Adnoddau Hyfforddiant
Adnoddau yw’r rhain o rai o'r sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus a drefnir ac a gynhelir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.
Fforwm Academi
Mae Fforwm Academi Aber yn agored i aelodau o gymuned y brifysgol: croeso i staff addysgu, tiwtoriaid ôl-raddedig, staff gweinyddol /ategol, a myfyrwyr. Mae'r Fforwm yn rhoi llwyfan i rannu arferion da wrth ddysgu ac addysgu.
Os hoffech gael gwybod am sesiynau sydd ar y gweill, anfonwch e-bost at cpdstaff@aber.ac.uk i gael eich hychwanegu at ein rhestr bostio. I weld cyhoeddiadau a chael mwy o wybodaeth gallwch hefyd ddilyn Blog Fforwm Academi Aberystwyth.
Taflenni Fforwm yr Academi
Mae taflenni o sesiynau blaenorol Fforwm yr Academi i’w cael yma.
Sesiynau yn 2022-2023
- Fforwm 4: Digital Capabilities (Rhan 1) Taflen
- Fforwm 4: Digital Capabilities (Rhan 1) PowerPoint
- Fforwm 3: Wellbeing in the Curriculum Tachwedd 2022
- Fforwm 2: How are students using Technology at Aberystwyth University? Hyd 22/23 Taflen
- Fforwm 2: How are students using Technology at Aberystwyth University? Hyd 22/23 PowerPoint
- Fforwm 1: Student Induction Hyd 22/23
Sesiynau yn 2022-2023
Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch
Gall y penderfyniadau a wnewch wrth greu deunyddiau dysgu wneud gwahaniaeth mawr i'ch myfyrwyr, yn enwedig y rhai sydd ag anabledd neu wahaniaeth dysgu penodol. Nid oes un fformiwla berffaith ar gyfer pob myfyriwr, ond gallwch sicrhau fod eich dogfennau mor hygyrch â phosib i gynifer â phosib o'r myfyrwyr. Ar ben hynny, mae dogfennau hygyrch yn haws eu defnyddio, sy'n helpu pob myfyriwr i ddysgu'n well.
Mae'r recordiadau hyn yn cynnwys dogfennau Word, PowerPoint, PDF, a ffeiliau cyfryngau y mae staff yn eu darparu'n electronig trwy Blackboard neu debyg. Byddwn yn gweithio drwy Restr Wirio Hygyrchedd Digidol ac yn esbonio sut y gall newidiadau bach helpu eich myfyrwyr.
Ar ôl gweld y dogfennau hyn, dylech allu
- Defnyddio'r Gwirydd Hygyrchedd wrth greu dogfennau MS Office
- Defnyddio Arddulliau i wneud strwythur eich deunydd yn glir i fyfyrwyr
- Defnyddio lliw a chyferbynnedd priodol i wneud dogfennau'n ddarllenadwy
- Defnyddio gosodiadau priodol wrth greu ffeiliau PDF o ddogfennau MS Office
Recordiadau
Cyflwyno'r Rhestr Wirio Hygyrchedd (2 funud)
Creu dogfennau Word hygyrch (13 munud)
Creu cyflwyniadau PowerPoint hygyrch (6 munud)
Sain a fideo hygyrch (2 funud)
Deunyddiau Ychwanegol
Taflen sesiwn hyfforddi ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch (DOCX)
Rhestr Wirio Hygyrchedd Digidol (DOCX)
Offeryn disgrifio delwedd POET
Symud i ddysgu ar-lein
Mae'r sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i addysgu ar-lein. Mae'r fideos hyn yn rhoi gwybodaeth am wahanol agweddau ar addysgu ar-lein:
Cyflwyniad (7 munud)
Defnyddio Blackboard (6 munud)
Panopto a Teams (10 munud)
Asesu (11 munud)
Meddalwedd Trydydd Parti (4 munud)
Mae gennym hefyd gyfres o recordiadau byrion ar osod gweithgareddau rhyngweithiol yn Blackboard
Trosolwg: pa weithgareddau rhyngweithiol alla i eu gwneud yn Blackboard? (5 munud)
Dod o hyd i'ch modiwl ymarfer a’i ddefnyddio (2 funud)
Blogiau (10 munud)
Byrddau Trafod (5 munud)
Wicis (4 munud)
Cyfnodolion (3 munud)
Gallwch hefyd wylio’r rhain fel un fideo (35 munud)
Adnabod ac Atal Llên-ladrad
Mae llên-ladrad ac ymddygiad academaidd annerbyniol yn faterion anodd i unrhyw un sy'n addysgu ym myd addysg uwch. Beth yw'r arwyddion o lên-ladrad posib, a sut gallwn ni ymchwilio pan fyddwn yn amau achos o lên-ladrad?
Mae hon yn gyfres o seminarau dwy ran.
Mae Rhan 1 yn ymwneud ag adnabod ac ymateb i lên-ladrad. Fe'i cynhelir ar ffurf cyfuniad o gyflwyniad / trafodaeth yn seiliedig ar y cwestiynau canlynol:
- Beth yw llên-ladrad?
- Sut mae myfyrwyr yn llên-ladrata?
- Pam fod myfyrwyr yn llên-ladrata?
- Sut mae ei adnabod?
Bydd Rhan 2 yn rhoi cyfle i gyfranogwyr drafod sut i ddatblygu asesiadau sy'n ‘cynllunio i osgoi llên - ladrad '. Byddwn yn edrych ar wahanol fathau o asesu sy'n ei gwneud yn anos i fyfyrwyr ‘dorri a gludo’ gwybodaeth o ffynonellau eraill. Byddwn yn edrych ar y defnydd o asesiad ffurfiannol i dynnu sylw at faterion posib cyn yr aseiniad terfynol. Byddwn hefyd yn edrych ar strategaethau ar gyfer ymgorffori ymddygiad academaidd da i’r cwricwlwm.
Adnoddau
- Rhestr ffynonellau llên-ladrad a thwyllo contractau - Mae'r daflen hon yn cynnwys ffynonellau y cyfeirir atynt yn y ddau weithdy a deunyddiau ychwanegol yr awgrymir eu darllen.
- Cyflwyniad Llên-ladrad rhan 2 - PDF o'r cyflwyniad o Ran 2
- Gwybodaeth y llyfrgell am Gynllunio i Osgoi Llên-ladrad
- Rhestr wirio twyllo contractau - Crëwyd gan London and South East Academic Integrity Network
- Gweithgor Twyllo Contractau
I weld adnoddau defnyddiol i fyfyrwyr, gweler y LibGuide ar Ymwybyddiaeth o Gyfeirnodi a Llên-ladrad a grëwyd gan Dîm Ymgysylltu Academaidd y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Efallai yr hoffech chi hefyd wylio rhai o'r clipiau fideo isod:
