Ymarferiad Casglu Data, yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) - Dydd Llun 7 Medi 2018 tan ddydd Gwener 26 Hydref 2018
Gan ddechrau ddydd Llun, 17 Medi, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) yn casglu data ynghylch breindaliadau am ddeg ar hugain o ddyddiau gwaith tan ddydd Gwener 26 Hydref. Bydd yr Asiantaeth yn sefydlu mannau casglu ger dyfeisiau aml-ddefnydd mewn adrannau ledled y Brifysgol. Er mwyn gwneud pethau'n haws bydd hwn yn ymarferiad cynhwysfawr i gynnwys popeth.
Mae'r ymarferiad yn ymwneud â’r defnydd o ddeunydd cyhoeddedig sy'n cael ei lungopïo neu ei ailddefnyddio gan staff Prifysgol Aberystwyth i gefnogi eu gwaith addysgu o dan amodau ein trwydded hawlfraint. Gofynnir i holl staff y Brifysgol gydweithredu a chydymffurfio ag agweddau o'r ymarferiad er mwyn cynorthwyo'r Asiantaeth wrth ddosbarthu breindaliadau.
Nid archwiliad awdit yw hwn. Mae'r data a gesglir yn hwyluso talu breindaliadau i'r rhai sy'n berchen ar yr hawliau. Mae'r ffi a delir gan y Brifysgol am drwydded yn cael ei gadw gan yr Asiantaeth tan y bydd manylion ynglŷn â llungopïo, neu ailddefnyddio, yn eu rhoi mewn sefyllfa i wneud y taliadau priodol i ddeiliaid yr hawliau. Mae cydbwysedd teg ym maes eiddo deallusol yn bwysig oherwydd bod ar ddeiliaid yr hawliau angen defnyddwyr lawn cymaint ag y mae'r defnyddwyr angen y rhai sy'n creu gweithiau hawlfraint. Mae'r ymarfer hwn yn gymorth i gwblhau'r cylch a gwobrwyo awduron, cyhoeddwyr a chrewyr gweledol yn gyfatebol.
Os ydych yn llungopïo o lyfrau, cyfnodolion, cylchgronau neu unrhyw adnodd print arall sy'n cynnwys deunydd hawlfraint, rhowch funud neu ddwy i ddarllen y poster coch a osodir ger y peiriannau copïo perthnasol. Y cwbl sydd ei angen yw copi unigol o dudalen adnabod y cyhoeddiad (y dudalen deitl fel arfer) gan gynnwys yr ISBN/ISSN, os yw ar gael. Glynwch label data CLA i'r copi, nodwch faint a gopïwyd a'i roi yn y blwch melyn.
Os ydych yn copïo pecyn cwrs sy'n cynnwys deunydd o gwrs ag iddo hawlfraint, yna dylid rhoi copi o'r pecyn cwrs cyfan ym mlwch data'r CLA.
Beth sydd angen imi ei wneud ar gyfer casglu data breindaliadau?
Ddydd Mercher 12 a dydd Iau 13 Medi, bydd Swyddog Breindaliadau'r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint yn gosod blwch melyn nesaf at bob dyfais aml-ddefnydd, ynghyd â phosteri o gyfarwyddiadau a labeli data i'w glynu. Yn ystod cyfnod y casgliad, pryd bynnag y byddwch yn copïo o ffynhonnell wedi'i hargraffu (y gwreiddiol neu copi o gopi) rhaid ichi roi gwybod i'r Asiantaeth. Gwneir hyn trwy wneud copi o'r dudalen adnabod - yn ddelfrydol y dudalen sy'n nodi'r ISBN/ISSN, neu glawr blaen gyda manylion teitl, awdur a chyhoeddwr - llenwi label dyddiad, gludo'r label ar y dudalen adnabod a'i rhoi yn y blwch casglu.
Beth os nad oes gan y cyhoeddiad ISBN/ISSN?
Os nad oes gan y cyhoeddiad dudalen adnabod amlwg, gallwch ysgrifennu'r enw ac unrhyw fanylion eraill ar y daflen yr ydych yn copïo ohoni. Po fwyaf o fanylion a roddwch, gorau oll, fel y gall yr Asiantaeth nodi'r ffynhonnell, hyd yn oed os ydych yn copïo o lungopi arall. Mae gan yr Asiantaeth nifer o adnoddau a all gynorthwyo i adnabod cyhoeddiad felly mae'n dal yn bwysig i gynnwys data o ffynonellau anhysbys.
Pam mae'r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint angen yr wybodaeth?
Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid y mae'r Asiantaeth yn ei dderbyn gan ddeiliaid trwyddedau yn cael ei ailddosbarthu yn freindaliadau. Dim ond trwy gasglu data y maen nhw'n gallu gwybod i sicrwydd gwaith pwy sy'n cael ei gopïo a faint y dylid ei dalu i ddeiliad hawlfraint. Yn aml mae staff academaidd yn cyhoeddi deunydd, felly gallech efallai fod yn cynorthwyo cydweithwyr addysg uwch yn ogystal ag awduron a chyhoeddwyr y tu allan i'r sector.
A oes oblygiadau o gwbl i'r adran?
Na; does dim cosb am gopïo cyfanswm mawr o ddeunydd hawlfraint er ei bod yn bwysig bod yn ymwybodol o'r hyn y mae'r drwydded yn caniatáu ichi ei gopïo’n gyfreithiol. Mae manylion i'w cael fan hyn https://cla.co.uk/higher-education-licence-docs .
Anaml iawn y bydda i'n llungopïo deunydd cyhoeddedig - a oes gwir angen i mi gymryd rhan?
Oes. Yn yr ymarferiad, hyd yn oed os mai dim ond un copi y byddwch yn ei wneud, rhaid rhoi gwybod i'r Asiantaeth. Efallai nad yw'n ymddangos yn bwysig nodi un copi ond ar ôl ei ychwanegu at gyfansymiau data o sefydliadau neu sectorau eraill, gall ei werth fod yn sylweddol iawn.
Mae fy holl gopïau print yn dod o ddeunydd digidol - a oes angen i mi ei gynnwys?
Os oes allbrint papur yn cael ei wneud o dan y drwydded CLA, mae'n dod o dan yr un telerau ac amodau a llungopi a dylid ei gofnodi fel hyn yn rhan o'r ymarferiad.
Pam mae deunydd mynediad agored a hawlfraint y goron wedi'i gynnwys?
Er eu bod fel arfer y tu hwnt i derfynau trwydded CLA, mae rhai adegau lle mae'r Asiantaeth yn gallu gwneud taliad ar gyfer cynnwys o'r fath. Yn hytrach na gofyn i gydweithwyr wirio'r meini prawf angenrheidiol mae'n haws cynnwys yr holl ddeunydd perthnasol ac fe gaiff unrhyw beth nad oes angen talu amdano ei anwybyddu wrth brosesu'r data.
A yw papurau arholiad sy'n cynnwys detholiadau hawlfraint yn cael eu casglu?
Mae copïo papurau ar gyfer arholiadau yn cael ei eithrio. Ond, os gwneir unrhyw fath o ddefnydd arall ohono, er enghraifft defnyddio papur ar ôl yr arholiad mewn darlith neu becyn cwrs, bydd angen ei gynnwys yn yr ymarferiad.