Brwydro'r Diciâu

Yr Athro Mike Young

Yr Athro Mike Young

08 Hydref 2008

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar ôl cael buddsoddiad gan y Cyngor Ymchwil ar y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg ers sawl blwyddyn, wedi trwyddedu ymchwil arloesol i bartneriaeth datblygu nid-er-elw, sy'n ymdrechu i ddatblygu brechiadau newydd a mwy effeithiol yn erbyn y diciâu (sef y ddarfodedigaeth neu ‘TB').

Mae Sefydliad Brechlyn Diciâu Byd-eang Aeras, a sefydlwyd i ddatblygu brechiadau newydd a chost-effeithiol at y diciâu i’w defnyddio yn y byd datblygiadol, wedi trwyddedu darganfyddiad protein sy’n gallu ‘dihuno’ bacteria cwsg Mycobacterium tuberculosis sy’n achosi’r diciâu.

Gellid defnyddio’r ymchwil a’r wybodaeth sylfaenol a ddeilliodd o’r gwaith ymchwil hwnnw er mwyn datblygu brechlyn sydd naill ai’n atal bacteria heintus y diciâu rhag ymsefydlu neu, i’r un ym mhob tri o bobl ar y blaned sydd eisoes yn cario haint cudd y diciâu, yn atal y bacteria sy’n cysgu rhag ‘dihuno’.

Un strategaeth arall bosib yw dihuno’r bacteria cwsg yn fwriadol o dan reolaeth er mwyn eu dinistrio â gwrthfiotigau.

Ar ddiwedd y 1990au, darganfu ymchwilwyr, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil, deulu newydd o broteinau sy’n gallu deffro bacteria a oedd i’w cael yn y corff dynol – ond nad oedd yn peri niwed - ac o’i gwmpas. Ar ôl cael eu dihuno, mae’r bacteria yn llawer mwy agored i ymosodiadau gan wrthfiotigau.

Darganfu’r tîm, o dan arweinyddiaeth yr Athrawon Mike Young a Doug Kell ym Mhrifysgol Aberystwyth, y genyn sydd yn y bacteriwm sy’n cynhyrchu’r protein, ac aethant ymlaen wedyn i ddod o hyd i’r genynnau cyfatebol yn M. tuberculosis.

Mae’r ymchwil erbyn hyn wedi’i thrwyddedu gan Aeras ar ôl blynyddoedd o waith datblygu. Mae Aeras yn bwriadu rhoi ei frechlyn ailgyfunol (AERAS-407) a seilir yn rhannol ar y gwaith a wnaed yn Aberystwyth, i gael ei dreialu’n glinigol yn 2009.

Dywedodd yr Athro Young or Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig: “Mae triniaethau presennol at y diciâu yn gallu para am fwy na chwe mis, a hyd yn oed wedyn gallai’r bacteria aros yn y corff ac achosi’r clefyd pan fyddont yn dechrau tyfu ac amlhau eto.

"Mae’n bosib y bydd ein darganfyddiad, sy’n cael ei ddatblygu yn frechlyn ar hyn o bryd, yn gallu helpu i atal yr haint parhaol rhag ymsefydlu yn y lle cyntaf, neu fel arall, gallai atal unrhyw organebau parhaol y tu mewn i unigolion sy’n cario’r diciâu cudd, rhag ailddeffro o gwbl.

”Mae’r diciâu yn lladd tuag 1.7 miliwn o bobl ledled y byd bob blwyddyn. Gobeithio y bydd ein hymchwil yn cael ei throsi yn frechlyn a allai helpu cynifer o’r bobl hyn â phosib, a hynny’n gyflym.”

Dywedodd Dr Alf Game, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil y Cyngor Ymchwil: “Daeth y darganfyddiad hwn o ymchwil i fioleg sylfaenol mewn bacteriwm arall. Mae’n dangos bod angen i ni ymdrechu i ddeall hanfodion y byd o’n cwmpas a’i bod hi’n bosib, drwy hynny, ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â heriau megis clefydau peryglus sy’n ein hwynebu ni i gyd.”

Gwnaethpwyd yr ymchwil sylfaenol gwreiddiol, gyda chyllid oddi wrth y Cyngor Ymchwil, yn y 1990au ym Mhrifysgol Aberystwyth gan yr Athrawon Mike Young a Doug Kell. Mae Doug Kell wedi’i benodi’n Brif Weithredydd newydd y Cyngor Ymchwil yn ddiweddar.

Sefydliad Brechlyn Diciâu Byd-eang Aeras
Partneriaeth datblygu nid-er-elw yw Sefydliad Brechlyn Diciâu Byd-eang Aeras. Mae’n gweithio i ddatblygu brechiadau newydd at y diciâu ac i sicrhau y byddant ar gael i bawb sydd eu hangen. Mae’n cael ei ariannu gan Sefydliad Bill a Melinda Gates, Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau UDA, a Llywodraethau’r Iseldiroedd, Denmarc a Norwy www.aeras.org

Y Cyngor Ymchwil ar y Gwyddorau Biolegol a Biotechneg
Y Cyngor Ymchwil ar y Gwyddorau Biolegol a Biotechneg yw asiantaeth y DU sy’n ariannu ymchwil i’r gwyddorau bywyd. Mae’r Cyngor yn cael ei noddi gan y Llywodraeth ac mae’n buddsoddi tua £420 miliwn bob blwyddyn mewn amrywiaeth eang o ymchwil sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i ansawdd bywydau  trigolion gwledydd Prydain ac yn cefnogi nifer o gyfranddeiliaid pwysig ym myd diwydiant, gan gynnwys y sectorau amaeth, bwyd, cemegau, gofal iechyd a fferyllol.