Yr Ŵyl Gerameg Ryngwladol

Pot Castell gan yr artist of Siapan Keiko Masumoto, artist Preswyl Cerameg Siapan Toshiba yn amgueddfa’r V&A yn Llundain.

Pot Castell gan yr artist of Siapan Keiko Masumoto, artist Preswyl Cerameg Siapan Toshiba yn amgueddfa’r V&A yn Llundain.

26 Mehefin 2013

Bydd yr Ŵyl Serameg Rhyngwladol yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau yr penwythnos hwn – dydd Gwener 28 tan ddydd Sul 30 Mehefin.

Ac yn unol â’r arfer mae’r rhestr y arddangoswyr ar gyfer Gŵyl 2013 yn hynnod gyffrous. Gyda artistiaid o’r Unol Daleithiau, Corea, Tseina, Sbaen, Gwlad Pwyl a Seland Newydd yn ogystal â’r Deyrnas Gyfunol, mae’n ŵyl sydd wir yn haeddu’r disgrifiad ‘rhyngwladol’.

Mae’r Ŵyl Serameg Ryngwladol cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau bod dwy flynedd. Ers ei sefydlu ym 1987 mae’r wedi datblygu i fod y gweithgaredd serameg mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Gyfunol, gan gynnig i athrawon, myfyrwyr, artistiaid serameg, casglwyr, crochenwyr ac amaturiaid y cyfle i gyfarfod ac astudio gwaith crochenwyr talentog a phrofiadol o bob rhan o’r byd.

Mae’n weithgaredd gwych sy’n denu tua 1000 o bobl i benwythnos sy’n cynnig rhaglen orlawn o ddarlithoedd, arddangosiadau ymarferol, arddangosfeydd arbennig, sesiynau tanio ysblennydd a stondinau masnach.

Mae’r stondinau masnach a’r arddangosfeydd ar agor i’r cyhoedd gydol y penwythnos, felly mae croeso i bawb!  Hefyd cynhelir gweithgareddau ymarferol cymunedol y gall pawb gymryd rhan ynddynt.

Mae’r Artistiaid Gwadd ar gyfer 2013 yn cynnwys:  Beth Cavener Stichter (UDA), Richard Notkin (UDA), Doug Fitch (y DG), Sung Jae Choi (Corea), Rafael Perez (Sbaen), Takeshi Yasuda (Tsieina), Virginia Scotchie (UDA, mewn cydweithrediad gyda Choleg West Dean), Monika Patuszynska (Gwlad Pwyl), Jitka Palmer (y DG), Peter Lange (Seland Newydd), Duncan Shearer (Seland Newydd),  Jeremy Steward (y DG), Mick Morgan (y DG), Steve Dixon (y DG) a Conor Wilson (y DG), Keiko Masumoto (Siapan, mewn cydweithrediad gyda’r Amgueddfa V&A).


AU21313