Negeseuon diweddaraf o flog yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

    Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 1/6/2023

    Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn […]

    Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

    Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r 11eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, sydd ychydig dros fis i ffwrdd, 4-6 Gorffennaf. Diben thema’r gynhadledd eleni, Dysgu sy’n Trawsnewid: Creu Cyfleoedd i Ddysgu, yw myfyrio ar yr ymrwymiad sydd gan staff PA i wella profiad dysgu myfyrwyr. Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen lawn. Byddwn yn cael 2 […]

    Cyrsiau Ultra 2023-24

    Pan ddewch yn ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, bydd eich cyrsiau newydd yn Blackboard yn edrych ychydig yn wahanol. O fis Medi 2023, bydd yr holl gyrsiau newydd yn Blackboard yn gyrsiau Ultra. Rydym wedi bod yn defnyddio Ultra Base Navigation (UBN) yn Blackboard ers mis Ionawr 2023, ac rydym yn gwybod bod […]

    Cyhoeddi’r Prif Siaradwr: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

    Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein prif anerchiadau ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni (4-6 o fis Gorffennaf 2023).   Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor.  Archebwch eich lle heddiw. Bydd cyd-weithwyr o Blackboard a Phrifysgol Bangor yn ymuno â ni i sicrhau ein […]

    Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu: Cyhoeddi’r Siaradwr Allanol

    Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn falch o gyhoeddi ein siaradwr allanol cyntaf fel rhan o Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu eleni. Mae’n cael ei chynnal rhwng 4 a 6 Gorffennaf, a gellir archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd nawr. Bydd Michael Webb o Jisc yn trafod Deallusrwydd Artiffisial yn y sesiwn Navigating […]

    James Wood: Improving feedback literacy through sustainable feedback engagement practices

    Ddydd Mercher 10 Mai, croesawodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Dr James Wood o Brifysgol Bangor i roi rhai syniadau ynghylch ymgysylltu a dylunio adborth  myfyrwyr. Mae’r recordiad o’r sesiwn ar Panopto a gellir lawrlwytho’r sleidiau PowerPoint isod: Yn y sesiwn, amlinellodd Dr Wood Y digwyddiad mawr nesaf ar gyfer yr UDDA yw ein […]

    Cyrsiau Blackboard Ultra wedi’u creu ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2023-24

    Mae’r fersiynau gwag o gyrsiau Blackboard Ultra ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2023-24 bellach wedi cael eu creu gan ddefnyddio templed y Brifysgol, y cytunwyd arno ymlaen llaw.  Creu Cyrsiau Ultra yn gynnar yw’r cam nesaf wrth inni drosi i Blackboard Ultra ac mae’n ein paratoi ar gyfer hyfforddiant dros y misoedd nesaf. I weld eich […]

    Fyddaf fi’n gallu cael gafael ar hen gyrsiau a deunyddiau ar ôl inni symud i Ultra?

    Bydd cyrsiau’r blynyddoedd blaenorol yn parhau i fod ar gael (yn unol â pholisi cadw’r brifysgol). Byddwch chi’n gallu cael gafael ar hen gyrsiau a’u deunyddiau gan ddefnyddio’r gwymplen Cyrsiau. Sylwch fod y ffordd i gael gafael ar gyflwyniadau Turnitin o’r cyfnod cyn haf 2022 wedi newid – darllenwch ein canllawiau ar lawrlwytho cyflwyniadau Turnitin […]

    Ystyriaethau ar gyfer Canfod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

    Ysgrifennwyd y blogbost hwn gan aelodau’r Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Mae tirwedd dysgu ac addysgu yn oes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wedi bod yn datblygu’n gyflym. Fel y mae’r staff yn ymwybodol, diweddarwyd y Rheoliad Ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol  er mwyn mynd i’r afael â’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth asesu myfyrwyr. Diweddarwyd y Ffurflen Ymddygiad […]

    Branwen Rhys: aelod diweddaraf UDDA

    Ymunais â’r Uned Datblygu ac Addysgu ychydig ar ôl y Pasg eleni fel Swyddog Cefnogi E-ddysgu rhan-amser. Cyn hyn, bȗm yn gweithio fel Swyddog i’r Gofrestrfa Academaidd yn cefnogi’r Tîm Nyrsio arloesol gyda’u blwyddyn cyntaf o fyfyrwyr yn y Brifysgol. Yn wreiddiol o Ynys Mȏn, symudais i Aberystwyth yn 2005 i ddechrau swydd Llyfrgellydd Graddedig […]