Nid i wyddonwyr yn unig y mae gwyddoniaeth - Dathlu Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth

14 Mawrth 2016

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu mwy na 1700 o ddisgyblion ysgol o Geredigion, Powys a Gwynedd i fwynhau arddangosfeydd gwyddoniaeth ymarferol ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau'r wythnos hon - 15, 16 & 17 o Fawrth.

Mae'r ffair wyddoniaeth tri diwrnod yn rhan o'r Wythnos Wyddoniaeth Brydeinig flynyddol sydd eleni yn cael ei chynnal rhwng yr 11eg a’r 20fed o Fawrth.

Trefnwyd y ffair wyddoniaeth gan Ganolfan Ehangu Cyfranogiad, Cydraddoldeb a Chynhwysiad Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth ac mae’n cael ei chynnal yn y Gawell Chwaraeon ar gampws Penglais.

Thema’r ffair eleni yw  ‘Nid i wyddonwyr yn unig y mae gwyddoniaeth’, ac yn ogystal â grwpiau ysgol, mae’r arddangosfa yn agored i'r cyhoedd am sesiwn gyda'r hwyr rhwng 4.00pm a 6.00pm brynhawn Mercher 16.

“Nod y Ffair Wyddoniaeth yw dangos perthnasedd y gwaith gwyddonol rhagorol sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r cyffiniau,” meddai Debra Croft, Rheolwr Canolfan Ehangu Cyfranogiad, Cydraddoldeb a Chynhwysiad Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth. “Ei ddiben yw ehangu gwybodaeth o wyddoniaeth ymhlith plant ysgol, eu hysbrydoli a dangos iddynt ba mor bwysig ydyw yn ein bywydau ni i gyd.”

Mi fydd cyfle i’r rhai sy'n mynychu’r Ffair i gymryd rhan mewn dewis eang o arddangosiadau a gweithgareddau, profiad ymarferol gyda chreaduriaid pyllau creigiog, cael cip tu mewn i swigen anferthol, trin trychfilod, adnabod parasitiaid a phryfaid, gwylio afon yn llifo, cyfarfod gyda robotiaid, gweld lluniau 3D o’r blaned Mawrth, tynnu llun gyda gwyddonydd, ac ennill gwobrau o gwis a llu o stondinau cyffrous eraill sy’n cael eu harwain gan fyfyrwyr.

Ychwanegodd Debra: "Ni allem wneud hyn heb frwdfrydedd, proffesiynoldeb a gwybodaeth yr Athrofeydd a’r Adrannau - yn staff a myfyrwyr. Mae'r sgiliau trosglwyddadwy a ddysgir ac a ddefnyddir gan ein myfyrwyr, wrth weithio gyda’r gynulleidfa ifanc a heriol hon, yn syfrdanol ac arloesol.

“Rwyf am ddiolch yn ddiffuant i'r 150+ o staff a myfyrwyr a fydd yn cymryd rhan o Fathemateg, Ffiseg, Cyfrifiadureg, Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff, Seicoleg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, sy'n rhoi o'u hamser ac egni i wneud hyn yn llwyddiant, yn ogystal â staff cymorth o adran Ystadau'r Brifysgol a'r Ganolfan Chwaraeon. Hefyd, Cyngor Sir Ceredigion, yr RSPB, Ecodyfi a COBWEB, a’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.”

AU7716