Amaethyddiaeth Glaswelltir Gynaliadwy

 

Cyflwyniad

Amaethyddiaeth Glaswelltir Gynaliadwy

Mae glaswelltiroedd yn gorchuddio tua 25% o arwyneb daearol y Ddaear (3.5 biliwn ha). Mae eu rôl yn amlswyddogaethol, yn darparu porfa sylfaenol i systemau da byw’n seiliedig ar borthiant, a hefyd ddarparu gwasanaethau ecosystem ychwanegol, yn cynnwys storio carbon wrth gefn, rheoli dŵr a chynefinoedd i fywyd gwyllt. Mae systemau da byw presennol yn defnyddio tua thraean o’r tiroedd amaethyddol sydd ar gael yn fyd-eang ac yn cyfrannu 40% o werth cynnyrch amaethyddol byd-eang (FAO, 2019). Yn fyd-eang, mae systemau cynhyrchu da byw yn darparu traean o’r protein a gaiff ei fwyta gan bobl, gyda galwadau cynyddol yn cael eu rhagweld am gynhyrchion anifeiliaid oherwydd twf yn y boblogaeth a chynnydd o ran cymeriant y pen. Mae cydbwyso’r cynnydd mewn cynhyrchu da byw yn erbyn galwadau cynyddol defnyddwyr er mwyn deall effaith cynhyrchion da byw ar yr amgylchedd yn golygu arloesi gwyddonol ar gyfradd na welwyd ei thebyg mewn hanes wrth i ni geisio cyflawni uchelgais y DU o fod yn ddi-garbon net erbyn 2050.

Nod

Nod

Ein nod yw gwella cynaladwyedd amaethyddiaeth da byw’n seiliedig ar borfa i helpu i gyflawni systemau da byw di-garbon erbyn 2050. Drwy gynnwys systemau fferm gyfan yn ein gweledigaeth, mae gwyddonwyr da byw’n cydweithio’n agos gyda bridwyr planhigion, gwyddonwyr pridd, microbiolegwyr, ecolegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol i gyflenwi systemau bwyd-amaeth cynhyrchiol a gwydn. Gan gysylltu â phartneriaid diwydiant niferus ar draws cadwyni cyflenwi amaethyddol, mae ein model effaith yn defnyddio dull ymchwil lle mae’r ffermwr yn cyfranogi, er mwyn i ni allu deall y rhwystrau at newid a’r wyddoniaeth sydd ei hangen ar y diwydiant, i gefnogi defnyddwyr i fabwysiadu arloesi.

Dull

Dull 

Mae ein cylch gorchwyl ymchwil yn cynnwys:

  • Systemau anifeiliaid cnoi cil yn seiliedig ar laswelltir sy’n ddi-garbon
  • Porthiant protein uchel a dyfir gartref i anifeiliaid cnoi cil ac anifeiliaid unstumogaidd
  • Lleihau allyriadau GHG anifeiliaid cnoi cil
  • Gwasanaethau diogelu pridd ac ecosystem mewn systemau da byw
  • Cyfnewid gwybodaeth a chyflwyno newid mewn amaethyddiaeth glaswelltir
  • Defnydd effeithlon o faetholion drwy ryngweithio pridd-planhigion-anifeiliaid
  • Amaethyddiaeth 4.0 a thechnolegau trachywir, yn cynnwys arloesi mewn technoleg silwair
  • Datblygu cynhyrchion bwyd-amaeth newydd a gwella ansawdd cynnyrch da byw

Yn IBERS, mae gennym ni’r gallu unigryw i ddatblygu adnoddau planhigion newydd i ddiwallu gofynion byd-eang am systemau da byw sy’n gynaliadwy, yn gynhyrchiol ac yn gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd

Allbynnau a Galluoedd

Uchafbwyntiau:

Astudiaethau Achos Effaith i REF yn cynnwys ‘Reducing reliance on imported protein (soya) across a UK ruminant supply chain’ 

Galluoedd Ymchwil

 

Prif Ymchwilwyr

Prif Ymchwilwyr

Llun Enw Ebost Ffôn
Prof Alison Kingston-Smith ahk@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823062
Dr Christina Marley cvm@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823084
Prof Jon Moorby jxm@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823074
Mr Manod Williams maw90@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622925
Dr Ruth Wonfor rec21@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823093

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »