Prifysgolion Cymru’n tanio tyfiant

Tanio tyfiant: Buddsoddwyd £6.8m yn y Ganolfan Ffenomeg Genedlaethol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Tanio tyfiant: Buddsoddwyd £6.8m yn y Ganolfan Ffenomeg Genedlaethol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

11 Mehefin 2013

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw, dydd Mawrth 11 Mehefin, gan arbenigwyr addysg uwch blaenllaw wedi canfod fod gan brifysgolion Cymru effaith o bron i £2.6bn ar economi’r genedl, a bod y ffigwr hwn yn cyrraedd £3.6bn unwaith y cynhwysir gwariant oddi ar y campws gan fyfyrwyr.

Mae’r adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Addysg Uwch Cymru ac a gynhaliwyd gan Viewforth Consulting yn dangos fod y sector addysg uwch yn un o ddiwydiannau mwyaf gwerthfawr Cymru trwy greu miloedd o swyddi, cynhyrchu tua 3% o Gynnyrch Domestig Gros y genedl ac ennill mwy na £400m o incwm allforio mawr ei angen trwy refeniw tramor a thrwy i fyfyrwyr tramor ddod i astudio yng Nghymru.

Daw’r astudiaeth a gyhoeddwyd yn ystod wythnos Prifysgolion Cymru - Tanio Tyfiant, ymgyrch sy’n tanlinellu pwysigrwydd y sector i economi Cymru, i’r casgliad fod gwariant oddi ar y campws gan fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru yn cyfrannu mwy nac £1bn i’r economi bob blwyddyn, a bod bron i 3% o weithlu Cymru yn gweithio mewn swyddi a grëwyd gan ei phrifysgolion.

Er bod y sector yn cyflogi tua 16,241 o aelodau staff llawn-amser ei hunan, ar ôl cynnwys “sgîl-effaith” swyddi a grëwyd mewn diwydiannau eraill sy’n gysylltiedig â phrifysgolion yng Nghymru, credir fod cyfanswm y swyddi a grëwyd ychydig yn brin o 39,000.

Gan fod y swyddi ar draws sbectrwm eang o alwedigaethau, gan gynnwys nifer o swyddi crefftus a lled-grefftus, mae’r ffigyrau hyn yn dangos sut mae dyfodol y sector wedi’i gysylltu’n agos iawn â bywiogrwydd economaidd Cymru i’r dyfodol.

Meddai cyd-awdur yr ymchwil, Ursula Kelly o Viewforth Consulting: “Mae canfyddiadau’r adroddiad yn amlygu rôl allweddol Prifysgolion Cymru yn tanio economi Cymru. Rydym wedi defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o system modelu effaith economaidd Universities UK i sicrhau bod y ffigyrau mor fanwl-gywir a chadarn ag y gallant fod, ac mae’r canlyniadau’n dangos sut mae’r sector addysg uwch yn ffactor economaidd o bwys a’i fod yn ddiwydiant ynddo’i hun trwy gynhyrchu allbwn economaidd, swyddi, Cynnyrch Domestig Gros a chefnogi cymunedau ar hyd  lled y wlad.”

Dywedodd yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor a Chadeirydd Addysg Uwch Cymru: “Er y bu’n amlwg erioed fod ein prifysgolion o gryn bwys i Gymru trwy gynnal a chefnogi datblygiad economaidd trwy addysg ac ymchwil, mae’r ffigyrau hyn yn dangos gwir bwysigrwydd cyfraniad prifysgolion i’w cymunedau lleol ac economi ehangach Cymru, trwy gynnal miloedd o swyddi ‘canlyniadol’ y tu hwnt i gampysau.

 “Mae’r adroddiad yn dangos, am bob £1m o refeniw mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, fod £1.03m ychwanegol yn cael ei gynhyrchu yn economi Cymru. Os ychwanegwch y canfyddiadau hyn at y canlyniadau cadarnhaol i Gymru yn arolwg diweddar Addysg Uwch – Rhyngweithiad Busnes a’r Gymuned, a ddangosodd fod prifysgolion Cymru’n gwneud cyfraniad ymhell y tu hwnt i’w maint i’r economi, fe gewch ddarlun o sector sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i danio tyfiant economaidd er mwyn ceisio creu Cymru fwy ffyniannus.”

Wrth gyfeirio at y cyhoeddiad heddiw dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews: “Mae ein Prifysgolion yn ganolog i danio’r economi yng Nghymru, cefnogi diwydiant, ymchwil ac arlwyed a chreu swyddi. Mae’r ffigyrau arwyddocaol a rhyddhawyd heddiw yn tanlinellu pwysigrwydd y sector addysg uwch i Gymru fel cyfanwaith ac rydym ni, fel Llywodraeth, yn gwneud oll y gallwn i gefnogi a chryfhau’r sector a sicrhau ei lwyddiant a chynaliadwyedd hir dymor.

Paratowyd yr astudiaeth trwy ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o system modelu effaith economaidd Universities UK, lle’r archwiliwyd nodweddion economaidd allweddol y sector addysg uwch yng Nghymru yn ystod blwyddyn ariannol 2011-12, ynghyd â’r agweddau hynny o’i gyfraniad i’r economi y gellir eu mesur yn hwylus, i greu adroddiad sy’n cynnig yr archwiliad mwyaf manwl-gywir a chyfredol o’r cyfraniad mesuradwy a wna prifysgolion i economi Cymru.

O dan adain Addysg Uwch Cymru, daeth pob sefydliad at ei gilydd yn rhan o wythnos o weithgarwch i amlygu pwysigrwydd y sector i ddatblygiad economaidd y genedl, yn ogystal â thynnu sylw’r cyhoedd at y ffordd y mae prifysgolion yn elwa Cymru yn gyffredinol - yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

Mae mwy o wybodaeth am Prifysgolion Cymru – Tanio Tyfiant, a’r sector yn gyffredinol, ar gael trwy fynd i www.thinkwales.ac.uk

Crynodeb Gweithredol o’r adroddiad

•        Roedd  cyfanswm effaith prifysgolion Cymru ar ei heconomi bron yn £2.6bn ond cododd i  £3.6bn pan gynhwyswyd effaith ei myfyrwyr hefyd

•        Cynhyrchodd prifysgolion Cymru GVA Cymreig o £1.46bn – sydd gyfwerth â thua 3% o gyfanswm Cynnyrch Domestig Gros Cymru

•        Creodd gweithgarwch addysg uwch yng Nghymru 38,802 o swyddi ledled y wlad a chyfanswm o 43,294 ledled gwledydd Prydain. O’r rhain, mae 16,421 yn weithwyr llawn-amser y prifysgolion

•        Bydd pob £1m o refeniw sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn cynhyrchu effaith allbwn eilaidd pellach o £1.03m yn economi Cymru

•        Mae cyfanswm gwariant myfyrwyr oddi ar y campws ym mhrifysgolion Cymru yn cyfrannu mwy nac £1bn i economi Cymru bob blwyddyn

•        Cynhyrchodd prifysgolion Cymru £218m o refeniw rhyngwladol - cyfraniad pwysig i fantolen masnach y DG

•        Yn ystod 2012, cyfanswm refeniw’r sector addysg uwch yng Nghymru oedd £1.3bn

•        Denodd prifysgolion Cymru 25,270 o fyfyrwyr o’r tu allan i wledydd Prydain, ac amcangyfrifir fod cyfanswm eu gwariant personol hwythau oddi ar y campws tua £195m; mae hyn hefyd yn codi proffil y wlad dramor, yn denu mwy o fuddsoddiad ac yn ychwanegu at gyfoeth ac amrywiaeth cymuned y myfyrwyr

•        Am bob 100 o swyddi cyfwerth â llawn-amser sy’n cael eu creu ym mhrifysgolion Cymru, caiff 84 o swyddi eraill eu creu mewn diwydiannau eraill yng Nghymru

•        Mae pob £1m a dderbynnir gan brifysgolion Cymru yn creu 12.73 o swyddi prifysgol llawn-amser a 10.69 o swyddi llawn-amser eraill mewn diwydiannau eraill yng Nghymru.