Ymddygiad anwadal llen ia

Alan Hill, cynorthwydd maes y British Antarctic Survey, yn casglu samplau o garreg fawr wenithfaen ar Ynys James Ross yn yr Antarctig.

Alan Hill, cynorthwydd maes y British Antarctic Survey, yn casglu samplau o garreg fawr wenithfaen ar Ynys James Ross yn yr Antarctig.

29 Mawrth 2011

Mae tîm o wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Leeds newydd ddychwelyd o Benrhyn Antarctica ac wedi dod o hyd i wybodaeth gyffrous newydd am ymddygiad anwadal diweddar Llen Ia Fawr Antarctica.  

Mae Llen Ia Fawr Antarctica o ddiddordeb arbennig i geowyddonwyr oherwydd ei maint a’i lleoliad gogleddol, sydd yn golygu ei bod yn ymateb yn gyflym ac mewn modd deinamig i newid hinsawdd.

Mae tîm of bedwar newydd, gan gynnwys yr Athro Neil Glasser a Dr Bethan Evans o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, newydd dreulio saith wythnos mewn gwersyll ar Benrhyn Ulu, rhan o Ynys James Ross, ac wedi mapio ardal sydd yn ymestyn dros 600 km2.

AU7211