Yr Adran a'r Tablau Rhestrol

28 Medi 2026

Cafwyd ymateb hynod gadarnhaol gan ein myfyrwyr a oedd yn graddio eleni yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, gyda boddhad o 100% o ran Cymorth Academaidd ar gyfer Mathemateg. Roeddem hefyd yn falch o gael ein rhestru fel yr adran Fathemateg orau yn y DU o ran 'Addysgu ar fy Nghwrs' a 'Llais y Myfyriwr'.

Yn Nhabl Pynciau'r Guardian ar gyfer 2027, cododd yr adran i safle 13eg, gan ddod yn gyntaf o ran Boddhad ag Addysgu ac Adborth. Yng Nghanllaw Prifysgolion ('Good University Guide') y Times a'r Sunday Times ar gyfer 2027, mae Mathemateg yn Aberystwyth ar y brig yng Nghymru yn y tabl gyfer y pwnc, ac ar y brig trwy’r DU am Ansawdd yr Addysgu.