Mynediad Am Ddim

Mynediad am Ddim

Mynediad am Ddim

18 Mehefin 2013

Fe'ch gwahoddir yn gynnes iawn i ddiwrnod agored cymunedol Mynediad Am Ddim ar gyfer y dref ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dewch i ddysgu mwy am safleoedd y Brifysgol a darganfod pa ddigwyddiadau gwych sy’n digwydd yn eich Prifysgol leol.

Mae'r digwyddiadau a’r gweithgareddau am ddim ac yn addas ar gyfer pob aelod o'r teulu.

Rhowch gynnig ar gyflwyno o flaen camera yn ein stiwdio deledu broffesiynol gydag ein harbenigwyr teledu, neu beth am roi cynnig ar robotiaid a thechnoleg arloesol yr Adran Gyfrifiadureg lawr yn y BeachLab ar y promenâd.

Bydd arbenigwyr wrth law hefyd o’r Adran Hanes a Hanes Cymru i edrych ar hen luniau, llythyrau, cardiau post neu fapiau sydd yn ymwneud â’r Rhyfel Byd I a II, hanes teulu lleol, seliau cwyr a phethau cofiadwy o gyfnod symudiad yr iaith Gymraeg.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth byw, dosbarthiadau- micro, teithiau, arbrofion, sesiynau chwaraeon, arddangosiadau coginio, peintio wynebau a gemau ar y we.

Bydd lluniaeth am ddim ar gael hefyd ym mwyty Tamed Da drwy gydol y dydd.

Nid oes unrhyw bryderon ynglŷn â theithio chwaith, gan y gallwch deithio am ddim ar y gwasanaeth bws 03 trwy'r dydd bob 20 munud rhwng canol tref Aberystwyth, y Brifysgol a'r Llyfrgell Genedlaethol.

Dewch draw i ddigwyddiad BeachLab yn y Bandstand yn y dref i fachu eich tocyn bws neu o Medrus ar Gampws Penglais.

Esboniodd Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro April McMahon, "Pan gyrhaeddais i Aber bron i ddwy flynedd yn ôl, roeddwn yn ymwybodol ein bod yn trefnu dyddiau agored gwych i ddarpar fyfyrwyr, ac ers amser maith mae wedi bod yn nod i agor y campws i'r gymuned leol.

“Mae Mynediad Am Ddim yn gyfle perffaith i’n cymdogion yn y dref a'r ardal gyfagos i ddod i nabod y campysau, cwrdd â rhai o staff rhagorol y Brifysgol a chael gwybod mwy am y gwaith gwych sy’n digwydd yma.

“Rydym yn awyddus i ddathlu ein cysylltiadau cryf gyda'r gymuned leol ac annog pobl i fanteisio ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig. Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion lleol, colegau, oedolion sy’n astudio, cyflenwyr lleol a busnesau i wneud y Brifysgol hyd yn oed yn fwy croesawgar."

Bydd Mynediad Am Ddim yn cael ei gynnal o 10yb-3yp ar Ddydd Sadwrn 22 Mehefin ac mae amserlen lawn o ddigwyddiadau ar gael yma www.aber.ac.uk/access-all-areas.

Pan fyddwch yn cyrraedd, gwnewch eich ffordd i Medrus a leolir ym Mhenbryn ar Gampws Penglais, canolbwynt gweithgaredd y diwrnod.

Y lleoliadau sydd yn rhan o’r diwrnod cymunedol yw’r Bandstand ar y prom, IBERS Gogerddan, y Ganolfan Chwaraeon, Adeilad Parry-Williams, Adeilad Hugh Owen, Tamed Da a Chanolfan y Celfyddydau.

Am 3 o’r gloch y prynhawn bydd Canolfan y Celfyddydau yn cyflwyno MidMad, gŵyl gerddoriaeth rad ac am ddim ar lwyfan llys y capel gyda bandiau, barbeciw, paentio wynebau a llawer mwy.

AU20813