Refferendwm 2011

Referendum 2011 - The Power Debates: Ar eu traed o'r chiwth i'r dde, Yr Athro Mike Foley, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Betsan Powys, a'r Athro Roger Scully, Pennaeth Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, gyda aelodau o'r panel.

15 Chwefror 2011

Aberystwyth yn cynnal dadl deledu y Refferendwm

Cafodd dadl deledu gyntaf Refferendwm y Cynulliad Cenedlaethol ei chynnal yn Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol nos Lun y 14eg Chwefror.

Cyflwynydd y rhaglen Referendum 2011 - The Power Debates oedd Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru a chynfyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

Aelodau’r panel oedd Nick Martin o True Wales, Russell Goodway, cyn arweinydd Llafur ar Gyngor Dinas Caerdydd, Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a chynrychiolydd yr ymgyrch Ie, a Martin Shipton, golygydd Gwleidyddol y Western Mail. 

Cafwyd trafodaeth fywiog o blaid ac yn erbyn trosglwyddo pwerau deddfu llawn i’r Cynylliad yng Nghaerdydd gan y panelwyr a’r gynulleidfa. Cynhelir yr Refferendwm ar ddydd Iau 3ydd Mawrth 2011.

Cafodd yr rhaglen ei darlledu nos Lun ar BBC1 Wales. Mae cyfle i’w gwylio eto ar-lein am hyd at 7 niwrnod ar http://www.bbc.co.uk/programmes/b00ymw6w.

AU3811