Finn Vigor: Pam Dewisais MBiol mewn Microbioleg

Finn Vigor yn ystod graddio
01 Awst 2025
Wrth benderfynu ble i astudio, cefais fy nenu i Aberystwyth oherwydd ei henw cryf mewn gwyddorau bywyd a'i lleoliad arfordirol hyfryd. Roeddwn i eisiau astudio yn rhywle oedd yn cyfuno rhagoriaeth academaidd ag ymdeimlad gwirioneddol o gymuned. Roedd Aberystwyth yn cynnig yn union hynny, gan ddarparu awyrgylch clos o fewn y Brifysgol ac yn y gymuned gyfagos.
Ar ddechrau fy ngradd, doeddwn i ddim yn hollol siŵr pa faes o wyddorau bywyd yr oeddwn i eisiau arbenigo ynddo. Mae astudio yn Aberystwyth wedi rhoi sylfaen academaidd gadarn i mi a'r cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil pwysig, o waith maes ar hyd yr arfordir lleol i brosiectau labordy. Dros bedair blynedd fy ngradd Meistr integredig, cymerodd llawer o ddarlithwyr yr amser i ddod i'm hadnabod i a fy ffrindiau, a wnaeth gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'r staff addysgu yn gefnogol iawn, ac mae'r adran yn annog myfyrwyr i dyfu fel unigolion. Cefais y rhyddid i archwilio fy niddordebau trwy astudio annibynnol a phrosiectau ymchwil, ac roeddwn i bob amser yn teimlo bod fy chwilfrydedd yn cael ei werthfawrogi.
Y tu allan i'm gwaith academaidd, ymunais â thîm rygbi lleol, a helpodd fi i deimlo'n gysylltiedig â'r gymuned ehangach y tu hwnt i'r brifysgol. Rhoddodd cydbwyso fy astudiaethau â chwaraeon ymdeimlad cryf o berthyn i mi a gwnaeth fy mhrofiad hyd yn oed yn fwy boddhaol.
Ar ôl cwblhau fy astudiaethau, rwyf bellach yn teimlo'n hyderus ac yn gyffrous i gymryd y camau nesaf. Rwy'n gobeithio dilyn gyrfa mewn microbioleg amgylcheddol neu ddyfrol, llwybr na fyddwn wedi dod o hyd iddo heb y gefnogaeth a'r cyfleoedd a brofais yn Aberystwyth. Mae fy amser yma eisoes wedi fy helpu i sicrhau rôl mewn ymchwil academaidd, ac rwy'n teimlo fy mod wedi paratoi'n dda ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. I fyfyrwyr sy'n gwerthfawrogi amgylchedd tawelach, cefnogaeth academaidd gref, a chysylltiadau agos â natur, mae Aberystwyth yn ddewis ardderchog.
Dysgwch fwy am ein cyrsiau Microbioleg MBiol YMA