Grŵp Ymchwil PEACE

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith y sefydliadau sydd wedi ennill y nifer fwyaf o wobrau yn y DU, a hynny o ran ansawdd yr addysg a boddhad y myfyrwyr. Sefydlwyd y Grŵp Ymchwil ar gyfer Atal Camfanteisio, Erchyllterau, Llygredd ac Eithafiaeth (Grŵp Ymchwil PEACE) yn 2025, a hynny yn rhan o ymrwymiad y brifysgol i barhau i fod yn sefydliad blaenllaw yn rhyngwladol wrth chwilio am atebion i faterion ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Ein Cenhadaeth

Trwy gyfraniadau gan y cyfadrannau, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a phartneriaid allanol, cenhadaeth Grŵp Ymchwil PEACE yw hyrwyddo ymdrechion sydd â’r nod o archwilio a gwrthwynebu'r modd y caiff pobl, pŵer, swyddi a llwyfannau eu camddefnyddio, eu cam-drin a’u manipiwleiddio. 

Y datganiad cenhadaeth y grŵp

  • Lawrlwythwch y PDF a ddarperir.
  • Lawrlwythwch y DOCX a ddarperir.

Os oes gennych ddiddordeb mewn llunio Grŵp Ymchwil PEACE o'r gwaelod i fyny, neu os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â Dr Dakota Ward ar daw129@aber.ac.uk.

Ein rhesymeg a'n rôl

Waeth beth fo’n harbenigedd, ein disgyblaethau a’n sgiliau unigryw, mae’n ddyletswydd arnom i hyrwyddo a diogelu bodolaeth gyfiawn, ddiogel ac iach. Mae'r teimlad hwn yn fwyfwy perthnasol i academyddion. 

O fewn ei achrediadau sy'n seiliedig ar genhadaeth, mae’r Rhwydwaith Ysgolion Polisi Cyhoeddus, Materion Cyhoeddus a Gweinyddu Cyhoeddus (NASPAA) wedi mabwysiadu Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig er mwyn creu “dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb”. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029 (FfRhY), mae'r DU yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau o'r safon uchaf gynnal astudiaethau a gwaith a fydd â defnydd ac yn cael effaith yn y byd go iawn. (UKRI, 2022). 

Er mwyn atgyfnerthu ymdrechion clodwiw presennol Prifysgol Aberystwyth i gyflawni amcanion a safonau o'r fath, mae’n hanfodol cael cynghrair sy’n ymroddedig i gydweithio a hyrwyddo gwaith o’r fath.

Ein Nodau a'n Gwasanaethau

Bydd Grŵp Ymchwil PEACE yn helpu i gefnogi a goruchwylio ymdrechion a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar genhadaeth, gan gynnwys y canlynol:

  • Meithrin perthynas rhwng aelodau a phartneriaid Grŵp Ymchwil PEACE ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
  • Nodi materion, meysydd a/neu gyfleoedd newydd ar gyfer astudiaethau, digwyddiadau, a gweithredu ar y cyd ac yn annibynnol.
  • Trefnu a mynychu digwyddiadau rhwydweithio a/neu gymdeithasu.
  • Datblygu a dosbarthu deunydd addysgol.
  • Cynnal prosiectau ymchwil gweithredol gyda staff y Brifysgol i hyrwyddo ymdrechion ac ethos y grŵp o fewn modiwlau a/neu raglenni.
  • Defnyddio cyfleusterau’r Hen Goleg i gyflawni nod y brifysgol o ddarparu lleoliad ar gyfer goresgyn heriau ar y cyd.

Ein Pobl a'n Partneriaid

Dakota J. Ward: Mae Dr Ward yn ddarlithydd cyswllt yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, sy'n arbenigo mewn seicoleg ymchwiliol, dioddefoleg a phlismona. Ar hyn o bryd, Dr Ward yw Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwil PEACE, gyda diddordeb arbennig mewn atal hil-laddiad ac erchyllterau torfol eraill.

Newyddion

Bydd Dakota J. Ward yn ymuno â charfan 2025/26 o Gymrodyr Cyfadran Charles E. Scheidt ar gyfer Atal Erchyllterau gyda’r Sefydliad Atal Hil-laddiad ac Erchyllterau Torfol (I-GMAP) ym Mhrifysgol Binghamton. Bydd y cyfle hwn yn helpu i ddatblygu cwricwlwm sy’n cefnogi cenadaethau I-GMAP a Grŵp Ymchwil PEACE.