Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig

Carwyn Jones AC yn anerch cynfyfyrwyr Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nghaerdydd.

Carwyn Jones AC yn anerch cynfyfyrwyr Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nghaerdydd.

20 Hydref 2008

Dydd Llun 20 Hydref 2008

Darlith Gyhoeddus Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig

“Getting the Devolution Dividend: Challenges for Wales in the Next Ten Years”

Bydd Carwyn Jones AC, Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn traddodi Darlith Gyhoeddus yn y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig, nos Fercher 29 Hydref.

“Getting the Devolution Dividend: Challenges for Wales in the Next Ten Years” fydd pwnc ei ddarlith. Caiff ei chynnal yn theatr ddarlithio A12 Adeilad Hugh Owen, ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth am 7 yr hwyr.

Derbyniodd Carwyn Jones radd yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth a chafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ben y Bont ar Ogwr yn 1999. Wedi iddo raddio bu'n astudio yn Ysgol y Gyfraith yn Ysbytai'r Frawdlys yn Llundain ac yna bu’n gweithio fel bargyfreithiwr, yn bennaf mewn llysoedd troseddol a theulu, mewn practis preifat tan iddo gael ei ethol.  

Mae’n aelod o Gabinet y Cynulliad Cenedlaethol ers 7 mlynedd, yn gyntaf fel Gweinidog Materion Gwledig, ac yna fel Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Cafodd ei benodi i’w swydd bresennol yn dilyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2007. 

Trefnir y ddarlith gan y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig sydd yn rhan o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Lansiwyd y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ym mis Ionawr 1999 er mwyn atgyfnerthu arbenigedd a gwaith Adran y Gyfraith ar y gyfraith a’r modd y mae’n cael ei chymhwyso o fewn Cymru, ac ar ddatblygiadau cyfreithiol cyffredinol sydd yn berthnasol i Gymru, ac i greu canolbwynt i’r gwaith hwn.

Un o brif amcanion y Ganolfan yw ystyried a oes persbectif penodol Cymreig i gwestiynau cyfreithiol cyffredinol o fewn cyfundrefn cyfraith gyffredin Lloegr a Chymru, a sicrhau fod datblygiadau cyfreithiol Cymreig yn cael eu gosod o fewn cyd-destun ehangach ar lefelau y Deyrnas Gyfunol, Ewrop ac yn rhyngwladol.

Nid cwestiwn sydd yn ymwneud â Chymru yn unig yw datganoli: mae’n bwnc byw yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain, a rhanbarthau Lloegr ac mewn llawer rhan arall yn Ewrop. Mae’r Ganolfan yn cydweithio gyda sefydliadau eraill ar draws y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt er mwyn ystyried datblygiadau cyfreithiol o fewn tiriogaethau datganoledig eraill drwy gynnal astudiaethau cymharol .

Ceir gwybodaeth bellach am waith y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ar y wefan http://www.aber.ac.uk/cwla/index.htm.