Gwylio'r Haul

Un o'r ddwy long ofod sydd yn rhan o STEREO, a'r Haul.

Un o'r ddwy long ofod sydd yn rhan o STEREO, a'r Haul.

10 Chwefror 2011

STEREO yn darparu'r lluniau cyntaf o’r Haul yn ei gyfanrwydd

Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig yn yr astudiaeth o’r Haul ddydd Sul y 6ed o Chwefror wrth i ddwy long ofod STEREO NASA ddarparu lluniau o’r Haul yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf.  

Lansiwyd STEREO yn Hydref 2006. Ers hynny mae’r ddwy long ofod wedi bod ymbellhau oddi wrth y Ddaear i gyfeiriadau gwahanol gan gyrraedd pwynt ddydd Sul lle’r oeddent yn cylchdroi’r Haul ar y naill ochr ar llall, 180 gradd ar wahân.

Un garfan sydd wedi bod yn dilyn y datblygiadau yma yn fanwl yw Grŵp Ffiseg Cyfundrefn yr Haul sydd yn rhan o Sefydliad Mathemateg a Ffiseg Prifysgol Aberystwyth. Mae’r Grŵp yn astudio’r gwynt heulol ac effaith yr Haul ar y ddaear.

Yn 2007 y grŵp hwn, mewn cydweithrediad â See3D, cwmni a ddeilliodd o Brifysgol Aberystwyth, oedd y cyntaf yn y Byd i gynhrychu lluniau tri dimensiwn o’r Haul gan ddefnyddio data o STEREO.

Y Delweddyddion Heliosfferig ar STEREO sydd o ddiddordeb i Dr Andy Breen a’i gydweithwyr yn y Grŵp Ffiseg Cyfundrefn yr Haul.
“Am y tro cyntaf byddwn yn gallu gweld yr Haul cyfan ar yr un pryd. Bydd yn rhoi persbectif newydd i ni ar yr hyn sydd yn digwydd ar wyneb yr Haul, ac yn arbennig y ffrwydradau sydd yn gallu lansio alldafliadau màs coronaidd.”

“Ffrwydradau anferth o ddeunydd yw’r alldafliadau yma sydd yn teithio allan o wyneb yr Haul drwy’r gwynt solar. Os bydd iddynt daro’r Ddaear gallant ddifrodi lloerennau, amharu ar gywirdeb systemau GPS, ac mewn amgylchiadau eithriadol gau rhwydweithiau trydan.  Y gwynt heulol a’r ffordd y mae’n adweithio gyda maes magnetig y Ddaear sydd yn achosi’r rhyfeddod naturiol Golau’r Gogledd neu’r Aurora Borealis.” 

“Tan hyn ni fu modd dilyn un digwyddiad ar wyneb yr Haul am fwy nag 14 diwrnod. Gan ein bod bellach yn gallu gweld yr Haul cyfan yn barhaol gallwn ddilyn ardal lle mae llawer o weithgaredd o’r dechrau’n deg, sut y mae’n datblygu ac yna’n marw.”

Gobaith Dr Breen yw bod y delweddau fydd yn cael eu darparu gan STEREO yn galluogi gwyddonwyr i ragweld beth mae’r Haul yn mynd i’w wneud a sut y gall hyn effeithio ar y Ddaear.

Yn ôl Dr Breen mae’r angen i ddeall may am yr hyn sydd yn digwydd ar wyneb yr Haul wedi dod yn fwy perthnasol yn ddiweddar gan fod tystiolaeth yn awgrymu ei fod yn dechrau ar gyfnod newydd. 

“Mae ymchwil yn awgrymu fod yr Haul yn treulio tua chwarter yr amser mewn cyfnod tawel (pan nad oes llawer o alldafliadau màs coronaidd) a chyfnod byrrach mewn Grand Maximum, pan fod cyfartaledd y gweithgaredd yn anarferol o uchel. Am yr hanner canrif ddiwethaf, ers y 1950au, mae wyneb yr Haul wedi bod yn anarferol o brysur ac mae’r rhan helaethaf o’r data sydd ganddo ni wedi ei gasglu yn ystod y cyfnod hwn, llawer ohono ers y daith ofod gyntaf yn 1956.”

“Mae’n ymddangos ein bod yn symud allan o’r cyfnod hwn a bydd y wybodaeth a ddaw o STEREO yn werthfawr iawn wrth i ni ddysgu mwy am y cyfnod tawel newydd hwn.”

Er hyn mae Dr Breen yn pwysleisio nad yw’r cyfnod tawel yn warant o ddiogelwch rhag stormydd heulol. Noda fod y storm heulol fwyaf i’w chofnodi, storm Carrington 1859, wedi digwydd yn ystod cyfnod tawel.  Gymaint fu cryfder y storm honno fel bod rhwydwaith telegraff yr Unol Daleithiau wedi ei ddiffodd a chledrau rheilffyrdd wedi cynhesu i’r graddau fod trenau wedi dod oddi arnynt, a bod  yr Aurora Borealis i’w weld yn yr awyr uwchben Bombay ac India’r Gorllewin.

Mae Dr Breen o’r farn y gallai goblygiadau storm debyg heddiw fod yn bellgyrhaeddol iawn, gan achosi dirfod difrifol i systemau GPS, systemau cyfathrebu, a pheryglu cyflenwadau trydan.

Yn 2010 yn y cyfnodolyn Solar Physics, cyhoeddodd Dr Mario Bisi, aelod arall o Grŵp Ffiseg Cyfundrefn yr Haul, yr astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o Alldafliadau Màs Coronaidd hyd yma. Dilynodd Dr Bisi alldafliad y 13eg o Fai 2005 yr holl ffordd o wyneb yr Haul hyd at y Ddaear gan edrych ar sut yr adweithiodd gyda’r gwynt heulol ar hyd y ffordd, a sut yr adweithiodd gyda’r Ddaear, ac a effeithiodd ar y Ddaear.

Cred Dr Bisi fod defnyddio’r amryw dechnegau a ddefnyddiodd yn yr astudiaeth hon, data STEREO, a thechnoleg ofodol a daearol newydd sydd yn yr arfaeth, yn mynd i hwyluso’r gwaith a’n galluogi dyrchu’n ddyfnach i wyddoniaeth sylfaenol yr Haul.

AU2911