Ymweliad y Prif Weinidog

Chwith i'r Dde, Yr Athro Noel Lloyd, Y Prif Weinidog Rhodri Morgan a Dr Michael Abberton yn ystod yr ymweliad ag IBERS

Chwith i'r Dde, Yr Athro Noel Lloyd, Y Prif Weinidog Rhodri Morgan a Dr Michael Abberton yn ystod yr ymweliad ag IBERS

03 Hydref 2008

Bu Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhodri Morgan yn ymweld â'r Brifysgol ddydd Iau 2 Hydref i weld rhai o'r datblygiadau diweddaraf yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a’r Ganolfan Ddelweddu.

Yng nghwmni yr Is-Ganghellor, Yr Athro Noel Lloyd, cyfarfu y Prif Weinidog gyda’r Athro Mervyn Humphreys, Dr Steve Fish a Dr Michael Abberton yn IBERS Gogerddan. Bu’r Athro Humphreys a Dr Abberton yn trafod eu gwaith ar giblysiau (legumes) a ffyrdd o leihau’r defnydd o nitrogen, a bu Dr Fish yn trafod y gwaith ar gynhyrchu ethanol a chemegau diwydiannol drwy eplesu glaswellt.  

Ar ôl cinio cafodd y Prif Weinidog daith o amgylch y Ganolfan Ddelweddu yng nghwmni David Craddock, Cyfarwyddwr Masnachol Gwasanaeth Cynghori a Masnacheiddio’r Brifysgol. Yn dilyn hyn cyfarfu â Yr Athro Mike Wilkinson a’r Athro Will Haresign yn labordai IBERS ar gampws Penglais. 

Wedi ei ymweliad dywedodd y Prif Weinidog:
“Roedd hwn yn gyfle gwych i mi gael dysgu mwy am sut mae cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael ei ddefnyddio yn y ddau faes ymchwil academaidd gwahanol yma.  Ym mis Gorffennaf eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd at ddatblygu Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yma yn Aberystwyth.”

“Dyma’r buddsoddiad unigol mwyaf erioed i’r Cynulliad mewn gwyddoniaeth yng Nghymru. Rwyf yn falch ym mod wedi cael gweld gyda fy llygaid fy hunan rhywfaint o’r ymchwil sylweddol sydd yn cael ei wneud yma sydd yn berthnasol i’r agenda cynaliadwyedd a newid hinsawdd yn ei chyfanrwydd. 

“Roedd hefyd yn ddiddorol iawn cael dysgu mwy am waith y Ganolfan Ddelweddu sydd yn darparu gwasanaeth pwysig i fusnesau bychain yng Nghymru.

“Gallwch gyrraedd hyd at rhyw bwynt gyda ymchwil academaidd, ond mae’n rhaid i ni yma yn Nghymru ddysgu sut mae masnacheiddio yr ymchwil hwn a’i droi yn gwmnïoedd all-droi er mwyn denu cyllid cyfatebol o’r sector breifat a phartneriaid rhyngwladol ac ehangu y sector wyddonol a diwydiant sydd yn seiliedig ar wyddoniaeth.”     

Croesawodd yr Athro Noel Lloyd yr ymweliad:
“Mae sefydlu IBERS yn ddatblygiad strategol pwysig i’r Brifysgol ac i wyddoniaeth yng Nghymru. Mae’n bleser gennyf felly gael y cyfle cynnar hwn i groesawi Prif Weinidog i weld rhywfaint o’r gwaith sydd yn cael ei wneud yma. Mae’r Sefydliad mewn sefyllfa dda iawn i ymateb i’r heriau byd-eang pwysig, diogelwch cyflenwadau bwyd a dwr a’r defnydd cynaliadwy o dîr. Drwy ei gyfraniadau i ymchwil a’r pwyslais ar arloesi bydd cyfraniad IBERS i’r economi yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt yn un pwysig. Mae’r datblygiadau yn y Ganolfan Ddelweddu yn dangos y ffordd y mae ymchwil y Brifysgol yn rhyngwynebu gydag anghenion masnach a diwydiant.”

Ym mis Gorffennaf 2008 cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei bod yn cyfrannu £23.5m tuag at raglen ddatblygu 5 mlynedd a fydd yn gweld buddsoddiad gwerth £55 gan Brifysgol Aberystwyth mewn adnoddau ymchwil a dysgu newydd a chreu swyddi rheoli a gwyddonol. Daeth hyn yn sgil uno Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd gyda Phrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2008 a chreu Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). 

Gweledigaeth IBERS yw datblygu ymchwil gwyddonol a fydd yn gallu cael ei ddefnyddio er mwyn ymateb i heriau mawr megis newid hinsawdd, diogelwch cyflenwad bwyd a thanwydd a clefydau anifeiliaid a phlanhigion. Gyda dros 300 o staff, mwy na 1,000 o fyfyrwyr israddedig a ôl-raddedig a chyllideb flynyddol o fwy na £20 miliwn, hwn yw un o’r grwpiau ymchwil a dysgu mwyaf yn ei faes yn Ewrop. 

Agorwyd y Ganolfan Ddelweddu yn Hydref 2007. Derbyniodd £6m oddi wrth Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, swm a oedd yn cynnwys £4.4m o gronfa rhaglen Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd.

Gyda chymorth partneriaid diwydiannol Sun Micro Systems a Silicon Graphics Inc, mae gan y ganolfan gyfrifiaduron pwerus sydd yn galluogi busnesau bychain i wireddu eu syniadau drwy ddefnyddio technoleg ddelweddu 3D. Mae hefyd yn cynnwys adnodd pwysig ar gyfer ymchwil academaidd ac yn ddiweddar cafodd glod am greu y lluniau 3D cyntaf erioed o’r Haul.