Sefydlu Canolfan Aberystwyth ar gyfer Monitro’r Gofod a’r Ddaear

Bydd y Ganolfan yn cyfuno arbenigedd mewn roboteg y gofod, systemau ymreolaethol, synhwyro o bell a data mawr.

Bydd y Ganolfan yn cyfuno arbenigedd mewn roboteg y gofod, systemau ymreolaethol, synhwyro o bell a data mawr.

14 Gorffennaf 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â chwmni o Aberystwyth, Environment Systems Ltd, yn lansio canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol newydd, Canolfan Aberystwyth ar gyfer Monitro’r Gofod a’r Ddaear.

Mae'r Ganolfan newydd yn dwyn ynghyd arbenigedd o dair adran ac athrofa academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth; Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a'r Athrofa Ffiseg, Mathemateg a Chyfrifiadureg.

Mae'r DG yn anelu at gipio 10% o gyfran o farchnad sector ofod y byd (£37 biliwn) erbyn 2030. Dim ond drwy gymhwyso technoleg y gofod a data arsylwi’r ddaear mewn ffyrdd gwreiddiol i dechnegau newydd y bydd modd i fusnes yn y DG dyfu ar draws marchnadoedd domestig a rhyngwladol.

Mae Partneriaeth Academaidd Gofod Cymru (WASP), ar y cyd â Fforwm Aerofod Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi cynnal adolygiad o weithgaredd y gofod ar draws Cymru sy'n gweithio i ddatblygu Strategaeth Gofod Cymru. Cafodd nifer o asedau rhanbarthol allweddol eu hadnabod sy’n perthyn i Aberystwyth yn y sector lle’r rhagwelir y twf mwyaf.

Mae Canolfan Aberystwyth ar gyfer Monitro’r Gofod a’r Ddaear yn cyd-fynd yn llawn â Strategaethau gofod Llywodraethau Cymru a'r DG, a’i nod yw manteisio ac adeiladu ar y cryfderau presennol o fewn y sector, trwy ddwyn ynghyd y ddau chwaraewr allweddol sy’n cael eu hadnabod yn Strategaeth Gofod Cymru, sef Prifysgol Aberystwyth a Environment Systems Ltd.

Bydd y Ganolfan yn gweithio i ateb yr heriau sy’n wynebu defnyddwyr technoleg y gofod drwy ymchwil o safon byd sy’n cyfuno arbenigedd mewn roboteg y gofod, systemau ymreolaethol, synhwyro o bell a data mawr.

Bydd y Ganolfan yn datblygu partneriaethau cryf â diwydiant, hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth a chynyddu gallu diwydiant gofod y DG i gystadlu drwy ddefnyddio canllawiau diwydiant i gefnogi datblygiad cynnyrch a gwasanaethau gyda ffocws penodol ar fonitro ac ymwybyddiaeth sefyllfaol.

Dywedodd Yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n bleser gen i groesawu lansiad Canolfan Aberystwyth ar gyfer Monitro’r Gofod a’r Ddaear mewn partneriaeth ag Environment Systems Ltd. Mae'r Ganolfan yn adeiladu ar hanes hir o synhwyro o bell a gwyddoniaeth y gofod ardderchog yn Aberystwyth, ond a fydd yn awr yn gyrru ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ar draws y Brifysgol ac i mewn i'r sector fasnachol. Er enghraifft, bydd y Ganolfan yn gweithio gyda Champws Arloesi a Menter Aberystwyth, buddsoddiad £40m, a’r Ganolfan Phenomeg Planhigion Genedlaethol, i ddatblygu cymwysiadau ar raddfa maes a thirwedd mewn biotechnoleg amaethyddol, gan weithio gyda'n hymchwilwyr a’n partneriaid masnachol. Mae perthynas weithio’r Brifysgol ag Environment Systems Ltd yn un hir a chynhyrchiol ac mae'n bleser gweld hyn yn datblygu ymhellach gyda lansiad Canolfan Aberystwyth ar gyfer Monitro’r Gofod a Daear Monitro.”

Mi fydd gwyddonwyr y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan flaenllaw yn nhaith ofod ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i’r blaned Mawrth yn 2018, ac yn ddiweddar gwnaethon nhw gyfraniad pwysig at ddarganfod gweddillion taith ofod Beagle2.

AU23415