Llyfr y Flwyddyn Cymru 2008

Llyfr y flwyddyn Cymru

Llyfr y flwyddyn Cymru

01 Mawrth 2008

Llyfr y Flwyddyn Cymru 2008
Mae dau uwch-ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth – Dr Damian Walford Davies o'r Adran Saesneg a Dr Huw Meirion Edwards o Adran y Gymraeg – yn feirniaid ar gystadleuaeth Llyfr Y Flwyddyn 2008 sydd werth £10,000 yr un i'r enillydd yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae Damian, ynghyd â’i gyd-feirniaid, y ddarlledwraig a’r awdur Mavis Nicholson, a’r newyddiadurwr, awdur a’r darlledwr Trevor Fishlock, yn beirniadu’r wobr yn yr iaith Saesneg, tra fod Huw, y ddarlledwraig Siân Thomas, a’r awdur, golygydd a’r cyfieithydd (a chyn enillydd) Aled Islwyn, yn beirniadu’r gystadleuaeth Gymraeg.

Dyfernir gwobr 2008 am gyfrolau a gyhoeddwyd yn 2007. Golyga’r broses feirniadu flwyddyn o ddarllen ymroddedig. Eleni roedd bron i 200 o lyfrau Saesneg yn gymwys a tua 60 yn y Gymraeg.  Cafodd rhestr hir o 10 llyfr yn y Gymraeg a’r Saesneg eu cyhoeddi, ynghyd â beirniadaethau, mewn digwyddiadau yn Llyfrgell Wrecsam ac yn yr Atriwm, Caerdydd ar y 12ed o Fawrth 2008.  Bydd rhestr fer o 3 llyfr yn y ddwy iaith yn cael eu cyhoeddi yng Ngwyl y Gelli a’r ddwy gyfrol fuddugol yn cael eu datgelu mewn seremoni yng Ngwestu’r Hilton yng Nghaerdydd ar y 1af o Orffennaf. 

Er taw galw am allu beirniadaethaol mae eu dyletswyddau ar Llyfr y Flwyddyn, mae Damian a Huw yn ysgrifenwyr creadigol profiadol. Mae Damian wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth a ysgrifennwyd ar y cyd, Whiteout (Parthian, 2006), a bydd ei gasgliad, Suit of Lights, yn cael ei gyhoeddi gan Seren yn gynnar flwyddyn nesaf. 

Mae penillion ganddo wedi ymddangos mewn cyfnodolion a chasgliadau gan gynnwys Poetry Wales, Modern Poetry in Translation, The Wolf, a’r Carcanet Oxford Poets Anthology, 2007. Mae hefyd wedi cyhoeddi barddoniaeth yn y Gymraeg.

Enillodd Huw gadair Eisteddod Genedlaethol Cymru, Casnewydd a’r Cylch yn 2004 am ei gerdd ‘Tir Neb’. Mae ei farddoniaeth wedi ymddangos mewn nifer o gasgliadau diweddar ac mae’n aelod o dîm talwrn y Cŵps ac yn ffigwr amlwg ym myd barddoniaeth Gymraeg gyfoes. 

Mae cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn wedi ennill ei lle ar galendr llenyddol Cymru ac mae iddi broffil a pharch rhyngwladol.

Rhestr Hir
Mae cyfrol yr Athro Richard Wyn Jones o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol y Brifysgol, Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru, yn un o ddeg cyfrol i ymddangos ar rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2008.  Cyhoeddwr y gyfrol yw Gwasg Prifysgol Cymru.