Croeso Welcome
Llongyfarchiadau a chroeso i deulu Prifysgol Aberystwyth!
Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis ymuno â'n cymuned brifysgol ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi cyn hir. Bydd y tudalennau hyn, yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y cyfnod cyn i chi gyrraedd, pan ydych yn cyrraedd a beth bydd yn cymryd lle yn ystod yr wythnosau cyntaf yma yn Aber…

Amserlenni Canolog yr Wythnos Groeso 2025
Gallwch ddod o hyd i amserlenni canolog yma sy'n gysylltiedig â’r Wythnos Groeso, gan ddibynnu os ydych yn cychwyn fel Myfyriwr Nyrsio yn gynnar ym mis Medi, neu'n fwy cyffredinol lle mae'r amserlen yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng dydd Iau, 18 Medi a dydd Sadwrn, 27 Medi ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr newydd.
Am wybodaeth fanylach ynghylch y digwyddiadau a'r gweithgareddau amrywiol, cofiwch fynd i’ch Cynllunydd Ymgartefu Personol lle gallwch weld y digwyddiadau hyn ochr yn ochr â'r rhai sydd wedi eu gan eich Adran Academaidd.

Croeso gan yr Is-Ganghellor
Llongyfarchiadau a chroeso cynnes iawn i chi i Brifysgol Aberystwyth.
Dymunaf yn dda i chi dros y dyddiau a’r wythnosau cyntaf yn Aber, a gobeithio y caf eich croesawu, wyneb yn wyneb, pan gyrhaeddwch chi fis Ionawr.

Dyddiadau allweddol ar gyfer CyrraeddAber
- Wythnos Groeso Canolfan Addysg Gofal Iechyd: 1 Medi i 5 Medi 2025
- Wythnos Groeso Gwyddoniaeth Filfeddygol: 15 Medi i 19 Medi 2025
- Penwythnos Cyrraedd Myfyrwyr Newydd: 19 Medi i 21 Medi 2025
- Wythnos CroesoAber: 22 Medi i 26 Medi 2025

Ymgartrefu yn dy Adran
Mae eich Adran Academaidd methu aros i'ch croesawu.
Darganfyddwch yma am ble i fynd, gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i dy helpu i ymgartrefu, gwneud ffrindiau ac addasu i fywyd yn rhan o'ch adran newydd.
Bydd cyfleoedd yn ystod yr wythnos a thu hwnt i ddod i adnabod eich tiwtoriaid personol, a dysgu mwy am sut mae eich adran wedi ymrwymo i gefnogi eich llwyddiant academaidd a'ch datblygiad proffesiynol o'r cychwyn cyntaf.

Cofrestru
Ar y dudalen yma, mae popeth sydd angen i chi wybod o ran cofrestru gyda ni, a'r gwahanol gamau sydd angen i chi gwblhau i fod yn fyfyriwr swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth!
Mae ‘na ddau restr wirio. Mae un yn ganllaw cam wrth gam syml, a'r llall yn fersiwn ychydig mwy manwl os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.
Byddwch yn derbyn e-byst pan fydd angen i chi gwblhau camau penodol felly gwiriwch eich mewnflwch yn rheolaidd ar ôl actifadu eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth. Mae’n werth nodi'r rhestr wirio yma hefyd fel y gallwch chi neidio'n ôl i mewn pryd bynnag y bydd angen.

CynAber – Cyn Cyrraedd
Wrth edrych ymlaen at gyrraedd Aber, dewch i weld y tasgau hanfodol y bydd angen i chi eu cwblhau cyn cyrraedd trwy restr wirio wedi'i theilwra a fideos fer gan ein myfyrwyr presennol, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol cyn ymuno â'ch cymuned newydd.
Mae'r rhestrau gwirio a'r fideos byr wedi'u cynllunio i wneud pob cam o'ch taith wrth ymuno ag Aberystwyth mor esmwyth â phosibl.

CyrraeddAber – Cyrraedd ac Ymgartrefu
Wedi cyrraedd Aber, dewch i weld y tasgau hanfodol y bydd angen i chi eu cwblhau yn y diwrnodau cyntaf drwy restr wirio wedi'i theilwra a fideos fer gan ein myfyrwyr presennol, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am ymuno â'ch cymuned newydd yn y diwrnodau cyntaf.
Mae'r rhestrau gwirio a'r fideos byr wedi'u cynllunio i wneud pob cam o'ch taith wrth ymuno ag Aberystwyth mor esmwyth â phosibl.

CaruAber – Dod i adnabod dy Brifysgol
Dyma dy le i ddarganfod, i ddysgu ac i ddatblygu.
Wrth i chi ddechrau ymgyfarwyddo â'r brifysgol rydym am gefnogi eich cyfnod pontio i'r brifysgol, ac i chi ddod i adnabod y Brifysgol yn well. Mae ein themâu CaruAber yn canolbwyntio ar saith elfen allweddol a fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o'ch amser gyda ni yn ystod eich cyfnod pontio.

Dy Gynllunydd Ymgartrefu Personol
Defnyddiwch y Cynllunydd Croeso ac Ymsefydlu i'ch helpu i ddarganfod y digwyddiadau sy'n benodol i chi yn ystod Wythnos Groeso'r Brifysgol.
Dysgwch am yr holl weithgareddau adrannol sydd wedi eu trefnu ar eich cyfer, yn ogystal â'r cyfleoedd allgyrsiol. I wneud y gorau o'ch profiadau cyntaf yn y Brifysgol a cwrdd â phobl newydd, defnyddiwch y Cynllunydd Ymsefydlu i ddarganfod pa ddigwyddiadau sy'n cymryd lle.

Dy Fywyd yn Byw ac yn Astudio Drwy’r Gymraeg
Neuadd Pantycelyn yw calon bywyd Cymraeg Prifysgol Aberystwyth a neuadd breswyl enwocaf Cymru. Mae Pantycelyn hefyd yn gartref i UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth). Mae UMCA yn cefnogi nifer o gymdeithasau Cymraeg poblogaidd megis y Geltaidd (prif gymdeithas chwaraeon Gymraeg Prifysgol Aberystwyth), Plaid Cymru Ifanc, ac Aelwyd Pantycelyn i’r rheiny ohonoch sy’n mwynhau perfformio.
Mae gweithgareddau’r Undeb yn amrywio o drefnu adloniant a digwyddiadau i ymgyrchu dros faterion addysgiadol, cymdeithasol a ieithyddol yn y Brifysgol a’r tu hwnt. Yn bwysicaf oll mae UMCA yn awyddus i sicrhau eich bod chi’n gwneud yn fawr o’ch amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn academaidd, yn gymdeithasol ac ym mhob ffordd, ac os fydd unrhyw beth yn eich poeni chi, bydd dim rhaid ichi fynd yn bell i ofyn am gyngor.