Cynllun Cyfnewid Mathemateg
Gwahoddir myfyrwyr o dramor i astudio Mathemateg yn Aberystwyth am un semester neu flwyddyn. Yn ogystal â hyn, anogir myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd o’r Deyrnas Unedig i dreulio cyfnod mewn prifysgol dramor. Gellir darganfod gwybodaeth bellach o'r Swyddfa Astudiaethau Tramor.
Mae’r prifysgolion isod â chysylltiadau Erasmus â Mathemateg yn Aberystwyth:
- Ludwig-Maximilians-Universität München, Munich, Yr Almaen
- University of Wroclaw, Gwlad Pwyl
- Nicolaus Copernicus University, Toruń, Gwlad Pwyl
- Universita di Roma, La Sapienza, Yr Eidal
Mae myfyrwyr o’r prifysgolion yn cael eu credydu am eu hastudiaethau yn Aberystwyth, trwy’r System Gyfnewid Credyd Ewropeaidd (ECTS), ac nid ydynt yn talu ffioedd dysgu yn Aberystwyth. Dylai myfyrwyr gysylltu â chydgysylltydd Erasmus yr Adran, yr Athro Gennady Mishuris, am fwy o fanylion ynghylch astudio yn Aberystwyth.
Dylai myfyrwyr tramor o brifysgolion eraill sydd am astudio Mathemateg yn Aberystwyth gysylltu â Gweinyddwr yr Athrofa gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.