Llygad y Gwir!

Dr Reyer Zwiggelaar (dde)

Dr Reyer Zwiggelaar (dde)

13 Hydref 2008

Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bradford yn torri tir newydd gyda sustem oruchwylio sy'n dadansoddi tymheredd ac ymddygiad wynebau er mwyn dod o hyd i smyglwyr mewn mannau rheoli ffiniau.

Bydd camerâu yn ffilmio pobl wrth iddynt aros mewn rhesi neu wrth iddynt gael eu holi wrth fannau rheoli ffiniau i astudio golwg eu hwynebu, patrymau symud eu llygaid, ac i ba raddau mae cannwyll eu llygaid yn ymledu. Bydd delweddu thermol hefyd yn cael ei wneud oherwydd bod tymheredd y corff yn codi wrth i lif y gwaed gynyddu, sef un o'r prosesau ffisiolegol a allai ddigwydd pan fo rhywun yn ceisio dweud celwydd neu gelu gwybodaeth.

Bydd yr ymddygiadau hyn yn cael eu cofnodi gan offer prosesu delweddau soffistigedig iawn a’u dadansoddi gan gyfrifiaduron i ddod o hyd i bobl a allai fod yn anarferol o gythryblus, efallai oherwydd eu bod yn rhan o ryw weithred anghyfreithlon, megis smyglo, neu fod ganddynt ryw fwriad maleisus.

Bydd rhywun sy’n dangos llawer o’r ymddygiadau hyn sy’n gysylltiedig â thwyllo yn cael eu holi ymhellach gan staff Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig. Yn ogystal â dod o hyd i smyglwyr, gallai’r sustem hefyd ddarganfod pobl sy’n ymwneud â mathau eraill o droseddu trefnedig, megis smyglo pobl, mewnforio cyffuriau anghyfreithlon neu derfysgaeth.

Mae’r prosiect ymchwil, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianegol a Ffisegol, yn gweld Aberystwyth a Bradford yn cydweithredu â’r grŵp technoleg amddiffyn QinetiQ, yn ogystal â’r Swyddfa Gartref a’r Asiantaeth Ffiniau.

“Prif amcan y prosiect yw helpu’r Asiantaeth Ffiniau i ddod o hyd i bobl sy’n cario nwyddau gwaharddedig yn fwy effeithiol er mwyn lleihau’r maint sy’n dod i mewn i’r wlad,” meddai’r Dr Reyer Zwiggelaar, arweinydd y prosiect ac Uwch Ddarlithydd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.

“I wneud hynny byddwn yn datblygu sustem ragarweiniol a fydd yn proffilio pobl yn gyflym, heb arafu dim ar y mannau rheoli ffiniau prysur hyn, ac yn rhoi’r sustem ar brawf,” meddai Zwiggelaar. Bydd y sustem hon yn defnyddio camerâu fideo a roddir mewn mannau lle y mae teithwyr eisoes wedi cael gwybod eu bod yn cael eu monitro at ddibenion diogelwch.

Arbrofir â’r sustem mewn sawl lleoliad gwahanol yn ystod y prosiect, gan gynnwys meysydd awyr a phorthladdoedd, er mwyn sicrhau y bydd yn gweithio yn effeithiol mewn amrywiaeth o fannau rheoli ffiniau.

Dywedodd Zwiggelaar ymhellach: “Hyd yn oed pe bai gan yr Asiantaeth Ffiniau ddigon o staff i ddadansoddi golwg wynebau, byddai rhai ymddygiadau, megis patrymau symud llygaid, a allai fod yn anodd i’r staff sylwi arnynt. Mae rhai newidiadau eraill megis cynnydd bychan yn nhymheredd y corff nad oes modd i’r llygaid dynol eu gweld.

“Er ei bod hi’n anodd cuddio’r gweithgarwch ffisiolegol hyn, byddai hi’n amhosib gweld yr ymddygiad hwn ymhlith y miloedd lawer o bobl sy’n mynd drwy’r mannau tollau mewn meysydd awyr bob dydd. Gobeithiwn y bydd y sustem yn rhoi help llaw sylweddol i staff yr Asiantaeth Ffiniau,” meddai Zwiggelaar.

Mae’r prosiect ymchwil hwn, a fydd yn para am ddwy flynedd a hanner, i Ddadansoddi Wynebau drwy Broffilio Cyflym, yn dechrau ar 1 Rhagfyr a disgwylir iddo ddod i ben ar 31 Mai 2011. Cafwyd £552,679 o gyllid gan yr EPSRC.

Datblygu cronfa ddata o ymddygiad wynebau fydd cam cyntaf y gwaith, wedi’u tynnu o’r boblogaeth gyffredinol i fod yn waelodlin fel y gellir gweld y newidiadau ym mhrosesau ffisiolegol smyglwyr. Cynhelir cyfres o gyfweliadau â gwirfoddolwyr er mwyn hel y wybodaeth hon.
Pan fydd digon o ddata gwaelodlin wedi’i gasglu, bydd y tîm yn canolbwyntio ar sicrhau bod y gwaith prosesu data ar wynebau, tymheredd corfforol a symudiadau llygaid yn cael ei wneud yn ddigon cyflym er mwyn rhoi canlyniadau ar y pryd.

Dyma un o’r pum prosiect a ddeilliodd o wythnos cyfnewid syniadau a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2007 gan y Swyddfa Gartref ar thema Sgrinio Nwyddau. Nod yr wythnos oedd canfod beth yw’r rhwystrau presennol sy’n atal sgrinio llwythau nwyddau yn effeithiol ar hyn o bryd a chychwyn rhai prosiectau amlddisgyblaethol er mwyn goresgyn y rhwystrau hynny. Mae’r EPSRC wedi buddsoddi £2.6 miliwn yn y pum prosiect hynny.

Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianegol a Ffisegol (yr EPSRC) yw prif asiantaeth gwledydd Prydain ar gyfer ariannu ymchwil i’r gwyddorau peirianegol a ffisegol. Mae’r Cyngor Ymchwil yn buddsoddi tua £740 miliwn bob blwyddyn mewn ymchwil a hyfforddiant i uwchraddedigion i helpu Prydain i ymdrin â’r datblygiadau technolegol nesaf. Mae’r meysydd dan sylw yn amrywio o dechnoleg gwybodaeth i beirianneg strwythurol, ac o fathemateg i wyddor deunyddiau. Mae’r ymchwil hon yn sylfaen i ddatblygu economaidd gwledydd Prydain yn y dyfodol ac i welliannau yn iechyd, ffordd o fyw a diwylliant pawb. Mae’r Cyngor Ymchwil hefyd wrthi’n gweithio i hybu ymwybyddiaeth o wyddoniaeth a pheirianneg ymhlith y cyhoedd. Mae’r Cyngor hefyd yn cydweithio â Chynghorau Ymchwil eraill sy’n gyfrifol am feysydd eraill o ymchwil. Mae’r Cynghorau Ymchwil yn cydweithio ar faterion sydd o ddiddordeb cyffredin drwy Gynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig.