Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016

03 Mawrth 2016

Mae cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y Brifysgol yn ystod yr wythnos yn arwain at ac yn dilyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar ddydd Mawrth 8fed o Fawrth.

Mae rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned leol i ddod a dathlu menywod a'u cyflawniadau.

Mae uchafbwyntiau o'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gael yma ac yn cynnwys.

'Merched a gofal Grymuso Menywod yng Nghymru' sgwrs wedi ei threfnu gan Rwydwaith Cydraddoldeb y Menywod.

‘A life in Fresh Water – Kathleen Carpenter (1891–1970), a pioneering freshwater ecologist at Aberystwyth University’ Catherine Duigan a Warren Kovach yn cyflwyno.

‘Beyond the binary: All the genders we are’ yn cael ei gyflwyno gan Aberration.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno 'Menywod yng Nghymru 2016 - Pleidleisiwch dros eich dyfodol'.

Mae'r digwyddiadau yn agored i bawb fynychu.

Yn ogystal â digwyddiadau ar y campws, gwahoddir merched o bob oed i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym Mhenparcau, lle bydd sgyrsiau, grŵp trafod a gweithdai i bawb eu mwynhau.

Wrth sôn am y rhaglen o weithgareddau, dywedodd Dr Debra Croft, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae’r digwyddiadau i ddathlu’r Diwrnod yn rhan o'r calendr blynyddol yma yn Aberystwyth. Maen nhw’n cael eu cynnal er mwyn tynnu sylw at waith a chyflawniadau menywod yn ein sefydliad ac ar draws y Deyrnas Gyfunol tra ar yr un pryd yn darparu llwyfan ar gyfer trafodaeth a dadl ar faterion ehangach rydym yn eu hwynebu ym maes cydraddoldeb rhyw.

Bob blwyddyn, mae'n bleser gweld y nifer o siaradwyr nodedig sy’n cymryd rhan yn ein digwyddiadau; mae eu gyrfaoedd a chyfraniadau’n dangos yn glir rôl a gwerth merched yng nghymdeithas yr 21ain ganrif.

Mae ein dathliad o ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ac o ddigwyddiadau eraill eleni yn dystiolaeth o'n hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn Aberystwyth - cydnabyddiaeth bod cydraddoldeb yn fater i bawb."

AU7116