Brexit: bywyd tu allan i'r Undeb Ewropeaidd

Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth a chyn Gynrychiolydd Parhaol y DU i'r Cenhedloedd Unedig

Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth a chyn Gynrychiolydd Parhaol y DU i'r Cenhedloedd Unedig

27 Ionawr 2017

Gyda dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys yn dod â Brexit gam yn nes, bydd dau arbenigwr ar oblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud cyflwyniadau hynod amserol yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Ar ddydd Mawrth 31 Ionawr bydd yr Athro Michael Keating o Brifysgol Aberdeen yn traddodi darlith yn dwyn y teitl 'Rhwng Dwy Undeb: Brexit a'r Cenhedloedd.’

Yn ei anerchiad bydd yr Athro Keating, Cyfarwyddwr Canolfan Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar Newid Cyfansoddiadol, yn ystyried effaith posib y bleidlais o fewn y DU ac ar y setliad datganoli presennol.

Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais ac mae’n cychwyn am 6pm.

Ar ddydd Iau 2 Chwefror bydd Syr Emyr Jones Parry yn traddodi darlith yn dwyn y teitl 'Her Gweithredu Brexit a'r Oblygiadau ar gyfer Polisi Tramor Prydain.'

Mae Syr Emyr Jones Parry yn gyn Gynrychiolydd Parhaol y DU i'r Cenhedloedd Unedig ac yn aelod o grŵp cynghori Llywodraeth Cymru ar Brexit.

Cynhelir y ddarlith hon hefyd ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ond yn cychwyn ychydig yn gynharach am 4pm.

Mae’r Athro Milja Kurki, Cyfarwyddwr Ymchwil yn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, yn estyn croeso cynnes i holl fyfyrwyr, staff a thrigolion Aberystwyth i fynychu'r digwyddiadau hyn sydd yn rhad ac am ddim.

Dywedodd yr Athro Kurki: "Yn dilyn y bleidlais hollbwysig yr haf diwethaf, mae'r adran wedi ceisio annog trafodaeth ar broses 'Brexit' sydd yn mynd yn fwyfwy cymhleth a dadleuol.

"Y ddau ddigwyddiad hyn yw'r diweddaraf mewn cyfres o sgyrsiau a darlithoedd cyhoeddus sy’n ystyried beth mae gadael yr UE yn ei olygu i Aberystwyth, i Gymru, y DU a thu hwnt. Rydym yn edrych ymlaen at glywed barn arbenigol yr Athro Keating a Syr Emyr Jones Parry – ac, ar yr un pryd, yn awyddus i fod yn rhan o ddeialog ar broses sy'n bwysig i bob un ohonom, fel unigolion ac ar y cyd."

Bywgraffiadau’r siaradwyr

Yr Athro Michael Keating
Mae’r Athro Michael Keating yn Athro Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberdeen, yn Athro rhan-amser ym Mhrifysgol Caeredin ac yn Gyfarwyddwr Canolfan ESRC ar Newid Cyfansoddiadol. Mae ganddo radd BA o Brifysgol Rhydychen ac yn 1975 derbyniodd PhD o’r Brifysgol gaiff ei adnabod yn awr fel Prifysgol Glasgow Caledonian. Mae wedi dysgu mewn nifer o brifysgolion gan gynnwys Strathclyde, Gorllewin Ontario a Sefydliad Prifysgol Ewrop, yn ogystal â phrifysgolion yn Sbaen a Ffrainc. Mae'n Gymrawd o'r Academi Brydeinig, Cymdeithas Frenhinol Caeredin ac Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae wedi ysgrifennu neu olygu dros ddeg ar hugain o lyfrau ar wleidyddiaeth yr Alban, gwleidyddiaeth Ewrop, cenedlaetholdeb a rhanbarthiaeth.

Syr Emyr Jones Parry
Yn Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ganwyd Syr Emyr Jones Parry yng Nghaerfyrddin. Yn raddedig o Brifysgol Caerdydd, dyfarnwyd PhD iddo mewn Ffiseg o Gaergrawnt. Bu'n Ddiplomat o 1973 - 2007, a’i swyddogaethau olaf oedd fel Llysgennad i'r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, Cynrychiolydd Parhaol i NATO, a Chyfarwyddwr Gwleidyddol y Swyddfa Dramor. O 2007 - 2009 bu'n gadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan ar Bwerau’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Dyfodol. Mae ganddo brofiad o bob lefel o'r Llywodraeth, yr Undeb Ewropeaidd, Datblygiad Cyfansoddiadol yn y DU, Polisi Gwyddoniaeth, a Chysylltiadau Rhyngwladol.