Ymchwilwyr yn y Cenhedloedd Unedig yn trafod trais yn erbyn menywod hŷn

Dr Rebecca Zerk mewn trafodaeth banel yn y Cenhedloedd Unedig
25 Mawrth 2026
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi rhannu eu harbenigedd yn y Cenhedloedd Unedig ar atal ac ymateb i drais yn erbyn menywod hŷn.
Wedi’i gynnal yn Efrog Newydd yn ystod 70fed Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Statws Menywod, trafododd y digwyddiad sut i gyflymucynnydd tuag at roi terfyn ar drais yn erbyn pob menyw a merch, yn enwedig menywod hŷn.
Mynychodd Dr Rebecca Zerk ac Elize Freeman o fenter Dewis Choice, sydd wedi'i lleoli yn y Ganolfan ar gyfer Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth, y gynhadledd fwyaf yn y byd ar gydraddoldeb rhywedd.
Fel rhan o ddirprwyaeth Cynulliad Menywod Cymru, cymerodd yr ymchwilwyr ran mewn trafodaeth banel ar sut mae menywod yn profi trais mewn ffyrdd gwahanol ar wahanol gyfnodau o’u bywydau, ynghyd â’r rhwystrau i geisio cymorth, bylchau mewn data, a’r angen i roi mwy o bwys ar brofiad byw mewn polisi ac ymarfer.
Dywedodd Dr Zerk o Brifysgol Aberystwyth:
“Roedd yn fraint cyfrannu at y trafodaethau byd-eang hyn a rhannu ein hymchwil a’n dysgu o Gymru. Mae sicrhau bod gan fenywod hŷn fynediad at gyfiawnder a chymorth priodol yn hollbwysig, yn enwedig gan fod eu profiadau mor aml yn anweledig neu’n absennol o’r data. Mae’r digwyddiad yn darparu cyfle pwysig i ddylanwadu ar feddwl rhyngwladol ac i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer newid.”
Cynhaliwyd y sesiwn ar y cyd gan Genhadaeth y Deyrnas Gyfunol i'r Cenhedloedd Unedig, Age International a Chynghrair Menywod Cymdeithas Sifil y Deyrnas Gyfunol.
Tynnodd Dr Claudia Mahler o’r Cenhedloedd Unedig sylw at yr angen am newid:
"Yn aml, nid yw menywod hŷn sydd wedi profi trais yn mynd i'r llys oherwydd nad oes neb yn eu credu. Mae angen i ni newid y sgwrs – nid yw hyn yn beth cywilyddus i siarad amdano. Mae angen iddyn nhw gael mynediad at gyfiawnder, cael eu credu, a chael eu cefnogi."
Yn ogystal â'r drafodaeth banel, mynychodd Dr Zerk a'i Chyd-gyfarwyddwr Dewis Choice, Elize Freeman, Ford Gron Weinidogol, lle'r oedd cydraddoldeb i fenywod hŷn yn eitem allweddol ar yr agenda.
Ychwanegodd Elize Freeman:
“Roedd trafodaethau’r Cenhedloedd Unedig yn gyfle gwerthfawr i osod ymchwil ac ymarfer Cymru mewn cyd-destun byd-eang. Drwy ein hymgysylltiad â phartneriaid rhyngwladol, roeddem ni’n gallu tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu menywod hŷn a'r dulliau arloesol sy'n cael eu datblygu yng Nghymru i wella mynediad at gyfiawnder a chymorth. Atgyfnerthodd hyn bwysigrwydd cysylltu ymchwil, polisi ac ymarfer i sbarduno newid ystyrlon a pharhaol.”
