Rydym wrth ein bodd o gael cadarnhau y cynhelir yr ail Gynhadledd Ryngwladol ar Bontio Teg a Chyfiawnder Amgylcheddol gan Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth, ar 10-11 Medi 2026.
Ymunwch â rhanddeiliaid allweddol ac arbenigwyr blaenllaw o gymunedau amrywiol o ymarferwyr a chefndiroedd proffesiynol, gan gynnwys academia, sefydliadau’r gymdeithas sifil, byd diwydiant, sefydliadau llywodraethau, cyrff rheoleiddio, a chyrff rhyngwladol am ddeuddydd o drafodaethau ar lwybrau ar gyfer gweithredu strategaethau pontio teg ac amgylcheddol gynaliadwy yn y dyfodol ôl-olew, gan fyfyrio'n feirniadol hefyd ar ddatblygiadau ers 2015 a’r tueddiadau byd-eang cyfredol sy'n llywio cyfeiriad y llwybrau pontio.
Cadewch y dyddiadau yn eich calendr – edrychwn ymlaen at eich croesawu i arfordir hardd Ceredigion!









