Cyllid Eingl-Normaneg

Yr Athro David Trotter

Yr Athro David Trotter

01 Chwefror 2008

Geiriadur Eingl-Normaneg yn ennill £873,669 i'r llythrennau J, K ac L
Gwnaeth Clemenceau, un o gyn arlywyddion Ffrainc, y sylw bythgofiadwy mai gwladfa i Ffrainc a aeth ar gyfeiliorn yw Lloegr. Mae tystiolaeth o'n hamgylch ym mhob man o’r gwladychu gan y Ffrancwyr: ymhlith olion gweladwy Goresgyniad y Normaniaid ym 1066 mae’r cestyll a’r eglwysi cadeiriol sy’n britho’r tirwedd.

Ond mae elfen arall, sy’n llai gweladwy ac sy’n cael ei hanghofio yn aml, sef dylanwad enfawr dyfodiad Gwilym Concwerwr a’i gefnogwyr ar ddatblygiadau’r Saesneg, ac i raddau llai ar ieithoedd Celtaidd ynysoedd Prydain.

Ar hyn o bryd, dim ond yng Ngeiriadur Saesneg Rhydychen y ceir cofnod o’r dylanwad hwn, a hwnnw’n gofnod anghyflawn, ond mae prosiect ymchwil o bwys yn Aberystwyth yn ceisio sicrhau ein bod yn deall ‘1066 a’r holl bethau ’na’ yn well – o safbwynt yr iaith o leiaf .

Daeth argraffiad cyntaf y Geiriadur Eingl-Normaneg, a gychwynnwyd ym 1947, o’r wasg rhwng 1977 a 1992. Nawr mae’n cael ei adolygu’n llwyr gyda chymorth ariannol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, sydd wedi rhoi mwy nag £800,000 eisoes tuag at y prosiect sy’n cynnwys y Geiriadur ei hun (a leolir yn Aberystwyth o dan arweinyddiaeth yr Athro David Trotter o’r Adran Ieithoedd Ewropeaidd) a chasgliad cysylltiedig o destunau wedi’u digideiddio (tuag 8 miliwn o eiriau erbyn hyn) a arweinir gan yr Athro Andrew Rothwell yn Adran Ffrangeg Prifysgol Abertawe.

Mae adolygiad y Geiriadur, a gychwynnwyd ym 1989, wedi cynhyrchu dwy gyfrol swmpus eisoes, yn cynnwys 1200 o dudalennau (yn cwmpasu A-E). Ers 2003, mae F-H wedi’u hadolygu a’u cyhoeddi ar y we, ac nawr mae’r Athro Trotter wedi cael grant sylweddol iawn (£873,669) i barhau â’r gwaith hyd at y llythyren M. Felly erbyn 2012 fe fydd hanner y geiriadur gwreiddiol wedi’i adolygu’n llwyr.

A barnu yn ôl y gwaith a wnaed hyd yn hyn, bydd y fersiwn newydd fwy na theirgwaith maint y fersiwn wreiddiol, ac fe fydd modd ymdrin â phob math o feysydd ieithyddol nad oedd modd eu hystyried yn yr argraffiad cyntaf. Mae’r meysydd ychwanegol hyn yn cynnwys testunau cyfreithiol; ysgrifennu gwyddonol; a’r swmp sylweddol o ddogfennaeth weinyddol sydd wedi goroesi o’r cyfnod rhwng dyfodiad y Normaniaid a diwedd y bymthegfed ganrif. Roedd Eingl-Normaneg yn cael ei defnyddio drwy gyfnod y cyfnod, ar ysgrifen o leiaf, yn ogystal â Lladin.

“I raddau helaeth diflannodd y Saesneg (Eingl-Sacsoneg) o’r cofnod ysgrifenedig ar ôl dyfodiad y Normaniaid ac ni ddaeth i’r amlwg eto tan y drydedd ganrif ar ddeg. Daeth iaith y concwerwyr, Eingl-Normaneg i ddisodli’r Saesneg yn yr un modd ag y cipiodd uchelwyr ac arweinwyr eglwysig Normanaidd yr awenau a disodli eu rhagflaenwyr Eingl-Sacsonaidd”, meddai’r Athro Trotter.

“Dyna esbonio sut y daeth y math hwn ar Ffrangeg i fod yn gymaint o ddylanwad ar y Saesneg: mae mwy na 50% o eirfa’r Saesneg modern yn deillio o’r ffynhonnell hon. Mae’r elfen o Ffrangeg sydd wedi dod yn rhan o Saesneg yn fwy o lawer na’r maint o franglais yn y Ffrangeg - sef y Saesneg a welir yn ddylanwad arswydus ar y Ffrangeg.”

“O’r Eingl-Normaneg yn uniongyrchol y daeth yr holl broses gyfreithiol a phrif swyddi’r wladwriaeth, a chryn nifer o eiriau pob dydd yn ogystal â geiriau tafodieithol (rhywbeth a anghofir yn aml) nad ydynt ar dafod llafaredd yn yr iaith safonol erbyn hyn.”

“Bydd y Geiriadur Eingl-Normaneg, ar ei newydd wedd, yn ein galluogi i bwyso a mesur o’r newydd yr agwedd hon ar Oresgyniad y Normaniaid, ac fe fydd yn dangos dylanwad parhaol yr Eingl-Normaniaid, rhywbeth sydd gyn bwysiced â’r cestyll a’r eglwysi cadeiriol a godwyd ganddynt.

Felly mae mwy na gronyn o wirionedd yng ngeiriau Clemenceau pan ddywedodd nad yw’r Saesneg ond Ffrangeg wedi’i hynganu’n wael,” ychwanegodd yr Athro Trotter.

Gwefan y Geiriadur Eingl-Normaneg (am ddim): http://www.anglo-norman.net.

Yr Athro David Trotter
Pennaeth yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r Athro David Trotter. Mae’n dysgu Hanes y Ffrangeg, ieithyddiaeth gymdeithasol Ffrangeg modern, Ieitheg Romáwns, a thafodieitheg. Mae ei waith ymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ieithyddiaeth Ffrangeg hanesyddol, Ffrangeg y canol oesoedd (yn enwedig mewn testunau nad ydynt yn llenyddol), tafodieitheg hanesyddol, yn Ffrangeg dwyreiniol yn enwedig, a’r Geiriadur Eingl-Normaneg. Cewch ragor o fanylion am yr adran ar y we yn http://www.aber.ac.uk/eurolangs/.

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau
Pob blwyddyn mae’r cyngor ymchwil yn darparu tua £90 miliwn o arian y Llywodraeth i dalu am waith ymchwil a gwaith astudio gan raddedigion yn y celfyddydau a’r dyniaethau, o archeoleg a llenyddiaeth Saesneg i ddylunio a dawns.

Mewn blwyddyn bydd y cyngor ymchwil yn gwneud rhyw 700 o ddyfarniadau am waith ymchwil a tua 1,500 o ddyfarniadau i raddedigion. Mae’r dyfarniadau yn cael ei wneud yn sgil proses drylwyr o adolygu gan academyddion i sicrhau mai dim ond ceisiadau o’r radd flaenaf sy’n cael eu hariannu.

Ymchwilwyr y celfyddydau a’r dyniaethau sy’n cyfrif am bron i chwarter o’r holl staff sy’n gwneud gwaith ymchwil yn y sector addysg uwch. Mae’r ansawdd a’r amrywiaeth o ymchwil a gynhelir drwy fuddsoddi arian cyhoeddus fel hyn yn rhoi buddiannau cymdeithasol a diwylliannol yn ogystal â chyfrannu at lwyddiant economaidd gwledydd Prydain.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y we yn www.ahrc.ac.uk