Mrs Faye Ap Geraint

Mrs Faye Ap Geraint

Student Insights and Engagement Lead

Gwasanaethau Gwybodaeth

Manylion Cyswllt

Proffil

Cysylltwch â mi i gael rhagor o wybodaeth am:

  • Dy Lais ar Waith, y cyfeiriad strategol, y targedau, a'r dangosyddion perfformiad. Gan gynnwys Rho Wybod Nawr a Dangosfwrdd yr Holiaduron Gwerthuso Modiwlau (HGM)
  • Adborth myfyrwyr ar eu taith ddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cynnwys arolygon (HGM Ysgafn, HGM, a WhatUni)
  • Y cydweithrediadau rhyngom ag Undeb y Myfyrwyr ar gyfer profiad y myfyrwyr a phrosiectau/cynlluniau gyda myfyrwyr
  • Prosiectau a gweithgareddau a gynlluniwyd ledled y Brifysgol i gyfoethogi profiad y myfyrwyr ac ennyn eu diddordeb 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydw i'n barod i wynebu her ar unrhyw adeg, a dydw i byth yn ofni neidio i mewn i brosiectau neu ddiddordebau newydd. Pan nad ydw i'n gweithio, mae'n debyg y byddaf yn yr ardd, yn gwneud gwaith crefft, yn treulio amser gyda fy gŵr a mhlant, neu'n yfed gwin cartref gyda fy ngŵr wrth wylio’r haul yn machlud yn ogoneddus yn Aberystwyth.

Cyfrifoldebau

Amdanaf i

 

 

Ymunais â Phrifysgol Aberystwyth yn 2013 a gweithiais mewn sawl adran yn y gofrestrfa ac adrannau cymorth i fyfyrwyr. Ym mis Ionawr 2016, cefais fy nghyflogi i ddatblygu prosiect newydd a oedd ar gyfnod cynnar iawn yn ei hanes ar gyfer ymgysylltu â myfyrwyr (nid yw hwn yn brosiect bellach ac mae'n rhan o eiddo deallusol y Brifysgol).

Rydw i'n teimlo'n gryf ynglŷn â chyfoethogi profiad y myfyrwyr trwy gasglu a dadansoddi data a thrwy brosiectau a gweithgareddau a gynlluniwyd i wella'r profiad. Rwy'n mwynhau cynorthwyo myfyrwyr i gael eu traed danynt a gweld eu llwybr trwy gyfnodau heriol.

Rwy'n rheoli nifer o wasanaethau yn ymwneud â phrofiad y myfyrwyr, trwy gywain a dadansoddi data a chreu amcanion strategol er mwyn gwella’r profiad hwnnw. Datblygais drefn unigryw yn seiliedig ar Holiadur Gwerthuso Modiwlau, sef gwerthusiad safonol o fodiwlau ledled y Brifysgol a dulliau eraill o wasanaethu'r cwsmeriaid ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gweithiaf mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr a grŵp Llais y Myfyrwyr. Ers fy mhenodi mae canlyniadau Bodlonrwydd Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cynyddu o 83% yn 2013 i 91% yn 2019 (7% yn uwch na'r sector).