Ymddeoliad Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau

Canolfan y Celfyddydau

Canolfan y Celfyddydau

21 Mehefin 2013

Mae Mr Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau wedi datgan ei ymddeoliad ar ôl 28 mlynedd yn arwain y Ganolfan. Dywedodd Mr Hewson ei fod wedi mwynhau'r blynyddoedd heriol a gwerth chweil yn gweithio gyda thîm mor greadigol ac ymroddedig gan osod Canolfan y Celfyddydau yng nghanol y gymuned. Dywedodd Mr Hewson ei fod yn arbennig o awyddus i ddiolch i gynulleidfaoedd ffyddlon ac ymroddgar Canolfan y Celfyddydau; ei fraint ef oedd eu gwasanaethu.

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Aled Jones, fod Mr Hewson wedi gwneud cyfraniad sylweddol iawn dros nifer o flynyddoedd i ddatblygu rhaglen artistig Canolfan y Celfyddydau, gan gynnwys un o raglenni celfyddydau cymunedol mwyaf cynhwysfawr ac uchelgeisiol y Derynas Gyfunol, yn ganolfan flaenllaw ar gyfer y celfyddydau cyfoes gweledol yng Nghymru, rhaglen cyfryngau arloesol a sioeau cerdd yr haf o fri. Mae'r 'Ganolfan Genedlaethol flaenllaw ar gyfer y Celfyddydau' wedi dod yn un o'r lleoliadau celfyddydau mwyaf uchel ei pharch yng Nghymru ac yn y Deyrnas Gyfunol gyda dros 700,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Bu Alan Hewson hefyd yn arwain y rhaglen ailddatblygu arobryn yn 2000 a ehangodd gyfleusterau a rhaglenni artistig a masnachol Canolfan y Celfyddydau yn sylweddol, gan ei gwneud yn un o'r canolfannau celfyddydol allweddol yng Nghymru ac yn y Deyrnas Gyfunol gan ennill enw da yn rhyngwladol am ei rhaglen gwyliau uchelgeisiol. Yn fwy diweddar, ychwanegodd  Stiwdios Creadigol arobryn Thomas Heatherwick 2009 ddimensiwn newydd at waith y Ganolfan, gan gynnwys y Rhaglen Artistiaid Preswyl.

Yng nghyd-destun ehangach Cymru, bu Mr Hewson yn ymwneud ag ystod o sefydliadau i ddatblygu ffurfiau celfyddydol a chydweithrediad diwylliannol ac ef oedd Cadeirydd Creu Cymru, yr Asiantaeth Ddatblygu ar gyfer Theatrau a Chanolfannau Celf yng Nghymru.

Bydd y Brifysgol yn awr yn parhau i weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn parhau i adeiladu ar ei llwyddiannau niferus, a bydd yn gwneud pob ymdrech i benodi olynydd teilwng i Mr Hewson i arwain Canolfan y Celfyddydau ac i gynnal ei safle uchel ei pharch yn y celfyddydau yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol.

AU22413