-gymdeithasol o Gymru, a dulliau anghyfansoddiadol Plaid Genedlaethol Cymru gan esiampl cenedlaetholwyr Gwyddelig.
Evan Wall. (2025), ‘Y Ddraig Goch yn clywed y delyn Wyddelig: dylanwad cenedlaetholdeb Iwerddon ar Blaid Genedlaethol Cymru, 1925–1936’, Gwerddon, 66–87. https://doi.org/10.61257/GWER4004.
In: Journal of Colonialism and Colonial History, Vol. 26, No. 3, 01.12.2025.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
