Cerddorfa robotaidd

Dave Price (dde) a Ian Izett, y ddau sydd wedi creu’r Gerddorfa Raspberry Pi Robotic Orchestra

Dave Price (dde) a Ian Izett, y ddau sydd wedi creu’r Gerddorfa Raspberry Pi Robotic Orchestra

20 Mehefin 2013

Bydd cerddorfa robotaidd, sy’n gyfuniad o hen offerynnau a ‘hoover’ wedi eu rheoli gan ddau gyfrifiadur bychan Raspberry Pi, yn rhoi ei pherfformiad cyhoeddus cyntaf yn y Bandstand yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin.

Datblygwyd y gerddorfa gan Dave Price ac Ian Izett o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth. Ymysg y darnau a fydd yn cael eu perfformio gan y gerddorfa Raspberry Pi mae tonau traddodiadol Cymreig megis Tŷ Crwn a chaneuon sydd wedi bod yn y siartiau yn ddiweddar, gan gynnwys Gangnam Style gan y cerddor o Dde Korea, Psy.

Bu Dave yn darlithio yn y Brifysgol ers dros 30 mlynedd. Dechreuodd ymddiddori mewn cyfrifiadureg ym mis Mawrth 1972 a thros y degawdau, mae wedi gweld cyfrifiaduron ystafell gyfan yn lleihau i faint cerdyn credyd gyda mwy o bŵer a chyflymder.

Mae Dave hefyd yn hoff o offerynnau - mae ei gasgliad yn cynnwys offerynnau llinynnol, chwythbrennau ac offerynnau taro. Dave ei hun sydd wedi adeiladu rhai ohonyn nhw, ond dydy o ddim yn gallu chwarae’r un ohonyn nhw!

Peiriannydd dylunio yn yr adran yw Ian ac mae wedi bod yn y Brifysgol ers dros ugain mlynedd. Cyn hynny, roedd yn beiriannydd electroneg gyda’r Swyddfa Bost yng nghanolfan switsio’r London Television Network.

Gan gyfuno eu diddordeb mewn technoleg a cherddoriaeth, mae Cerddorfa Robotaidd Dave ac Ian yn cynnwys dau Raspberry Pi: un Pi ydy’r ‘cerddor’, yn cynhyrchu cerddoriaeth o ffeiliau MIDI; y Pi arall ydy’r ‘arweinydd’, yn cyfarwyddo’r gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae’n robotaidd gan allweddellau trydan, glockenspiel ac organ bib.

Mae’r gerddorfa yn greadigaeth Heath Robinson go iawn, yn rhannol yn rhan o brosiect gwaith coed TAG Lefel O Dave yn 1969. 

Yn ôl Dave, “Mae yna ddiddordeb mawr yn y Raspberry Pi bach, cyfrifiadur maint cerdyn credyd, sy’n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd yn ffatri Sony UK ym Mhencoed, de Cymru. Mae sylfaenwyr y Pi am sicrhau bod cyfrifiadura yn fforddiadwy ac yn agored i bawb, fel bod pobl ifanc yn gallu datblygu eu sgiliau ym maes rhaglennu ac electroneg.”

Mae Dave wedi bod yn cefnogi canolfan leol Technocamps yn y Brifysgol, sef prosiect sy’n derbyn arian Ewropeaidd gyda’r nod o ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cyfrifiadura y tu hwnt i’r sgrin a’r bysellfwrdd arferol.

Mae canolfan Technocamps Aberystwyth wedi cyfarfod dros 800 o bobl ifanc yn y rhanbarth, gan gyflwyno ieuenctid 11 i 19 oed i amrywiaeth o destunau er mwyn eu hannog i ddod yn gynhyrchwyr technoleg, ac nid yn ddefnyddwyr technoleg yn unig.

Fe fydd y Gerddorfa Robotaidd a chreadigaethau digidol eraill i’w gweld yn Lab y Traeth, sef digwyddiad cyhoeddus sy’n rhad ac am ddim yn y bandstand yn Aberystwyth, y prom a’r traeth o 11yb hyd 3yp ar Ddydd Sadwrn, 22 Mehefin, 2013.

Mae Lab Traeth yn rhan o Mynediad Am Ddim, sef diwrnod agored i drigolion Aberystwyth a’r cyffiniau gael dysgu mwy am y brifysgol, a’i gweithgareddau, ymchwil a chyrsiau.  www.aber.ac.uk/access-all-areas

Mae’r digwyddiad un diwrnod yn agored i bawb sy’n awyddus i brofi technoleg yn yr awyr agored gyda barcutiaid yn hedfan (gyda chamerâu arnyn nhw), robotiaid tir a môr, technoleg i’w wisgo, Raspberry Pis, Arduinos, argraffu 3D, aps i ffonau symudol a llawer mwy.

Am fanylion pellach ar Lab Traeth Technocamps ewch i  http://www.technocamps.com/events/beachlab neu cysylltwch â Lisa Fisher ar 01970 622454/ lisa.fisher@technocamps.com.

Mae Technocamps yn brosiect £6 miliwn sy’n cael ei ariannu gan gyllid ESF Llywodraeth Cymru dan arweinyddiaeth Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth gyda Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg sy’n darparu sesiynau dyddiol ac wythnosol i bobl ifanc 11-19 oed ar ystod o destunau cyffrous yn seiliedig ar gyfrifiadura fel rhaglennu, roboteg, cryptograffeg, animeiddio a llawer mwy.

Mae rhaglenni Cronfeydd Strwythurol £3.2bn 2007-2013 yng Nghymru yn cynnwys y rhaglenni Cydgyfeiriant i Orllewin Cymru a’r Cymoedd (olynydd Amcan 1), a’r rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol i Ddwyrain Cymru. Caiff y rhaglenni eu cynnal drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru a’u nod yw creu cyfleoedd cyflogaeth a hybu twf economaidd.

AU22013