Dr Jennifer Hodge
Research Associate (Post-Doctoral Researcher)
Manylion Cyswllt
- Ebost: jeh124@aber.ac.uk
- Swyddfa:
- Google Scholar: https://scholar.google.co.uk/citations?user=p9RPxcMAAAAJ
Mae Jennifer yn Ymchwilydd Ôl-ddoethurol yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, lle mae'n gweithio gyda'r Athro Berit Bliesemann de Guevara a Dr Luke Abbs ar y prosiect a ariennir gan yr ESRC, "The Unarmed Civilian Protection in South Sudan Dataset" (Set Ddata Amddiffyn Sifiliaid Heb Arfau yn Ne Swdan). Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol y Conflict Research Society ac yn Olygydd Adolygiadau'r Journal of International Peacekeeping.
Cyn hynny, roedd Jennifer yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn Nhîm Myanmar PeaceRep, yn arwain y gwaith ymchwil a chynllunio a chyflwyno rhaglen ar gyfer rhaglen Cronfa Gwrthdaro, Sefydlogrwydd a Diogelwch (CSSF) Llywodraeth y DU, "Investing in Pathways for Change in Myanmar's Protracted Transition". Mae gan Jennifer PhD mewn Gwyddor Wleidyddol o UCL, MSc mewn Astudiaethau Gwrthdaro o'r LSE ac MA mewn Economeg a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caeredin. Cafodd brofiad seneddol ac ymgyrchu yn gweithio i Stephen Timms AS a Syr Kevin Barron AS yn San Steffan, ac mae wedi gweithio yn y llywodraeth ganolog fel Cynghorydd Strategol. Hyfforddodd Jennifer hefyd fel cyfrifydd gyda PwC, ac mae wedi gweithio yn y sectorau llywodraethol, elusennol ac ariannol.
