Dr Angharad James

Dr Angharad James

Darlithydd

Adran Y Gyfraith a Throseddeg

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Angharad yn gyn-fyfyrwraig israddedig yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth. Yn ogystal, graddiodd Angharad o Brifysgol Caerdydd â gradd meistr, cyn dychwelyd yn ôl i Brifysgol Aberystwyth i barhau â’i astudiaethau. Mae bellach wedi cwblhau ei doethuriaeth ar faes cyfraith fasnachol. Mae Angharad yn ddarlithydd yn y Gyfraith yn adran Y Gyfraith a Throseddeg yn Aberystwyth ac yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Cafodd ei phenodi fel Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Adran ym mis Ionawr 2024. 

Dysgu

Module Coordinator
Coordinator
Lecturer
Tutor
Grader
Blackboard Dept Admin
Attendance Dept Admin

Ymchwil

Thema ganolog gwaith ymchwil Angharad yw cyfraith fasnachol (gwerthu nwyddau ac ansolfeddau). 
Cwblhaodd ei doethuriaeth ar gymalau cadw teitl (retention of title clauses). Nod y traethawd oedd ymchwiliad penodol ar reolau drosglwyddo perchnogaeth o dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979. 
Mae ei gwaith ymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gyfraith ansolfedd gorfforaethol gan edrych ar Ddeddf Ansolfedd 1986 a’r Ddeddf Ansolfedd Gorfforaethol a Llywodraethiant 2020.
 

Cyfrifoldebau

Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu

Cydlynydd Cynllun Gradd y Gyfraith

Cydlynydd darpariaeth Cymraeg y Gyfraith

Aelod o'r tîm Marchnata a Denu myfyrwyr israddedig

Cydlynydd Diwrnodau Agored ac Ymweld

 

Cyhoeddiadau

James, A 2023, 'Curtailment of individual rights by statutory moratoria', Journal of Corporate Law Studies, vol. 22, no. 2, pp. 1017-1044. 10.1080/14735970.2023.2215138
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil