Cynllun Hyfforddi Graddedigion

Y graddedigion dan hyfforddiant, (chwith i’r dde), Rebecca Hubball, Jennifer Loffman, Christine Szineer, Rhodri Jones, Linda Thompson a Samantha Windows.

Y graddedigion dan hyfforddiant, (chwith i’r dde), Rebecca Hubball, Jennifer Loffman, Christine Szineer, Rhodri Jones, Linda Thompson a Samantha Windows.

12 Mehefin 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi ymgyrch gyntaf Prifysgolion Cymru – Tanio Tyfiant, sef dathliad o gyfraniad y sector addysg uwch yng Nghymru.

Yr wythnos hon (10-14 Mehefin), mae’r Brifysgol yn tynnu sylw at ei rôl hanfodol yn darparu swyddi a thwf yng Nghymru drwy ei Chynllun Hyfforddi Graddedigion arloesol.

Mae’r digwyddiadau yn cynnwys ffilm fer ac arddangosfa yn y Senedd ym Mae Caerdydd am y rhaglen sy'n rhoi mynediad i yrfa eithriadol o gyffrous ac amrywiol mewn Addysg Uwch.

Mae hyfforddeion yn ennill profiad ac adeiladu dealltwriaeth o Aberystwyth fel sefydliad, ei strategaeth, ei hamgylchedd, a’n budd-ddeiliaid a fydd yn eu gosod mewn sefyllfa dda ar gyfer swyddi yn y Brifysgol neu du hwnt.

Ar ddydd Llun 10 Mehefin cynhaliwyd derbyniad gan yr Is-Ganghellor ar gyfer busnesau lleol, yr  hyfforddeion graddedig a myfyrwyr sydd wedi elwa o brofiad gwaith ar raglen Go Wales.

Yn yr un modd, bydd yr Uned Menter yn cynnal dau weithgaredd fel dilyniant i’r Wythnos Cychwyn Busnes hynod lwyddiannus a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf. http://www.aber.ac.uk/cy/ccs/staff-students/business-start-up/crisalis-events/business-start-up-programmes/.

Bydd y sesiynau mentora un-wrth-un busnes yn ystod yr wythnos yn cael eu cynnal gan bartner Menter y Brifysgol, Antur Busnes, fel rhan o'r Rhaglen Cymorth Dechrau Busnes i Raddedigion. 

Yn ychwanegol, mae gwahoddiad i fyfyrwyr i "sesiwn atgyfnerthu" ar ddydd Iau 13 Mehefin i gael gwybodaeth berthnasol.

Bydd hyn hefyd yn cynnig cyfle gwych i rwydweithio a hyrwyddo eu cynnyrch a'u gwasanaethau i entrepreneuriaid eraill.

Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon: "Mae hwn yn gyfle gwych ar gyfer yr holl brifysgolion yng Nghymru i weithio gyda'i gilydd ac i ddangos i wleidyddion, cymunedau lleol a busnesau yr hyn yr ydym yn ei gyfrannu i Gymru ac economi Cymru. Yma yn Aberystwyth byddwn yn canolbwyntio ar ein perthynas gyda byd busnes, masnach, ac entrepreneuriaeth, ac mae ein Cynllun Hyfforddi Graddedigion yn uchafbwynt rhaglen lawn o ddatblygu gyrfa, sgiliau rheoli gyrfa a datblygu cyflogadwyedd yr ydym yn ei chynnig.”

Gallwch gael y diweddaraf am yr holl ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos gan ddefnyddio'r hashtag #AberynTanioTyfiant ar Twitter.

AU20113