Sut mae cael ffurflen gais?
Sut i gofrestru ar y Dystysgrif Addysg Uwch
Cliciwch ar y ddolen hon a dilyn y cyfarwyddiadau.
Sut ydw i'n dechrau?
Os oes gennych ddiddordeb yn y dystysgrif, bydd angen ichi gofrestru. Gallwch gofrestru'n rhad ac am ddim ac, ar wahân i ffïoedd cwrs arferol, nid oes unrhyw gostau ychwanegol.
Cyrsiau Cyfredol
Sut i gofrestru ar y Dystysgrif neu'r Diploma mewn Addysg Uwch
Sut i gofrestru ar y Dystysgrif neu'r Diploma mewn Addysg Uwch
Cliciwch ar y ddolen hon a dilyn y cyfarwyddiadau.
Diploma mewn Addysg Uwch: Ecoleg
Mae Diploma mewn Ecoleg yn gynllun rhan-amser, hyblyg, sy’n caniatáu i ddysgwyr gwblhau ar eu cyflymder eu hunain.
Mae’r Diploma’n dilyn ymlaen o gwblhau Tystysgrif Addysg Uwch, a chymerir 120 credyd arall i gyrraedd cyfanswm o 240. Mae’r dystysgrif yr un nifer o gredydau ag ail flwyddyn cynllun gradd israddedig amser-llawn ac yn cyfateb i’r un lefel o astudio (Lefel 5 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol).
Mae’r cyrsiau a gynigir drwy’r Diploma wedi’u cynllunio i ymestyn gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau maes a chadwraeth. Y wybodaeth a'r sgiliau a enillir yw'r rhai sy'n hanfodol ar gyfer unrhyw swydd ym maes yr amgylchedd, gan ddarparu profiad ymarferol a datblygu sgiliau adnabod.
Mae gennych bum mlynedd i gwblhau eich astudiaethau ac o fewn yr amser hwnnw gallwch astudio’r cyrsiau ar eich cyflymder eich hun. Ni chynigir yr holl gyrsiau bob blwyddyn, ond byddwn yn sicrhau bod yr holl gyrsiau ar gael dros gyfnod o amser.
Tystysgrif Addysg Uwch: Ecoleg
Cynllun rhan amser hyblyg yw'r Dystysgrif Ecoleg, sy'n caniatáu i chi ddysgu yn ôl eich pwysau eich hun.
Mae tystysgrif addysg uwch yn cynnwys 120 credyd ac mae mwyafrif ein modiwlau'n werth 10 credyd. Mae i'r dystysgrif yr un nifer o gredydau â blwyddyn gyntaf cynllun gradd israddedig amser llawn ac mae'n gyfwerth o ran lefel yr astudio (Lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Gwladol).
Y wybodaeth a'r sgiliau a enillir yw'r rhai sy'n hanfodol ar gyfer unrhyw swydd ym maes yr amgylchedd, gan ddarparu profiad ymarferol a datblygu sgiliau adnabod.
Cewch gymryd pum mlynedd i gwblhau eich astudiaethau ac yn y cyfnod hwnnw gallwch weithio yn ôl eich pwysau eich hun. Ni chaiff pob cwrs ei gynnig bob blwyddyn, ond byddwn yn sicrhau bod yr holl gyrsiau ar gael dros gyfnod o amser.
Cymwysterau Ecoleg
Darganfod mwy
CyflogadwyeddHanes, Hel Achau ac Archaeoleg
Darganfod mwy
Tysfysgrif Addysg Uwch Celf a Dylunio
Rydym yn cynnig Tystysgrif Addysg Uwch o fewn ein cyrsiau Celf a Dylunio. Mae gennych 5 mlynedd i gyflawni’r astudiaethau sydd eu hangen, sef gwerth 120 o gredydau (FfCChC4). Byddwch naill ai’n pasio neu’n methu’r Dystysgrif a bydd angen ichi astudio modiwlau allweddol (sy’n dod i gyfanswm o 70 credyd) er mwyn rhoi addysg gyflawn ichi ym maes celf. Gall y modiwlau Allweddol hyn fod yn fodd ichi ddod o hyd i'ch hoff gyfrwng wrth baentio a darlunio. Mae'r modiwlau dewisol yn eich galluogi i astudio agwedd benodol yn fwy manwl.
I grynhoi:
- Cwblhau 120 o gredydau
- Gall 20 credyd fod ar Lefel "0" (FfCChC3)
- Rhaid i 70 credyd fod yn fodiwlau Allweddol
- Mae’r modiwlau canlynol yn orfodol:
- Modiwl tiwtorial
- Tri modiwl hanes celf penodol
- Sicrhau cyfartaledd wedi’i bwysoli o 40% yn gyffredinol
- Bod yn bresennol ar gyfer 60% o'r cwrs
Fformat y Cynllun
Mae modiwlau allweddol yn rhoi sampl o’r deunyddiau a’r cyfryngau celf yr hoffech eu hastudio'n fanylach. Mae modiwlau pellach sy’n defnyddio cyfrwng penodol ar gael yn y Rhestrau Dewisol ac maent yn cwmpasu modiwlau tri dimensiwn, dylunio, paentio dau ddimensiwn a lluniadu, dylunio cysylltiedig â chyfrifiaduron, gwneud printiau, a hanes celf. Felly, mae hyn yn galluogi i chi gynllunio eich dysgu eich hun i gyd-daro â’ch cryfderau.
Mae'r tiwtoriaid yn dod â'n darpariaeth at garreg eich drws, ond mae ar rai modiwlau angen mwy o gefnogaeth dechnegol, neu mwy o le, a bydd angen i chi deithio i Aberystwyth ar gyfer ambell gwrs, ond rydym yn ceisio trefnu i chi rannu ceir i’ch helpu. Rydyn ni hefyd yn cylchdroi dosbarthiadau fel eu bod nhw'n cael eu cynnal yn y gwahanol gymdogaethau dros gyfnod o flynyddoedd. Fe allech chi ystyried ein dysgu ar-lein wrth eich pwysau heb unrhyw gostau teithio. Cynhelir ein dosbarthiadau wyneb yn wyneb yn ystod y dydd, nosweithiau a phenwythnosau, gwyliau ac mewn ysgolion preswyl yn yr haf. Cynhelir rhai dosbarthiadau yn ein prif ardaloedd craidd, ond rydym hefyd yn dysgu mewn ardaloedd pellach i ffwrdd, er enghraifft mewn neuaddau pentref ac orielau.
Pa ddilyniant sydd i’r Dystysgrif?
Mae cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch: Celf a Dylunio, ynghyd â chyfweliad a phortffolio yn caniatáu mynediad i 2il flwyddyn y rhaglen radd (FfCChC5) yn yr Ysgol Gelf, Aberystwyth. Mae ganddynt nifer o raddau ac mae pob cynllun gradd yn gofyn am ystod o fodiwlau allweddol neu graidd sydd eu hangen er mwyn trosglwyddo; bydd y rhain yn cael eu rhestru yn eich llawlyfr myfyrwyr a fydd yn cael ei anfon atoch chi wrth gofrestru.
I gofrestru ar gyfer y Dystysgrif cliciwch ar y ddolen ganlynol: Ffurflen Gofrestru Tystysgrif Addysg Uwch/Diploma Addysg Uwch
Tystysgrif Addysg Uwch a Chyflogadwyedd
Tystysgrif Addysg Uwch: Celf a Dylunio
"Ches i erioed gyfle i astudio celf yn yr ysgol"
"Dw i eisiau gweithio ac astudio"
"Dydw i ddim yn teimlo y gallaf ymrwymo i astudio amser llawn"
"Mae gen i syniad y gallwn i fod yn dda mewn celf"
“Mae'r adnoddau hynny fel aur”
Mae’r rhain yn sylwadau rydyn ni’n eu clywed yn aml gan ein myfyrwyr newydd. Maen nhw wedi penderfynu cyfoethogi eu bywyd trwy astudio Celf a Dylunio yn yr adran Dysgu Gydol Oes. Mae gan ein tiwtoriaid gyfoeth o brofiad o addysgu oedolion sy'n ddysgwyr, llawer ohonynt wedi dysgu fel oedolion eu hunain ac yn deall yr angen i gael cefnogaeth a magu hyder. Gallant deilwra eich llwybr dysgu, eich cynorthwyo i ddatblygu eich cryfderau a’ch diddordebau a chanolbwyntio ar y meysydd lle mae angen i chi ddatblygu.
Beth mae darpariaeth wyneb yn wyneb yn ei gynnwys:
- Rydym yn cynnal dosbarthiadau yn eich milltir sgwâr mewn pentrefi a threfi anghysbell ar hyd a lled Canolbarth Cymru.
- Dysgu mewn gerddi ac orielau hyfryd gydag adnoddau ac ysbrydoliaeth ar flaenau eich bysedd
- Dysgu celf alwedigaethol mewn ysgolion preswyl
- Gallwch astudio ar yr un pryd â gweithio
- Cynnig cyrsiau celf ar benwythnosau a gyda'r nos
- Dosbarthiadau am ddiwrnod cyfan yn hytrach na dosbarthiadau dwyawr, sy'n arbed petrol
- Mae'r cyrsiau dydd yn cyd-daro ag oriau ysgol
- Arbenigo mewn dysgu oedolion, gan deilwra ein darpariaeth, ein hasesu a’n cynlluniau gwaith yn benodol ar gyfer oedolion
- Rhedeg llawer o gyrsiau sy'n addas ar gyfer eich datblygiad proffesiynol megis Dehongli ac Addysgu mewn Amgueddfa / Oriel, Marchnata eich hun fel ymarferydd celf a Gwneud cerfluniau helyg
Cwestiynau Cyffredin
- Mae gennych 5 mlynedd i gasglu 120 o gredydau; hynny yw, tuag un cwrs y tymor
- Nid oes raid ichi gofrestru ar y Dystysgrif Celf a Dylunio er mwyn astudio gyda ni
- Gallwch astudio ein cyrsiau yn gyrsiau unigol
- Gallwch astudio cyrsiau Lefel 0 (FfCChC3) i weld a ydych yn hoffi ein ffordd o’ch dysgu
- Rydyn ni’n falch iawn o'n staff diwyd
- Mae nifer o’n tiwtoriaid yn weithwyr proffesiynol yn eu maes
- Rydyn ni’n ystyriol o’r holl fyfyrwyr hynny sy’n dechrau ar eu hastudiaethau ac nad ydynt wedi gwneud unrhyw waith celf o'r blaen
- Mae gennym gyfres o gyrsiau Lefel O mewn arlunio, paentio a cherflunio.
Sut gallaf basio'r Dystysgrif?
Mae gennych 5 mlynedd i gyflawni’r astudiaethau sydd eu hangen, sef gwerth 120 o gredydau (FfCChC4). Byddwch naill ai’n pasio neu’n methu’r Dystysgrif a bydd angen ichi astudio gwerth 70 credyd o fodiwlau allweddol er mwyn rhoi addysg gyflawn ichi ym maes celf. Gall y modiwlau Allweddol hyn fod yn fodd ichi ddod o hyd i'ch hoff gyfrwng wrth beintio a darlunio. Mae'r modiwlau dewisol yn eich galluogi i astudio agwedd benodol yn fwy manwl.
I grynhoi:
- Cwblhau 120 o gredydau
- Gall 20 credyd fod ar Lefel "0" (CQFW3)
- Rhaid i 70 credyd fod yn fodiwlau Allweddol
- Mae’r modiwlau canlynol yn orfodol:
- Modiwl tiwtorial
- Tri modiwl hanes celf penodol
- Sicrhau cyfartaledd wedi’i bwysoli o 40% yn gyffredinol
- Bod yn bresennol ar gyfer 60% o'r cwrs
Fformat y Cynllun
Mae modiwlau allweddol yn rhoi sampl o’r deunyddiau a’r cyfryngau celf yr hoffech eu hastudio'n fanylach. Mae modiwlau pellach sy’n defnyddio cyfrwng penodol ar gael yn y Rhestrau Dewisol ac maent yn cwmpasu modiwlau tri dimensiwn, dylunio, paentio dau ddimensiwn a lluniadu, dylunio cysylltiedig â chyfrifiaduron, gwneud printiau, a hanes celf. Felly, mae hyn yn galluogi i chi gynllunio eich dysgu eich hun i gyd-daro â’ch cryfderau.
Mae'r tiwtoriaid yn dod â'n darpariaeth at garreg eich drws, ond mae ar rai modiwlau angen mwy o gefnogaeth dechnegol, neu mwy o le, a bydd angen i chi deithio i Aberystwyth ar gyfer ambell gwrs, ond rydym yn ceisio trefnu i chi rannu ceir i’ch helpu. Rydyn ni hefyd yn cylchdroi dosbarthiadau fel eu bod nhw'n cael eu cynnal yn y gwahanol gymdogaethau dros gyfnod o flynyddoedd. Fe allech chi ystyried ein dysgu ar-lein wrth eich pwysau heb unrhyw gostau teithio. Cynhelir ein dosbarthiadau wyneb yn wyneb yn ystod y dydd, nosweithiau a phenwythnosau, gwyliau ac mewn ysgolion preswyl yn yr haf. Cynhelir rhai dosbarthiadau yn ein prif ardaloedd craidd, ond rydym hefyd yn dysgu mewn ardaloedd pellach i ffwrdd, er enghraifft mewn neuaddau pentref ac orielau.
Pa ddilyniant sydd i’r Dystysgrif?
Mae cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch: Celf a Dylunio, ynghyd â chyfweliad a phortffolio yn caniatáu mynediad i 2il flwyddyn y rhaglen radd (CQFW5) yn yr Ysgol Gelf, Aberystwyth. Mae ganddynt nifer o raddau ac mae pob cynllun gradd yn gofyn am ystod o fodiwlau allweddol neu graidd sydd eu hangen er mwyn trosglwyddo; bydd y rhain yn cael eu rhestru yn eich llawlyfr myfyrwyr a fydd yn cael ei anfon atoch chi wrth gofrestru.
I gofrestru ar gyfer y Dystysgrif cliciwch ar y ddolen ganlynol: Ffurflen Gofrestru Tystysgrif Addysg Uwch/Diploma Addysg Uwch
Cyflogadwyedd
Sut all ein cyrsiau eich cynorthwyo i gael swydd neu ddyrchafiad?
Bydd myfyrwyr yn dangos meddwl creadigol, ymwybyddiaeth o ofod, cysyniadau dylunio, ymwybyddiaeth weledol, a damcaniaeth lliw yn gysylltiedig â marchnata a hyrwyddo. Byddwn hefyd yn datblygu sgiliau arddangos a dylunio, datrys problemau, cyd-drafod, a gweithio ar sail cyfarwyddyd penodol. Bydd sgiliau dadansoddi, meddwl beirniadol, a dealltwriaeth o'r berthynas rhwng ymarfer celf a hanes celf yn cael eu dysgu. Yn ogystal, mae hunan-fyfyrio beirniadol, datblygu ymholiad personol, rheoli amser a gweithio o fewn i gyfyngiadau amser yn sgiliau sy'n eich gwneud yn fwy cyflogadwy ac yn cael eu hannog yn ein modiwlau Celf a Dylunio.
Dyna enwi ambell un! Ydych chi'n gwneud yn sicr eich bod yn pwysleisio’r rhain yn eich ceisiadau?
Dywedodd y diweddar Syr Ken Robinson, "Mae creadigrwydd nawr mor bwysig â llythrennedd ym myd addysg, a dylen ni roi’r un statws iddo." Ystyriwch…mae gan fyfyrwyr ar gyrsiau Celf a Dylunio fwy o allu i weld trwy broblemau a gweithredu arnynt i’w datrys mewn ffordd greadigol.
Yn ogystal, gall y modiwlau penodol hyn wella cyflogadwyedd a helpu i sefydlu busnesau yn y cartref a busnesau annibynnol.
Uwch-gylchu dillad Rhoi cyfle i fyfyrwyr werthu eu gwaith. Mae tri modiwl yn y gyfres hon; Mae rhai myfyrwyr wedi dechrau eu label ffasiwn eu hunain.
Cerfluniau Helyg a Helyg Byw Mae cyrsiau gwneud cerfluniau yn cael eu cymryd gan ddylunwyr gardd o fusnesau bach.
Marchnata eich hun fel Ymarferydd Celf a Dylunio Mewnol Mae hwn yn cael ei gymryd gan y rhai sy'n sefydlu diwydiannau crefft yn y cartref.
Addysg a Dehongli mewn Amgueddfa / Oriel Mae hwn yn rhoi sgiliau i chi ddylunio rhaglenni addysg ac yn sicr o roi syniad go dda i chi p’un a ydych am fynd i ddysgu.
Deialog, Trafodaeth, Dadl Mae hwn yn datblygu hyder wrth fynd i'r afael â gwahanol gynulleidfaoedd mewn ffordd hwyliog.
Menter: ewch amdani! Mae'n fodiwl sy'n amlygu'r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu busnes. Ydych chi'n reolwr da, arweinydd? Pa sgiliau newydd fydd eu hangen arnoch?
Sut i gofrestru ar gwrs
Tystebau
Efallai y bydd sylwadau ychydig o fyfyrwyr yn rhoi cipolwg i chi ar sut beth yw astudio cwrs gyda ni.
- "Mae'r cyrsiau a ddarperir o fewn y rhaglenni Dysgu Gydol Oes yn rhoi cyfleoedd rhagorol i barhau i hunanddatblygu y tu hwnt i ymddeoliad"
- "Prif gryfder y cwrs oedd y tiwtor gwych oedd yn ei arwain. Roeddwn yn hapus iawn gyda'r cwrs cyfan."
- "Roedd yn teimlo fel cynnydd da drwy'r cwrs. Roedd y tiwtor yn hawddgar ac yn ddefnyddiol, ac mae wedi agor cyfrwng cwbl newydd i mi"
- "Hyfforddiant bywiog a chefnogol, roedd sylwadau'r tiwtoriaid yn benodol a chefais fy ymestyn i'r eithaf"
- "Tiwtor ysbrydoledig a daniodd ddychymyg yr holl fyfyrwyr!"
- "Roedd y cwrs yn addysgiadol ac yn ddiddorol. Fe wnes i wir ei fwynhau."
- "Wedi mwynhau'r cwrs ac eisiau mwy, tiwtor ardderchog gyda llawer o amynedd"
- "Mae mor anghyffredin dod ar draws tiwtor mor ddawnus a brwdfrydig"
- "Cwrs gwych, tiwtor gwych, wrth fy modd"
- "Roeddwn i'n hoffi ei fod ar-lein ac wrth fy mhwysau gyda fideos hyfforddiant clir a difyr"
- "Mae wedi bod yn agoriad llygad, dwi'n gweld pethau'n wahanol nawr, hyfforddiant da iawn"
- "Gallu cynllunio'r cwrs fy hun yn hytrach na chael terfynau amser penodol, ansawdd yr adborth a'r cynnwys amrywiol sydd ar gael drwy Blackboard. Ni allaf feddwl am unrhyw welliannau."
- "Mae yna gryn dipyn o gyrsiau celf i oedolion yn yr ardal (Gogledd Essex) ond nid ydynt yn cael ystyriaeth o ddifrif fel y cyrsiau yn Aberystwyth. Er fy mod yn meddwl bod y system gredyd yn Aberystwyth ychydig yn ddiflas weithiau, rwy'n credu bod y gwahanol ofynion wedi canolbwyntio'r meddwl a chynhyrchu ymatebion o ansawdd uwch gan y myfyrwyr. Diolch yn fawr gan fyfyriwr diolchgar."
Sut i gofrestru ar gwrs unigol
Tystysgrif Addysg Uwch: Astudiaethau Hel Achau
Cynllun rhan amser hyblyg yw'r Dystysgrif Astudiaethau Hel Achau, sy'n caniatáu i chi ddysgu yn ôl eich pwysau eich hun.
Mae tystysgrif addysg uwch yn cynnwys 120 credyd ac mae mwyafrif ein modiwlau'n werth 10 credyd. Mae i'r dystysgrif yr un nifer o gredydau â blwyddyn gyntaf cynllun gradd israddedig amser llawn ac mae'n gyfwerth o ran lefel yr astudio (Lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Gwladol).
Cafodd ei llunio i ddarparu sylfaen trwyadl o ran damcaniaeth ac arfer mewn ymchwil hanesyddol, hanes teuluol, cofnodion ac archifau, a bydd myfyrwyr yn ennill y sgiliau angenrheidiol i wneud ymchwil annibynnol ar hel achau.
Cewch gymryd pum mlynedd i gwblhau eich astudiaethau ac yn y cyfnod hwnnw gallwch weithio yn ôl eich pwysau eich hun. Ni chaiff pob cwrs ei gynnig bob blwyddyn, ond byddwn yn sicrhau bod yr holl gyrsiau ar gael dros gyfnod o amser.
Modiwlau Craidd
Modiwlau Dewisol
Sut i gofrestru ar gwrs unigol
Tystiolaeth Myfyrwyr
"Roedd y cynnwys, a dull a chyflymder yr addysgu yn ardderchog."
"Roedd brwdfrydedd ac angerdd y tiwtor ei hun am y pwnc yn ysbrydoliaeth."
"Cyfres dda o ymarferion er mwyn dysgu sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein."
"Fe wnaeth [y prosiect terfynol] yn bendant atgyfnerthu'r dysgu."
"Ardderchog os oes arnoch eisiau ymchwilio i hanes eich teulu!"
Sut i gofrestru ar y Dystysgrif Addysg Uwch
Sut i gofrestru ar y Dystysgrif Addysg Uwch
Cliciwch ar y ddolen hon a dilyn y cyfarwyddiadau.
Proffiliau Tiwtoriaid
Pa ieithoedd allaf i eu dysgu?
Erbyn hyn, gallwch ddod atom i ddysgu: Almaeneg, Arabeg, Eidaleg, Ffrangeg, Groeg, Llydaweg, Rwsieg, Sbaeneg, Siapaneg a Tsieinëeg, pob un ar wahanol lefelau.
Y Rhaglen Ieithoedd
Yn ogystal â cheisio gwasanaethu ein myfyrwyr yn y Brifysgol, rydym wedi ymrwymo i wasanaethu’r gymuned: o Benfro i Aberystwyth, o Aberteifi i Dyddewi, o Hwlffordd i Aberhonddu a’r Gelli Gandryll. Rydym yn mawr obeithio y bydd ein cyrsiau wrth eich bodd ac y byddwch yn mwynhau pob eiliad ohonyn nhw – y dulliau dysgu, y fethodoleg, awyrgylch y dosbarthiadau a’n tiwtoriaid cyfeillgar. Rydym yma i’ch helpu i ddysgu iaith. Byddwn yn parhau i ddarparu cyrsiau adolygu yn ystod y trydydd tymor. Gobeithio y bydd y cyrsiau hyn yn ategu’r hyn yr ydych eisoes yn ei wybod, gan sicrhau eich bod yn mwynhau ac yn ymlacio hyd yn oed mwy wrth ddysgu.
Y Llwyfan Cyfnewid Ieithoedd

Culm, Prifysgol Zaragoza, Sbaen
Ydych chi'n fyfyriwr Sbaeneg gyda Dysgu Gydol Oes?
Ymarferwch eich Sbaeneg a dysgwch gyda'ch partner tandem yn Aber neu Sbaen!
Sut allaf i ddysgu?
Drwy wrando, byddwch yn dod i ddeall yr hyn y mae’ch athro a’ch cydfyfyrwyr yn ei ddweud, a’r hyn sy’n cael ei ddweud ar y teledu neu’r radio. Byddwch yn dysgu siarad drwy siarad. Byddwch yn magu hyder i fynegi eich syniadau a’ch safbwyntiau a byddwch yn llwyddo i gyfleu eich neges. Byddwch yn darllen hysbysebion, erthyglau, nofelau a gwefannau. Byddwch yn ysgrifennu llythyrau, negeseuon ac erthyglau mewn iaith dramor. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau neu barau, gan gyflawni eich amcanion drwy gydweithio. Ein nod pwysicaf yw meithrin sgiliau’r myfyrwyr i ddefnyddio iaith i gyfathrebu. Byddwn yn pwysleisio sgiliau llafar, lle bydd gramadeg yn rhan naturiol o ddatblygiad yr iaith. Byddwn hefyd yn ceisio creu profiad dysgu pleserus a byddwn bob amser yn croesawu unrhyw awgrymiadau am ffyrdd o addasu’r dosbarthiadau i ateb eich gofynion chi yn well. Mae pob un o’n cyrsiau’n seiliedig ar iaith a diwylliant cyfoes y wlad dan sylw. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’ch profiad dysgu ac yn rhoi cipolwg i chi ar dreftadaeth y wlad.
Pam dysgu iaith?
Bydd pobl yn penderfynu dysgu iaith am lawer o wahanol resymau. Bydd llawer yn dweud bod iaith yn allwedd i ddeall ffordd arall o fyw. Meddyliwch am y bobl, y lleoedd, y llyfrau, y gwefannau, y ffilmiau a’r rhaglenni teledu newydd y gallech eu mwynhau. Ar yr un pryd, gallech ddod i ddeall diwylliannau a ffyrdd eraill o fyw yn llawer gwell. Mae ieithoedd yn agor drysau. Os byddwch yn llwyddo i gyfathrebu mewn iaith dramor, bydd cymaint mwy o gyfleoedd ar gael i chi nag yr ydych yn sylweddoli, a hynny ar unrhyw lefel astudio. Pan fyddwch chi’n gwneud ymdrech i siarad ychydig o eiriau mewn iaith arall, bydd yn gwneud byd o wahaniaeth. O ddysgu iaith, byddwch hefyd yn gallu darllen papurau newydd mewn iaith dramor a bydd hyn yn rhoi persbectif newydd i chi ar ddigwyddiadau byd-eang. Efallai eich bod yn gwybod pam eich bod am ddysgu iaith newydd. Os oes gennych reswm clir dros ddysgu iaith, byddwch yn fwy awyddus i lwyddo a bydd gennych amcan clir. Byddwch yn gwybod bod y gallu i gyfathrebu mewn iaith dramor yn cyfoethogi’ch bywyd.
Yn pryderu am ddysgu iaith newydd?
Peidiwch â phryderu. Rydym yn cynnig byd newydd o gyfleoedd i chi. Os byddwch yn ymuno â dosbarth dechreuwyr, byddwch yn synnu at yr hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd y semester cyntaf. Os bu i chi ddechrau dysgu iaith beth amser yn ôl a rhoi’r gorau iddi am ba bynnag reswm, bydd croeso i chi ymuno â ni ar unrhyw lefel – ôl-ddechreuwyr, canolradd is ac uwch, neu uwch. Ac os ydych yn weddol rhugl mewn iaith, ond nad ydych erioed wedi ennill cymhwyster swyddogol, bydd y cyrsiau’n eich rhoi ar ben ffordd i astudio ymhellach. Gall unrhyw un ddysgu iaith. Fyddwch chi byth yn rhy hen neu’n rhy ifanc i ddysgu iaith. Peidiwch â bod ofn ymarfer eich sgiliau iaith unrhyw le ac unrhyw bryd. Ond beth bynnag y byddwch yn ei wneud, cofiwch fwynhau’r profiad dysgu!
Cwestiynau Cyffredin am y Dystysgrif
- Mae gennych 5 mlynedd i gasglu 120 credyd; sef tua un cwrs bob tymor
- Nid oes rhaid i chi gofrestru ar y Dystysgrif i astudio gyda ni
- Gallwch gymryd ein cyrsiau ar sail arunig – fesul cwrs
- Rydym yn eich cynghori i gymryd cyrsiau Lefel 0 (FfCChC3) i weld a ydych chi’n hoffi’r ffordd rydym ni’n addysgu
- Mae’r holl diwtoriaid yn weithwyr proffesiynol yn eu maes
- Rydym yn gofalu am fyfyrwyr sy’n dechrau heb wneud unrhyw gelf o’r blaen
- Mae gennym ni gyfres o gyrsiau Lefel 0 (FfCChC3) i roi sgiliau sylfaenol i chi ac adeiladu eich hyder
Pa sgiliau fyddwch chi'n eu datblygu?
- sgiliau hunan-reoli a hunan-ysgogi gwaith celf yn ymwneud â Darlunio Astudiaethau Natur
- gwerthfawrogiad o ansawdd technegol, cywirdeb a manylder i gynnal ymchwil mewn amrywiol foddau
- darlunio arsylwadol, mwyhau ac ymarfer proffesiynol yn y genre
- y gallu i werthuso’n feirniadol a myfyrio ar eich dysgu eich hun a datblygu’r gallu i gyfathrebu mewn amrywiaeth o fformatau
- dealltwriaeth o symudiadau cyd-destunol a chyfredol o fewn genre Darlunio Astudiaethau Natur
- cefndir academaidd cadarn mewn darlunio gan roi sgiliau i werthuso ac ymchwilio, datrys problemau, dangos rôl beirniadaeth a dealltwriaeth o’r berthynas rhwng ymarfer celf a hanes celf
- y cyfle i symud i Addysg Uwch lawn amser drwy raglen BA neu MA yr Ysgol Gelf, neu eich paratoi ar gyfer cyflogaeth lawrydd
- ymwybyddiaeth o sensitifrwydd ac ystyriaethau iechyd a diogelwch gweithio gyda sbesimenau
Sut i gofrestru ar y Dystysgrif a chyrsiau unigol
Cyflwyno ar-lein
- Mynediad at ein llwyfan dysgu ar-lein o’r enw Blackboard gyda chymorth tiwtor ar ffurf fideos, tiwtorial a byrddau trafod
- Mae gan bob modiwl unedau addysgu gyda dangosiadau, gweithgareddau, arweiniad a chefnogaeth tiwtorial
- Adborth diferol gan eich tiwtor ar ôl pob uned
Cyflwyno wyneb yn wyneb
- Addysgu mewn lleoliadau arbenigol ledled y Canolbarth
- Addysgu mewn gerddi ac orielau hyfryd gydag adnoddau ac ysbrydoliaeth wrth law
- Addysgu mewn ysgolion preswyl celf alwedigaethol
- Gadael i chi astudio a gweithio ar yr un pryd
- Cynnig cyrsiau celf gyda’r nos ac ar benwythnosau
- Dosbarthiadau diwrnod llawn yn lle dwy awr, sy’n fwy darbodus o ran petrol
- Arbenigo mewn addysgu oedolion, gan deilwra’r cyflwyno, asesu a chynlluniau gwaith yn benodol i oedolion
Sut ydw i’n pasio’r Dystysgrif?
Mae gennych 5 mlynedd i gyflawni’r astudio angenrheidiol sef 120 credyd (FfCChC4). Dyfernir y Dystysgrif Addysg Uwch gyda marc pasio neu fethu a bydd angen i chi gymryd 50 o fodiwlau Allweddol er mwyn cael addysg celf gyflawn. Gall y modiwlau Allweddol / Craidd weithredu fel sbardun i ddod o hyd i’ch dewis o gyfrwng peintio a lluniadu. Mae’r modiwlau dewisol yn gadael i chi astudio maes yn fwy dwfn.
Modiwlau Dysgu Ar-lein yn eich Pwysau: Oes rhaid i fi weithio ar gyflymder penodol?
Mae gennym ni ddyddiadau dechrau a gorffen swyddogol ond trefnir yr unedau gwaith i adael i chi gasglu’r wybodaeth ar gyfer eich asesiad terfynol. Wrth gymharu fersiwn ‘wyneb yn wyneb’ y modiwl â’r fersiwn dysgu o bell, dywedodd yr arholwr allanol ei fod yn teimlo bod dysgu’r myfyriwr yn fwy dwys. Yn ogystal, rydym ni’n darparu adborth interim er mwyn i chi allu cael marciau uwch yn eich aseiniad terfynol.
Yn Gryno:
- Cwblhau 120 credyd
- Gall 20 credyd fod ar Lefel “0” (FfCChC3)
- Rhaid i 50 credyd fod o’r modiwlau Allweddol
- Mae’r modiwlau canlynol yn orfodol: Modiwl tiwtorial a dau fodiwl hanes celf penodol
- Cyflawni cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 40%
- Mynychu 60% o’r cwrs
Further Digital Drawing and Painting
Darganfod mwyWriting Ecology: Becoming a Writer of your Own Square Mile
Darganfod mwyAn Introduction to Writing for Children
Darganfod mwyResearching and Writing Women's History
Natural History Illustration: Insects
Darganfod mwyWriting for Social Justice
Darganfod mwyReflection on how Transport and Health Interconnections could Improve your Practice
Darganfod mwyGrowing Fruit
Darganfod mwyMrs Claire Kathleen Ward
Darganfod mwyMrs Alison Pierse
Darganfod mwy
Darganfod mwy
