Rhagoriaeth ac Effaith

Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS yn derbyn y Wobr oddi wrth David Willetts AS, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth.  Hawlfraint Andrew Davis, Canolfan John Innes.

Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS yn derbyn y Wobr oddi wrth David Willetts AS, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth. Hawlfraint Andrew Davis, Canolfan John Innes.

25 Mawrth 2011

Dyfarnwyd un o wobrau cyntaf erioed “Excellence with Impact” Cyngor Ymchwil y Gwyddorau  Biotechnoleg a Biolegol y Deyrnas Gyfunol (BBSRC) i IBERS, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylchedd a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth. 

Cafodd enwau’r enillwyr eu cyhoeddi gan Weinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth y Deyrnas Gyfunol, David Willetts AS, mewn digwyddiad rhwydweithio busnes yn Llundain ar nos Iau 24 Mawrth 2011.

Mae’r wobr yn cydnabod y newid diwylliannol mwyaf a gyflawnwyd gan adran prifysgol yn ystod cynllun “Excellence with Impact” y BBSRC a gynhaliwyd rhwng 2008 a 2010 . Roedd 20 adran prifysgol wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth. 

Datblygwyd y gystadleuaeth er mwyn gwobrwyo a chydnabod yr adrannau prifysgol  hynny sydd wedi bod yn fwyaf gweithgar o ran mabwysiadu diwylliant sydd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi effaith a rhagoriaeth ymchwil, ochr yn ochr.

Sefydlwyd IBERS yn Ebrill 2008 yn dilyn uno Sefydliad Ymchwil yr Amgylchedd a Thir Glas, a oedd yn rhan o’r BBSRC, â Phrifysgol Aberystwyth. Mae IBERS yn parhau i dderbyn cyllid sylweddol gan y BBSRC.  

Dywedodd David Willetts, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth y Deyrnas Gyfunol:

"Mae biowyddoniaeth yn sector dwf allweddol. Dyna paham yr ydym wedi cyhoeddi buddsoddiad o £70 miliwn yn y Gyllideb i ganolfannau ymchwil y BBSRC yn Norwich a Chaergrawnt. Mae’r gwobrau yma yn cydnabod effaith gadarnhaol y biowyddorau ar yr economi a’n cymdeithas drwy arloesi, hyfforddi pobl â sgiliau uwch, gwella busnesau a gwasanaethau cyhoeddus, a denu buddsoddiadau o dramor.

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS;

“Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr bwysig hon sydd yn cydnabod y gwaith sydd wedi ei wneud i hyrwyddo newid diwylliant er mwyn creu sefydliad allblyg entrepreneraidd sydd yn arwain ac yn croesawu cenhadaeth amrywioldeb  mewn adran brifysgol fodern o’r 21ain ganrif. Hoffwn ddiolch i staff IBERS sydd wedi mabwysiadau ac sydd yn cefnogi’r newid diwylliannol hwn.”

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Rwyf wrth fy modd fod gwaith IBERS wedi ei gydnabod yn y modd hwn.  Mae’n cydnabod y pwyslais ar ymchwil sydd o safon uchel a dylanwad ehangach yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r continwwm o ymchwil pur i ymchwil cymhwysol ac arloesi yn elfen bwysig o’r gwaith yma. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld cynnydd pellach yn nylanwad y gwaith sydd yn cael ei wneud yn IBERS.”

Bu IBERS yn gweithio gyda’r BBSRC dros gyfnod o ddwy flynedd gan gynhyrchu adroddiadau cyfamser a therfynol ar weithgareddau, cyraeddiadau a llwyddiannau. Yn ystod y cyfnod hwn bu staff BBSRC yn ymweld ag IBERS i drafod y gwaith ar effaith ac i gynghori ar gyfleoedd cyllido yr oedd y BBSRC yn eu cynnig, i gynorthwyo gwyddonwyr i ymchwilio i’r effaith cymdeithasol ac economaidd posibl ar gyfer eu hymchwil.

Bu’r beirniaid yn ymweld â’r adrannau ac yn clywed am effaith y gwaith a sut yr oedd yr adran yn mynd ati i newid ei diwylliant er mwyn canolbwyntio ar bwysigrwydd ehangu effaith yr ymchwil.

Mae penderfyniad y beirniaid yn cydnabod y newid diwylliannol trawiadol a gyflawnwyd, ac yn yr adroddiad terfynol maent yn cyfeirio at y newid gwirioneddol  a gafwyd yng nghanfyddiad staff IBERS o ddylanwad ehangach ei hymchwil. Gyrrwyd hyn gan weledigaeth strategol glir ac uchelgais sydd yn canolbwyntio ar gyfraniad economaidd a chymdeithasol. Roedd y beirniaid o’r farn fod y persbectif ehangach hwn wedi ei feithrin drwy gydol y gystadleuaeth a bellach yn amlwg ac wedi gwreiddio.

Dywedodd Dr Celia Caulcott, Cyfarwyddwr Menter a Sgiliau'r BBSRC:

"Hoffwn longyfarch y pedair adran sydd wedi ennill, a chydnabod ymdrechion, brwdfrydedd a chyrhaeddiad yr 20 adran fu yn rhan o’r gystadleuaeth.

"Mae hon wedi bod yn broses ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi gweld gwaith eithriadol ac arloesedd rhagorol, a newid sylweddol yn y ffordd mae staff a myfyrwyr yn yr adrannau a fu’n rhan o’r gystadleuaeth yn gwerthfawrogi pwysigrwydd ehangach eu hymchwil. Rydym hefyd wedi cael dealltwriaeth werthfawr o’r mathau o bethau sydd yn cael eu defnyddio ar draws ein cymunedau er mwyn sicrhau’r effaith ehangaf posibl gan ymchwil sydd yn cael ei gyllido gan y BBSRC.”

Mae’r adrannau buddugol yn derbyn £150,000 yr un a’r adrannau ddaeth yn ail yn derbyn £25,000. Bydd yr arian hwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn cefnogi eu gweithgareddau effaith. Gall hyn gynnwys rhannu ymarfer da, hwyluso cydweithio gyda defnyddwyr, a darparu hyfforddiant mewn sgiliau perthnasol.

Yr Enillwyr a’r rhai ddaeth yn ail:

Newid diwylliannol mwyaf

Enillydd – Prifysgol Aberystwyth IBERS

Ail – Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Lerpwl

 

Newid effaith mwyaf

Enillydd - Coleg Gwyddorau Bywyd Prifysgol Dundee

Ail - Sefydliad Heneiddio ac Iechyd Prifysgol Newcastle