Arwain Llyfrgellwyr

Dr Judith Broady-Preston

Dr Judith Broady-Preston

01 Mawrth 2008

Arwain Llyfrgellwyr!
Penodwyd Dr Judith Broady-Preston, darlithydd o Adran Astudiaethau, yn arweinydd Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Proffesiynol ( Chartered Institute of Library and Information Professionals CILIP)

Bydd Dr Broady-Preston, a gafodd ei hethol yn un o 12 ymddiriedolwr newydd i fwrdd CILIP ym mis Rhagfyr 2007, yn gweithio gyda aelodau'r Cyngor i lunio strategaeth y Sefydliad ar gyfer adolygiad a datblygiad y proffesiwn.

Cafodd ei phenodiad, sydd am gyfnod penodol tan 30ain Mehefin 2008, ei gyhoeddi yn dilyn lansiad diweddar o weledigaeth newydd CIPIL o rôl gweithwyr proffesiynol ym maes gwybodaeth mewn byd o adnoddau gwybodaeth byd-eang sydd yn datblygu'n gyflym iawn.

Mae Dr Broady-Preston o’r farn fod hwn yn gyfle pwysig i lunio dyfodol y sefydliad proffesiynol sydd a 21,000 o aelodau, a thrwy hynny y proffesiwn ei hun.

“Mae blaenoriaethau er mwyn rheolaeth effeithiol o adnodau gwybodaeth a’r gwasanaethau sydd yn galluogi’r cyhoedd a busnesau i gael at y wybodaeth yma wedi ehangu ymhell tu hwnt i’r gwasanaethau a’r ddarpariaeth draddodiadol,” dywedodd.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous ac mae gymaint o ddatblygiadau newydd sydd yn ein galluogi i symud ymlaen mewn ffyrdd na oedd modd eu dychmygu tan yn ddiweddar, ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir am ein proffesiwn a’i ddyfodol.” 

“Yn ddiweddar mae ymchwil i offer storio, adennill a phrosesu gwybodaeth wedi ei ddatblygu drwy astudiaethau o wybodaeth bersonol a sefydliadol fel adnoddau. Mae astudiaethau ar hyn o bryd yn edrych ar ddisgwyliadau’r cyhoedd o safbwynt cael at wybodaeth a’r canfyddiad o wasanaethau gwybodaeth sydd rhwng y defnyddiwr a’r darparwr o safbwynt diwallu’r disgwyliadau yma. Mae aelodau CILIP yn cynrychioli ystod eang o unigolion sydd, ers dechrau gweithio ym maes gwasanaethau gwybodaeth, wedi datblygu yn sylweddol o ganlyniad i gyfleoedd datblygu proffesiynol,” ychwanegodd. 

CILIP yw’r asiantaeth genedlaethol sydd yn gosod ac yn adolygu safonau’r ddarpariaeth o wasanaethau llyfrgell a gwybodaeth yn y Deyrnas Gyfunol. Yn ogystal mae’n achredu addysg a hyfforddiant er mwyn dilysu statws proffesiynol ymysg staff gwybodaeth ac mae cymwysterau achrededig y gymdeithas yn cael eu cydnabod gan asiantaethau eraill tebyg ar draws y byd.

Cyn hyn bu Dr Broady-Preston yn cadeirio adran Cymru o’r Sefydliad Siartredig (CILIP Cymru/CILIP/Wales), ac yn ystod y cyfnod hwn bu’n goruchwylio datblygiad cyflym yn y rhwydwaith o wasanaethau gwybodaeth cyhoeddus a masnachol yng Nghymru.  Roedd hyn yn cynnwys gwaith cysylltiol gyda adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (Cymal) Llywodraeth Cynulliad Cymru, Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru, Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr a’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ar hyn o bryd mae 29 grŵp diddordeb arbennig yn cynrychioli yr ystod o ddiddordebau proffesiynol ac ymchwil i feysydd traddodiadol a newydd. Ceir manylion pellach ar y wefan http://www.cilip.org.uk/