Cod Agored Cyfrifiadura Cwantwm

22 Hydref 2025
Mae Alexander Pitchford o’r Adran yn un o’r datblygwyr allweddol y tu ôl i QuTiP - system feddalwedd cod agored blaenllaw sy’n cael ei defnyddio ledled y byd ym maes efelychu dynameg cwantwm, gan gefnogi ymchwil a datblygiad technolegau megis cyfrifiadura cwantwm.
Ers ei ryddhau, mae QuTiP wedi'i lawrlwytho dros filiwn o weithiau ac mae'n cael ei ddefnyddio ym mron pob prifysgol ymchwil ledled y byd yn ogystal ag mewn corfforaethau mawr a labordai ymchwil wedi'u hariannu gan lywodraethau.
Os ydych eisiau gwybod mwy, cymerwch olwg ar y post blog yma gan Andrew Oram lle mae'n edrych ar yr heriau sy'n wynebu timau a chwmniau yn y maes cyfrifiadura cwantwm sy’n adeiladu cymunedau cod agored.
